Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 20 Medi 2017.
Wel, credaf fod cyfle enfawr yn hyn o beth. Gwelais rai o’r cynigion a gyflwynwyd; y dyddiad cau oedd dydd Gwener yr wythnos diwethaf. Mae rhai yn arloesol iawn, ar gyfer cartrefi sy’n cynhyrchu ynni—adeiladu cartref sy’n cynhyrchu trydan, fel nad oes biliau ynni i’r defnyddiwr, ond yn hytrach, gwerth ychwanegol i’r grid. Mae peth ohono’n ymwneud ag unedau modiwlar ar gyfer pobl o dan 35 oed. Felly, mae llu o gyfleoedd yno, ond byddaf yn gwneud datganiad i’r Siambr wedi i mi benderfynu ar y dyraniad.