Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 20 Medi 2017.
Rwyf wedi gofyn i bob awdurdod baratoi cynllun tywydd oer ar gyfer digartrefedd a chysgu ar y stryd er mwyn sicrhau bod cyfleusterau ar gael ar adegau penodol yn ystod cyfnod y gaeaf. Buaswn hefyd yn gofyn i’r Aelod ystyried safbwynt ei phlaid ar ble rydym yn awr: ar fin cyflwyno diwedd ar yr hawl i brynu, sy’n diogelu stoc tai cymdeithasol yng Nghymru. Felly, byddai’n dda iawn pe gallai’r Aelod ystyried cefnogi’r Bil hwnnw yn hytrach na gwrthwynebu gyda’i ffrindiau Ceidwadol.