Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 20 Medi 2017.
Rwy’n ddiolchgar am ateb yr Ysgrifennydd Cabinet. Rydw i wedi rhoi iddo fanylion am Adam Bakhtiari, sydd yn 17, yn wreiddiol o Iran ac yn byw yn fy etholaeth i ar hyn o bryd. Mae’n wynebu sefyllfa anodd iawn pe bai e’n cael ei orfodi i symud yn ôl i Iran am resymau nad oes amser i fynd i mewn iddyn nhw ar hyn o bryd. Yn ei achos ef, nid oedd e wedi cael y gefnogaeth y gallwn ni ei disgwyl. Nid oedd e’n gallu siarad Saesneg, er enghraifft, ac roedd e wedi cael ei roi mewn sefyllfa lle nad oedd modd iddo fe gyfathrebu. So, a fyddai’r Ysgrifennydd Cabinet yn edrych unwaith eto i weld a ydy’r gefnogaeth y mae e wedi cyfeirio ati nawr yn cyrraedd y mannau cywir a’r plant, fel Adam, sydd yn haeddu pob cefnogaeth?