Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 20 Medi 2017.
Buaswn yn annog yr Aelod i ysgrifennu ataf yn benodol gyda’r achosion hynny. Fe af i’r afael â hwy’n bersonol i sicrhau ein bod yn eu dadansoddi’n fanwl. Edrychwch, mae’r bobl ifanc hyn sydd mewn lleoliad maethu neu leoliad gofal plant yn hynod o agored i niwed, a dylem fod yn gwneud mwy na’r hyn a wnawn ar hyn o bryd i sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn ddiogel a’u bod yn wydn ar gyfer y dyfodol. Buaswn yn croesawu llythyr yr Aelod pan ddaw.