6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynghorau Iechyd Cymuned

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 5:12, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Fe ddywedoch chi mewn gwirionedd nad oeddech wedi clywed am gynghorau iechyd cymuned ac roedd honno’n ddadl dros iddynt beidio â bodoli. Wel, ar y sail honno, rwy’n meddwl bod yna lawer o fy etholwyr nad ydynt erioed wedi clywed am Gynulliad Cymru, ond nid wyf yn defnyddio hynny fel dadl dros ddiddymu fy hun—wel, ddim hyd yn hyn, beth bynnag, ond mae yna amser o hyd, mae’n debyg.

Edrychwch, nid oes neb—wel, ychydig iawn o bobl beth bynnag, sy’n dweud bod strwythur y cynghorau iechyd cymuned yn berffaith ar hyn o bryd neu na ddylid ei newid. Dim o gwbl; fe ddylid ei newid. Rwy’n credu ein bod i gyd yn derbyn hynny. Mae cynghorau iechyd cymuned, fel y dywedodd Eluned Morgan yn nes ymlaen, yn derbyn hynny hefyd, ond mae angen iddynt gael eu newid er gwell. Nid wyf yn meddwl bod y Llywodraeth wedi llawn werthfawrogi’r gwerth ychwanegol y mae cynghorau iechyd cymuned wedi ei roi i’r GIG yng Nghymru ers eu sefydlu. Ac ni fu proses ymgynghori ddigonol gydag aelodau o gynghorau iechyd cymuned ar fanteision ac anfanteision cymharol eu diddymu. Nawr, fel y dywedwyd, mae ganddynt hawliau statudol o dan y gyfraith i ddwyn byrddau iechyd i gyfrif. Yn allweddol, wrth gwrs, mae gwirfoddolwyr yn ymweld ag ysbytai ac yn monitro gwasanaethau ysbyty ac yn siarad â chleifion a staff mewn ysbytai. Ie, gwirfoddolwyr mewn llawer o achosion, nid arbenigwyr, yn sicr, ond gwirfoddolwyr sy’n cynnig brwdfrydedd, ymroddiad, safbwynt newydd, ac sy’n gallu diosg haenau’r nionyn biwrocrataidd a gweld i graidd materion y bydd biwrocratiaid yn aml yn eu methu.

Nawr, nid oes amheuaeth o gwbl na ddylai’r model newydd, ar ba ffurf bynnag, gadw popeth sy’n dda am y strwythur presennol. Dylai fod gan y sefydliad ddannedd—mae llawer o Aelodau’r Cynulliad yma heddiw wedi siarad am yr angen am hynny. Dylai fod yn annibynnol. Dylai allu dwyn bwrdd iechyd i gyfrif. Dylai fod mor anwleidyddol ag y bo modd, yn dryloyw, a sicrhau bod pobl yn gallu cael eu clywed.

Beth rydym mewn perygl o’i golli? Wel, yn fy marn i, dim llai na goruchwyliaeth y GIG o ddydd i ddydd o safbwynt claf, ac ni ddylid bychanu pwysigrwydd hynny. Sawl gwaith y safwn yn y Siambr hon a siarad gorchest, yn niffyg ymadrodd gwell, am bwysigrwydd gwneud y dinesydd yn ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau, boed hynny mewn perthynas â’r gwasanaeth iechyd neu’r system ofal, fel sydd hefyd wedi cael ei grybwyll yn y ddadl heddiw, neu ysgolion, neu ba faes bynnag? Cydgynhyrchu, un o hoff eiriau Mark Isherwood a hoff air ar hyn o bryd ar draws y sbectrwm gwleidyddol—ydy, mae’n ymddangos i mi fod daliadau allweddol cydgynhyrchu yn cael eu bwrw o’r neilltu a’u chwalu pan soniwn am ddyfeisio’r system newydd hon ar gyfer monitro’r GIG a’i ddwyn i gyfrif yn lleol.

Cyfarfûm yn ddiweddar â chyngor iechyd cymuned Aneurin Bevan, fy nghyngor iechyd lleol, a eglurodd i mi rai o’r meysydd y maent yn ymwneud â hwy. Yn aml, buaswn yn cyfaddef fod y meysydd hyn yn eilaidd mewn sawl ffordd yn y cynllun ehangach—yn eilaidd o leiaf i bryderon y rheolwyr, sy’n brysur yn goruchwylio ar yr haen uchaf, ac yn rheoli cyllidebau mawr. Ond maent yn feysydd sydd, i gleifion, yn hynod o bwysig, ac mewn gwirionedd mae modd eu datrys yn eithaf hawdd gydag ychydig o drefn pan geir ffocws clir arnynt. Er enghraifft, amlygodd ymweliadau CIC Aneurin Bevan â wardiau lleol ei bod yn ymddangos bod yna broblem gyda chyflenwadau isel o obenyddion a dillad gwely, yn enwedig ar benwythnosau a gwyliau banc. Cafodd hyn ei ddatrys yn eithaf hawdd mewn gwirionedd, ond heb gynghorau iechyd cymuned yno, ni fyddai llais wedi bod gan gleifion, nac unrhyw ffocws clir ar y mater hwnnw. Gallai cleifion ddal i fod yn gorwedd mewn gwelyau ar benwythnosau neu wyliau banc heb y cynfasau roeddent eu heisiau, ac eto cafodd hyn ei ddatrys, diolch i ymyrraeth y cyngor iechyd cymuned.

Nawr, rwy’n derbyn bod rhai problemau difrifol wedi bod ynghlwm wrth ateb Senedd y DU yn Lloegr, ac mae’n debyg y dylid gadael llonydd i hynny. Ond mae’n rhyfedd a bod yn onest fod Llywodraeth Cymru yn ystyried newid i fodel yr Alban ar gyfer cynrychioli cleifion ar yr union adeg—yr union adeg—y mae’r model hwnnw’n dod yn destun y fath feirniadaeth i’r gogledd o’r ffin. Mae llawer o ACau wedi cyfeirio at y disgrifiad ohono fel bochdew diddannedd. Os nad yw Llywodraeth Cymru yn awyddus i wrando ar y Cynulliad hwn ar fater cynghorau iechyd cymuned, yna o leiaf gwrandewch ar brofiad Llywodraeth yr Alban, sydd bellach yn dysgu’r gwersi ar ôl rhuthro i newid nad oedd yn briodol ac nad yw’n addas at y diben.

Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, wrth i bawb ohonom nodi ugain mlynedd ers i ddatganoli ddod i Gymru, a chreu’r lle hwn, does bosibl nad budd mwyaf y broses hon—nid digwyddiad, fel y soniwyd yn wreiddiol, ond y broses hon—yw’r gallu i wneud ein penderfyniadau lleol ein hunain ynghylch rhannau allweddol o fywydau pobl, a dylai hynny ganiatáu i ni, hyd yn oed ar y cam hwyr hwn, ailystyried y newidiadau arfaethedig i gynghorau iechyd cymuned yng Nghymru a llunio dewis amgen sydd, ydy, yn cofleidio newid, ond ar yr un pryd yn cadw’r egwyddor greiddiol a oedd wrth wraidd sefydlu’r cynghorau iechyd cymuned hynny yn y lle cyntaf—gan roi’r claf yng nghanol y broses ac yng nghanol y GIG mewn gwirionedd. Nid biwrocratiaid, nid byrddau iechyd, nid ffyrdd dogmatig o feddwl—gadewch i ni roi’r claf yn y canol.