Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 20 Medi 2017.
Mae hon yn enghraifft dda o ble y ceir cwestiynau llawn emosiwn, a hynny’n ddealladwy, i’n gwasanaeth iechyd gwladol fynd i’r afael â hwy, ac i fod yn briodol sensitif ac eto’n gadarn ynglŷn â’n sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn gwirionedd. Ac mae’n enghraifft dda o i ba raddau rydym yn gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth am y ffordd y defnyddiwn ein hadnoddau gwerthfawr a chyfyngedig, neu a ydym yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar ymgyrchoedd. Y gwir gonest yw bod gennym grŵp arbenigol sydd wedi adolygu’r dystiolaeth ar sail glinigol ac ar sail costeffeithiolrwydd, ac maent wedi rhoi eu hargymhelliad i ni. Os wyf yn dweud yn syml y byddaf yn gwrthdroi hwnnw yn absenoldeb tystiolaeth mai dyna’r peth iawn i’w wneud ar gyfer y gwasanaeth cyfan, yna nid wyf yn credu fy mod yn cyflawni’r cyfrifoldebau sydd gennyf ac rwyf o ddifrif yn eu cylch fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i bobl Cymru.
A phan edrychwn ar yr Alban, maent wedi gwneud penderfyniad gwahanol yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd iddynt. Nid fy lle i yw ceisio egluro eu system. Pan soniwch am Loegr, fodd bynnag, mae’r gronfa cyffuriau canser yn hysbysu y bydd Avastin yn dod oddi ar y rhestr. Felly, ni fydd hwn ar gael fel mater o drefn yn y system yn Lloegr o ddiwedd y mis hwn ymlaen, gan nad yw’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol yn arfarnu bod Avastin yn gosteffeithiol yn glinigol at ddefnydd rheolaidd. Felly, os yw’r dystiolaeth yn newid, ac os yw’r pris yn newid yn ogystal â hynny, yna, wrth gwrs, gallwn edrych arno eto.
Rydym newydd fod drwy adolygiad arwyddocaol ar broses y ceisiadau cyllido cleifion unigol, i edrych eto ar y cwestiynau hyn ynglŷn â sut yr edrychir ar unrhyw fath o ymyrraeth iechyd iddi fod yn effeithiol yn glinigol ac yn gosteffeithiol hefyd. Ac nid oes neb yn anghytuno bod angen dull deuol o’r fath o wneud penderfyniadau ar gyfer ein gwasanaeth. A dyna ble mae angen i ni fod. Fel arall, mae gennym system na fydd yn fforddiadwy ac na fydd yn werth da am yr arian cyhoeddus gwerthfawr a sylweddol a gaiff ei roi i mewn i’n gwasanaeth iechyd. Dywedasom y byddai adolygiad y grŵp ceisiadau cyllido cleifion unigol wedi ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi, gyda’r holl glinigwyr wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf yn llawn. Rwyf eisoes wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth i’r Aelodau am y ffordd newydd y bydd y broses ddiwygio’n gweithio, ac rwy’n cadw at yr ymrwymiadau a wneuthum i fod yn dryloyw ynglŷn â gwybodaeth, ac i sicrhau bod yr Aelodau’n cael y newyddion diweddaraf ar ymarfer ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.