Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 20 Medi 2017.
Mae’r adroddiad hwn yn arbennig o amserol i fy etholwyr yng Nghaerffili: mae meddygfa Bargoed yn cau ei drysau yr wythnos nesaf yn sgil dod â phractis y meddyg teulu yno i ben. Rwyf wedi cyfathrebu llawer gydag etholwyr dros yr haf, ond mae cyfathrebu gyda’r bwrdd iechyd wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol, ac mae’n rhaid i mi ganmol Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan am wella’u cyfathrebu gyda mi mewn perthynas â’r mater hwn, ac felly, rwyf wedi gallu rhoi cymaint o wybodaeth ag y gallaf ei roi i fy etholwyr wrth inni ei gael, ac mae’r wybodaeth honno wedi bod yn dod i’r amlwg wrth inni lwyddo i’w chael. Mae cleifion wedi cael eu symud i feddygfa ym Mryntirion gerllaw, ond nid yw wedi bod heb anawsterau, ac rydym yn dal i fod mewn sefyllfa sy’n datblygu. Hoffwn ddiolch hefyd felly i Ysgrifennydd y Cabinet am ymweld â Meddygfa Bryntirion gyda mi i drafod rhai o’r materion hyn, a diolch hefyd i’r pwyllgor am y dystiolaeth helaeth ac eang a gasglwyd ganddynt, a fydd yn mynd gryn dipyn o’r ffordd i helpu i ddatrys neu atal y materion hyn rhag digwydd yn fy etholaeth ac etholaethau eraill yng Nghymru yn y dyfodol.
Yn arbennig, hoffwn gyfeirio at dudalen 49 yr adroddiad. Mae tystiolaeth glir iawn yno ynghylch recriwtio meddygon teulu a’r teimladau a allai fod gan feddygon teulu newydd. Mae paragraff 164 yn dweud:
Dywedodd Dr Heidi Phillips, a oedd yn cynrychioli GP Survival, nad oedd ymarfer cyffredinol yn cael ei weld fel opsiwn deniadol, yn ôl arolwg o fyfyrwyr meddygol Abertawe oherwydd: "...maent yn gweld yr hyn a welwn ni, sef drws tro 10 munud, yn dechrau am 8.30 y bore hyd at 6.30 yr hwyr, heb unrhyw amser wedi’u neilltuo ar gyfer addysg, dim amser wedi’i neilltuo ar gyfer ehangu diddordebau eraill, a dim amser wedi’i ddiogelu ar gyfer gweinyddu hyd yn oed. Mae’n ddi-baid. Pan edrychwch ar yr ochr arall iddo, byddwch yn gweld y meddygon teulu—ein modelau rôl—sydd, o’r dystiolaeth a gyflwynais, wedi ymlâdd, wedi blino’n lân, heb gymhelliant ac wedi digalonni".
Wrth gwrs, nid yw hwnnw’n hysbyseb ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno ymuno â phractis meddyg teulu. Ond mae’r adroddiad yn adeiladol, ac yn dweud, ym mharagraff 168:
‘Rhan allweddol o’r broses o fynd i’r afael â materion yn ymwneud â llwyth gwaith a chynaliadwyedd fydd datblygu modelau gwaith newydd: credwn fod angen cyflymu’r datblygiad hwn, gan roi pwyslais mwy pendant a sylw amlycach iddo.’
Mae ‘modelau gwaith newydd’ yn allweddol yn y paragraff hwnnw, gan mai’r hyn y mae’r bwrdd iechyd wedi’i awgrymu, er mwyn denu meddygon teulu i Feddygfa Bryntirion—sydd angen meddygon teulu newydd wrth i feddygfa Bargoed gau—yw eu bod yn mynd i orfod cyflwyno model newydd o ofal sylfaenol. Yr anhawster go iawn yw hwn: sut mae esbonio i’r cyhoedd ym Margoed beth y mae model newydd o ofal sylfaenol yn ei olygu? Yr hyn y mae’n ei olygu yw bod gan Fryntirion fferyllwyr, gweithwyr proffesiynol gofal iechyd meddwl a nyrsys sy’n gallu darparu safonau gofal tebyg i feddygon teulu a lleddfu’r pwysau ar feddygon teulu. Mae hynny’n bwysig, ond yr hyn a fydd yn wirioneddol allweddol fydd egluro hynny i gleifion sy’n disgwyl gweld meddyg teulu. Gall modelau newydd o ofal sylfaenol gymryd pwysau oddi ar feddygon teulu a lleddfu’r broblem, ond rwyf eto i weld hynny’n cael ei egluro mewn modd argyhoeddiadol iawn.
Mae’r adroddiad hefyd yn crybwyll meddygon locwm i lenwi swyddi gwag meddygon teulu, a phan ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet â Meddygfa Bryntirion, clywodd gan feddyg teulu amser llawn yno fod meddygon locwm yn iawn, ond maent yn gadael llwybr o waith gweinyddol sy’n rhaid i feddygon teulu parhaol fynd ar ei ôl wedyn, ac yn ychwanegol at hynny, mae meddygon locwm yn ddrud iawn. Felly, nid yw’n datrys y broblem mewn gwirionedd, dim ond rhoi plastr arni.
Daeth Dr Paul Edwards i gysylltiad â mi hefyd, drwy Allan Rogers—roedd Allan Rogers yn arfer bod yn Aelod Seneddol dros y Rhondda, mae yn ei wythdegau erbyn hyn ac yn dal i fod yn weithgar iawn mewn gwleidyddiaeth—ac mae eisiau helpu i ddatrys y broblem hon. Gwelodd fy fideo ar Facebook mewn perthynas â Meddygfa Bryntirion a rhoddodd fi mewn cysylltiad â Dr Paul Edwards sy’n gweithio gyda Guy Lacey, pennaeth Coleg Gwent. Maent yn edrych ar ffyrdd y gall y ffynhonnell gyfoethog heb ei chyffwrdd o dalent yn y Cymoedd gogleddol gael ei recriwtio i ddod yn feddygon teulu yn y dyfodol. Byddai llawer o bobl sy’n tyfu i fyny mewn ardaloedd o amddifadedd cymharol yn gwneud meddygon da, ond oherwydd problemau diwylliannol yn ymwneud ag uchelgais mewn addysg, nid ydynt yn cael eu hannog i wneud cais i ysgolion meddygol. Llofnododd Dr Paul Edwards ei e-bost ataf: Dr Paul Edwards BSc, BM (Anrhydedd), PhD, Aelod o Golegau Brenhinol Llawfeddygon Prydain ac Iwerddon, Cymrodor o Golegau Brenhinol y Llawfeddygon, llawfeddyg ymgynghorol, uwch ddarlithydd anrhydeddus, gradd C a dwy D Safon Uwch. Felly, mae hwn yn gyfle clir i recriwtio ein meddygon teulu yn y dyfodol o ardaloedd y Cymoedd gogleddol y soniaf amdanynt bob amser. Felly, rwy’n falch o weld bod yr adroddiad yn gwneud argymhellion ar y pwnc hwn, ac rwy’n mawr obeithio bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i weithio gyda’r holl randdeiliaid ac arbenigwyr perthnasol i sicrhau bod modd gwireddu’r newid hwn a allai fod yn drawsnewidiol.