Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 20 Medi 2017.
Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i godi hynny, a byddaf yn gofyn i fy nhîm sy’n ymdrin â’r rhan benodol hon o’r adran i roi sicrwydd i mi ynglŷn â’r cyllid a sut y caiff ei ddosbarthu a’i ddefnyddio, yn enwedig mewn perthynas â’r gŵr ifanc rydych yn sôn amdano. Os yw’r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf gyda mwy o fanylion, fe ystyriaf hynny’n benodol yn fy ymateb.