<p>Cynllun Peilot Gofal Plant Llywodraeth Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:42, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n falch o weld y bydd nifer o’r teuluoedd yn dod o ardal Gwynedd, wedi’u cynnwys o fewn y cynllun peilot. Rwy’n credu mai treialu’r cynnig gofal plant yw’r dull cywir. Mae pawb ohonom wedi gweld bod rhai awdurdodau lleol a darparwyr eraill yn Lloegr yn cael problemau mawr wrth gyflwyno eu prosiectau. Felly, a ydych yn cytuno â mi fod y problemau y mae rhieni a darparwyr yn Lloegr eisoes wedi eu cael yn tanlinellu pwysigrwydd treialu hwn yn y lle cyntaf?