Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 20 Medi 2017.
Mae’r Aelod yn iawn i godi’r mater hwn. Rwy’n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cael ymateb go iawn gan bobl go iawn pan fyddwn yn datblygu strategaeth. Dyna pam fod gennyf oroeswyr ar fy mhanel ymgynghorol, i ddweud wrthyf am eu profiadau bywyd go iawn, i wneud yn siŵr y gallwn ei gyflawni mewn perthynas â’r rheini. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio gyda llawer o’r unigolion yn y sector ar fodelau cyllido cynaliadwy a chytundebau gwasanaeth, i edrych eto ar ba wasanaethau sydd eu hangen ar lawr gwlad, gwasanaethau nad ydynt ond yn cael eu hysgogi gan bolisi’r Llywodraeth yn unig, ond yr hyn y mae pobl yn ei ddweud sydd ei angen arnynt yn eu cymunedau, ac edrychaf ymlaen at wneud y cyhoeddiadau a’r newidiadau hynny yn y dyfodol agos.