6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynghorau Iechyd Cymuned

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 5:01, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Mae dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru, ‘Gwasanaethau sy’n addas i’r dyfodol’ yn nodi nifer o gynigion gyda’r bwriad datganedig o gryfhau llais dinasyddion mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, ym marn llawer o bobl, ni fydd y cynnig sy’n ymwneud â chynghorau iechyd cymuned yn rhoi llais effeithiol ac annibynnol i gleifion yng Nghymru. Mae’r ymgynghoriad yn cynnig diddymu cynghorau iechyd cymuned ar eu ffurf bresennol a sefydlu corff newydd, yn seiliedig, mewn rhai ffyrdd, ar Gyngor Iechyd yr Alban. Byddai’r corff hwn i Gymru gyfan yn gweithio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae cynghorau iechyd cymuned yn cynrychioli budd y cyhoedd yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a’u darparu. Mae yna saith o gynghorau iechyd cymuned yng Nghymru—un ym mhob un o ardaloedd y byrddau iechyd lleol, ac yn atebol i’r un boblogaeth leol. Y rôl yw gwrando ar yr hyn sydd gan unigolion a’r gymuned i’w ddweud am wasanaethau iechyd mewn perthynas ag ansawdd, maint, mynediad at wasanaethau a phriodoldeb y gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer. Maent wedyn yn gweithredu fel llais y cyhoedd drwy adael i reolwyr y gwasanaethau iechyd wybod beth y mae pobl ei eisiau a sut y gellir gwella pethau. Yn fy marn i, bydd dileu cynghorau iechyd cymuned a sefydlu corff ar gyfer Cymru gyfan ar fodel yr Alban, yn gwanhau atebolrwydd a dylanwad y cyhoedd yn ddifrifol. Bydd yn torri’r cysylltiad hanfodol rhwng pobl leol yn dweud eu barn ynglŷn â’r gwasanaethau a ddarperir gan eu byrddau iechyd lleol. Mae cynghorau iechyd cymuned yn darparu man hygyrch i gleifion, defnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd allu ymgysylltu â’u gwasanaethau iechyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig i gleifion sy’n agored i niwed. Gall cynghorau iechyd cymuned gynrychioli buddiannau cleifion o’r fath pan nad ydynt yn gallu gwneud hynny eu hunain.

Mae perygl i bryderon cymunedau ynghylch y modd y darperir gwasanaethau lleol gael eu distewi drwy gael gwared ar y dull sefydledig ac annibynnol hwn o ymgysylltu a chraffu. Dyma elfen hanfodol ar gyfer gwella gwasanaethau yn y dyfodol o fewn y GIG yng Nghymru. Hefyd, mae diddymu’r cynghorau iechyd cymuned yn debygol o waethygu anallu byrddau iechyd i ddatrys cwynion o fewn y targed presennol o 30 diwrnod gwaith. Ar hyn o bryd, mae bron i hanner y cwynion i fwrdd iechyd Aneurin Bevan yn dal heb eu datrys ar ôl 30 diwrnod gwaith. Ni chaiff fy mhryderon eu lleddfu mewn unrhyw ffordd gan yr esiampl a osodwyd gan Gyngor Iechyd yr Alban, sef y model y mae Llywodraeth Cymru i’w gweld yn meddwl y dylem ei ddilyn. Lleisiodd Pwyllgor Iechyd a Chwaraeon Senedd yr Alban ei bryder yn gynharach eleni. Mae’r pwyllgor hwn yn cael ei gadeirio gan Neil Findlay, Aelod Llafur o Senedd yr Alban. Roeddent yn dweud eu bod yn glir nad oedd Cyngor Iechyd yr Alban, ar ei ffurf bresennol, yn cynrychioli ei hun fel corff annibynnol ar y Llywodraeth.

Mynegwyd pryderon hefyd nad yw swyddogaeth Cyngor Iechyd yr Alban yn amlwg i’r cyhoedd na’r byrddau iechyd. Ymddangosai fel pe na bai ganddo unrhyw rôl ffurfiol o ran ymgysylltu’n uniongyrchol â chleifion a’r cyhoedd a allai gael eu heffeithio gan y newidiadau arfaethedig i’r gwasanaeth. Yn wir, pan ofynnwyd i gynrychiolydd o Gyngor Iechyd yr Alban ynglŷn â phrotestiadau lleol yn erbyn newidiadau i wasanaethau, dywedodd wrth y pwyllgor nad eu rôl oedd ymgyrchu ar ran grwpiau lleol. Nid oes rhyfedd fod y pwyllgor wedi dod i’r casgliad mai ‘bochdew diddannedd’ oedd Cyngor Iechyd yr Alban. Credaf fod yn rhaid inni gadw cynghorau iechyd cymuned gyda rhagor o bwerau a chyfrifoldebau fel y ffordd orau o ddiwallu amcanion Llywodraeth Cymru a nodir yn yr ymgynghoriad hwn. Dirprwy Lywydd, nid yw’r Llywodraeth hon yng Nghymru yn hapus iawn i wneud newidiadau i’r GIG, ond maent yn ddigon hapus i wneud newidiadau i lygaid a chlustiau’r GIG ar ran y cyhoedd, ac eisiau ei newid, ac nid yw hynny’n dderbyniol. Diolch yn fawr iawn.