Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 20 Medi 2017.
Diolch, Llywydd. Prynhawn da, Gweinidog, a chroeso’n ôl i’r Siambr. Ddoe, soniodd un o Aelodau eich meinciau cefn, Hefin David, ynglŷn ag adfer safleoedd tir llwyd. Nawr, rwy’n sylweddoli y gall fod yn anodd datblygu safleoedd tir llwyd, ond mae rhai safleoedd tir llwyd y gellir eu paratoi ar gyfer codi tai am bris cymharol rad. Felly, tybed beth mae eich adran yn ei wneud ar hyn o bryd mewn perthynas â datblygu safleoedd tir llwyd ar gyfer codi tai.