<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:36, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Rydych wedi crybwyll hyn o’r blaen. Pan oeddwn yn gwneud cwestiynau i’r Gweinidog gyda chi am y tro cyntaf ym mis Ebrill, fe sonioch am eich trafodaethau parhaus gydag adran Ken Skates a’r defnydd posibl o dir Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu tai ar dir llwyd, ac fe awgrymoch ar y pryd—cymerais mai dyna oedd yr awgrym o leiaf—fod yna lawer o adeiladau GIG gwag y gellid eu defnyddio at y diben hwnnw. Felly, a oes gennych ragor o fanylion ynglŷn â sut y mae’r broses hon yn mynd rhagddi, a pha mor agos ydych chi at ddatblygu unrhyw un o’r safleoedd posibl hyn?