Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 20 Medi 2017.
Wel, rwy’n talu teyrnged i’r holl weithwyr gofal plant ledled Cymru. Maent yn gwneud gwaith gwych, a dylwn ddatgan buddiant gan fod fy ngwraig yn un ohonynt. Buaswn yn dweud mai hwy yw’r gorau ar gyfer darparu gwasanaethau. A gaf fi ddweud bod yr Aelod yn iawn i godi’r mater eto? Rydym yn cydnabod bod cyflwyno’r rhaglen hon ar sail raddol yn rhoi cyfle inni ddatblygu’r sector hefyd, ac rydym yn gweithio gyda’r sector er mwyn i’r bobl iawn, y datblygiad cywir o sgiliau, ddarparu’r addewid gofal plant. Mae’r sector gofal, nid yn unig ym maes gofal plant ond mewn gwasanaethau cymdeithasol i oedolion yn ogystal, yn rhywbeth y mae’r Gweinidog a minnau wedi cael nifer o drafodaethau yn ei gylch, ynglŷn â’r ffordd yr ydym yn datblygu hynny, a bydd gan Julie James, y Gweinidog sy’n gyfrifol am y rhaglen gyflogadwyedd, fwy o fanylion wrth i ni symud ymlaen.