Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 20 Medi 2017.
Dechreuodd y gwaith hwn yn ystod haf 2016 pan gynhaliwyd ymarfer cychwynnol, eang ei gwmpas, i gasglu tystiolaeth er mwyn ein cynorthwyo i ddod i ddeall y prif faterion o safbwynt y gweithlu ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Cafodd hwn ei gynllunio i gynorthwyo i lywio ein dull o drafod materion y gweithlu trwy gydol y pumed Cynulliad. Clywsom gan amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion ar draws y sbectrwm sy’n ymwneud â hyfforddiant, addysgu, a recriwtio.
Yr hydref diwethaf, gwnaethom lansio’r ymchwiliad i recriwtio meddygol a chynhaliwyd ymgynghoriad ysgrifenedig pellach. Roedd ein cylch gorchwyl yn cynnwys canolbwyntio ar gapasiti’r gweithlu meddygol i ddiwallu anghenion y boblogaeth yn y dyfodol, y goblygiadau ar y gweithlu meddygol wrth i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar recriwtio a chadw meddygon. Ystyriwyd hefyd y graddau y mae prosesau recriwtio yn gydgysylltiedig, yn darparu gwerth am arian, ac yn sicrhau gweithlu meddygol cynaliadwy.
Cawsom ymateb gwych i’r ymgynghoriad, ac rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i ysgrifennu atom a chyflwyno tystiolaeth i ni yn ein cyfarfodydd ffurfiol. Yn ystod y sesiynau tystiolaeth ffurfiol, clywsom dystiolaeth gan banel o feddygon dan hyfforddiant a gynullwyd yn arbennig o bob cwr o Gymru, a hynny o faes meddygon teuluol a nifer o feysydd arbenigol mewn ysbytai. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i bawb a gyfrannodd.
Gwnaeth y dystiolaeth a glywsom ein helpu i lunio casgliadau clir iawn a’n galluogi i lunio argymhellion i’r Ysgrifennydd Cabinet a’r Gweinidog sydd, yn ein barn ni, yn rhai cadarn iawn. Fel Cadeirydd y pwyllgor, roeddwn i’n hynod o falch bod cynifer o’r bobl a gyfrannodd at yr ymchwiliad wedi gallu dod i lansiad yr adroddiad ym mis Mehefin eleni, a chredaf mai teg yw dweud i’r adroddiad gael derbyniad da iawn.
Mae ein hadroddiad yn cynnwys ystod eang o faterion ac rydym wedi gwneud cyfanswm o 16 o argymhellion i Lywodraeth Cymru y gobeithiwn iddynt gyfrannu tuag at ddarparu’r atebion hirdymor sydd eu hangen. Dyma’r meysydd penodol sy’n destun pryder: yn gyntaf, nifer fach y myfyrwyr o Gymru sy’n sicrhau lleoedd mewn ysgolion meddygaeth yng Nghymru—argymhellion 2, 4 a 5; yr angen i gynyddu nifer y lleoliadau addysgu a hyfforddi meddygol yn israddedig yng Nghymru—argymhellion 4, 5 a 7; yr angen am well ymgysylltu ag ysgolion i gynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n gwneud cais am le mewn ysgolion meddygaeth—argymhelliad 3 yn yr adroddiad; a’r goblygiadau ar gyfer recriwtio meddygol wrth i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd—argymhellion 15 ac 16.
Mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru, y bwrdd unigol newydd ar gyfer comisiynu, cynllunio, a datblygu addysg a hyfforddiant i weithlu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Gofynnom am gynllun gweithredu clir a gwnaethom nodi â diddordeb ddatganiad ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet, a gyflwynwyd yn fuan wedi i’n hadroddiad gael ei lansio, a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y dull o sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Rwyf hefyd yn ymwybodol i’r Gorchymyn sefydlu a’r set gyntaf o reoliadau gael eu cyflwyno gerbron y Cynulliad yr wythnos diwethaf. Edrychaf ymlaen at glywed rhagor gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch cynllun gweithredu clir ac amserlen y dyfodol.
Fel y dywedais yn gynharach, rydym yn pryderu bod nifer y ceisiadau am leoedd mewn ysgolion meddygaeth ledled y Deyrnas Unedig gan fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru yn isel ac yn gostwng. Er i’r ffigurau wella rhywfaint yn ystod cylch ceisiadau 2017, mae nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru yn dal i fod gryn dipyn yn is na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Testun pryder penodol hefyd yw nifer fach y myfyrwyr o Gymru sy’n sicrhau lleoedd mewn ysgolion meddygaeth yng Nghymru. Mae hyn yn peri pryder arbennig o ystyried y dystiolaeth a glywsom fod tuedd i fyfyrwyr, ar ôl cymhwyso, aros yn yr ardal lle’r aethant i astudio yn wreiddiol. Nodaf i Ysgrifennydd y Cabinet dderbyn yn rhannol, fel mae o’n dweud, ein hargymhellion sy’n ymwneud â’r pryderon hyn, sef argymhellion 2, 4 a 5. Er i mi, a’m cyd-Aelodau ar y pwyllgor, werthfawrogi bod meini prawf ar gyfer derbyn yn fater i ysgolion meddygaeth unigol, rwy’n falch iddo gytuno i barhau i weithio gyda'r ysgolion hynny gyda'r nod o gynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n gwneud cais.
Dywedom ein bod yn credu bod achos clir dros ehangu a chynyddu capasiti ysgolion meddygaeth yng Nghymru os ydym am fynd i'r afael â'r problemau ar hyn o bryd o ran recriwtio a chadw, a bod angen i hyn gynnwys cytuno ar gynllun clir i ddatblygu rhagor o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant meddygol israddedig mewn prif ardaloedd o dan bwysau, ac yng ngogledd Cymru yn arbennig, gan dderbyn tystiolaeth o blaid sefydlu ysgol feddygol ym Mangor gan lawer tyst—argymhellion 4, 5 a 7.
Unwaith eto, nodaf i Ysgrifennydd y Cabinet eto dderbyn yn rhannol argymhellion 4 a 5, a derbyn yn llawn argymhelliad 7, sy'n ymwneud â'n pryderon ynghylch y materion hyn. Roedd y datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 18 Gorffennaf yn cydnabod bod achos dros gynyddu lefel yr addysg feddygol a gynigir yng ngogledd Cymru, gan nodi ei safbwynt nad yw hyn yn golygu y dylid sefydlu ysgol meddygaeth newydd, yn ei dyb ef. Gwn i Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i nifer o agweddau ar waith a fydd yn symud y mater hwn yn ei flaen, a gobeithiaf i'w gyfraniad y prynhawn yma gynnwys diweddariad ynghylch y cynnydd a wnaed.
Clywsom hefyd ba mor bwysig yw ymgysylltu ag ysgolion lawer yn gynharach nag y gwneir ar hyn o bryd. Mae'n amlwg bod angen mynd â'r neges i ysgolion ledled Cymru bod meddygaeth yn yrfa y gall disgyblion anelu ati, a'i fod yn ddyhead realistig a chyraeddadwy i fyfyrwyr o bob cymuned. Gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r ddeoniaeth, a, chyn hir, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac ysgolion meddygaeth yng Nghymru, i ddatblygu rhaglen o gymorth a chyngor ynghylch trefniadau derbyn a chyfweld ar gyfer disgyblion yng Nghymru, sef argymhelliad 3. Nodaf i ymateb Ysgrifennydd y Cabinet gyfeirio at y cynlluniau profiad gwaith a gynhaliwyd yn haf 2016 gan ysgolion meddygaeth Caerdydd ac Abertawe, ac rydw i'n croesawu'r ffaith y bydd hyn yn parhau.
Hoffwn hefyd grybwyll y pryderon a glywsom ynghylch y canlyniadau posibl ac ansicr iawn o ran staffio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys recriwtio meddygol, wrth i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Clywsom ddadleuon cryf gan amrywiaeth o randdeiliaid o blaid cael penderfyniad cynnar a chlir ar allu dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd i allu gweithio yn y DU. Gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gynnal deialog efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig i bwysleisio pa mor bwysig yw gwneud y sefyllfa'n eglur yn gyflym ynglŷn â gallu dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd i barhau i weithio yn y Deyrnas Unedig, a'u gallu i ddechrau gweithio yn y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Dyna argymhellion 15 ac 16. Rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhellion hyn, ac rwy'n croesawu ei ddatganiad bod Llywodraeth Cymru yn glir ei bod am alluogi pobl o'r Undeb Ewropeaidd a gweddill y byd i hyfforddi a gweithio yn ein gwasanaeth iechyd ar ôl i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Dyna ddiwedd fy ngeiriau agoriadol, ac edrychaf ymlaen i’r drafodaeth. Diolch yn fawr.