Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 20 Medi 2017.
Mae’n dda gen i gyfrannu at y ddadl yma achos rydw i yn meddwl bod y cynghorau iechyd cymuned yn gwneud gwaith pwysig. Rydw i wedi siarad â’r ddau ohonyn nhw yn fy rhanbarth i, Hywel Dda a Phowys, ac mae peth o Betsi hefyd, mae’n rhaid dweud, yn dod mewn i’r rhanbarth rydw i yn ei chynrychioli. Rydw i’n gobeithio mynegi yn y ddadl yma ryw fath o ddatblygiad ar y cynghorau iechyd cymunedol sydd yn adeiladu ar y pethau da rydym ni wedi clywed yn y fan hyn: y gallu i arolygu, a’r ddibyniaeth ar wirfoddolwyr, sydd yn wendid ac yn gryfder ar yr un pryd, mae’n rhaid dweud, yn y cynlluniau presennol. Ond rydw i hefyd eisiau adlewyrchu’r ffaith bod y cynghorau iechyd cymunedol wedi bod yn eu lle ers 1974 a heb ddatblygu rhyw lawer ers hynny, mae’n rhaid dweud. Mae yna agweddau henffasiwn iawn am y ffordd y maen nhw’n gweithio. Mae’n rhaid gwella, ac mae’n rhaid dod â nhw i mewn i sefyllfa gyfredol.
Rydw i eisiau gwneud un peth yn benodol, sydd yn wendid yn y papur gan y Llywodraeth ar hyn o bryd, ac yn arbennig yn siarad â thrigolion ym Mhowys—. Nid oes digon—wel, nid oes sôn, a dweud y gwir, ac yn sicr nid oes ystyriaeth, o faterion trawsffiniol, gyda chleifion o Bowys yn cael eu gwasanaethu yn ysbytai yn Lloegr, ond sydd yn gallu cael eu harolygu gan y cyngor cymuned iechyd ym Mhowys. Felly, rydw i eisiau gwneud yn siŵr, ac rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog, wrth gloi y ddadl, yn gallu rhoi sicrwydd, fod y Llywodraeth yn dymuno cadw llais y cleifion yn y gwasanaethau iechyd sydd wedi’u lleoli yn Lloegr ond wrth gwrs sydd yn darparu gwasanaethau ar gyfer cleifion o Gymru.
Wrth imi drafod gyda chynghorau iechyd cymunedol, rydw i wedi gweld awydd ganddyn nhw i ddatblygu, ac maen nhw yn datblygu model amgen. Maen nhw wedi ymateb i’r ymgynghoriad yma gyda’u syniadau eu hunain, ac rydw i’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gwrando ar hynny. Mae yna rywfaint o drafodaeth wedi bod heddiw ar y sail bod yr ymgynghoriad, a’r cynigion sydd yn yr ymgynghoriad, yn mynd i gael eu gweithredu fel y maen nhw. Rwy’n gobeithio y bydd hwn yn ymgynghoriad ac rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gwrando ar beth sydd gan y cynghorau iechyd eu hunain i ddweud, achos mae gyda nhw fodel amgen.
Mae’r pethau am roi iechyd a gofal cymunedol at ei gilydd yn rhywbeth i’w groesawu. Mae sicrhau llais y claf yn rhywbeth rwy’n credu y dylem ni ei groesawu. Y cwestiwn yw sut i sicrhau hynny.
Yn gyntaf oll, mae unrhyw batrwm newydd yn gorfod bod yn gwbl annibynnol o’r Llywodraeth—mae hynny’n rhywbeth rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod i gyd yn sefyll yn gadarn arno. Ac mae bod yn annibynnol yn golygu bod yn annibynnol o ran strwythur, o ran statws cyfreithiol, ac o ran penodiadau i gynghorau neu’r corff newydd sydd yn disodli’r cynghorau.
Nid wyf yn synhwyro bod y cynghorau eu hunain yn erbyn corff cenedlaethol. Nid ydyn nhw wedi dweud hynny wrthyf fi. Beth maen nhw wedi dweud ydy: beth sy’n bwysig yw bod y llais lleol a’r gynrychiolaeth ranbarthol yn cael eu cadw. Felly, mae yna bosibiliad fan hyn i gael corff cenedlaethol sydd yn gallu uno rhai agweddau sydd yn arbedion, os liciwch chi, o ran biwrocratiaeth ac ati, o ran cyflogaeth, o ran staffio, ond i sicrhau bod y strwythurau cyngor cymuned lleol yn eu lle i adlewyrchu anghenion lleol a llais lleol. Nid wy’n gwybod—nid dyna cweit beth mae’r Llywodraeth yn cynnig, wrth gwrs. Mae hynny’n rhyw fath o gyfaddawd a thrafodaeth sydd angen digwydd. Ond rwy’n agored i wrando ar hynny a gweld beth sy’n digwydd.
Rwy’n meddwl, beth bynnag sy’n digwydd, ei bod yn hynod bwysig bod y bobl leol â’r hawl i fynd ar wardiau, i ymweld â llefydd lle mae gofal ac iechyd yn cael ei wneud, a bod hynny yn cael ei gryfhau, fod digon o gefnogaeth i bobl leyg i allu deall y sefyllfa yna, achos rwy’n meddwl ei bod yn bwysig bod eu statws nhw’n cael eu codi, a phan maen nhw’n ymweld â wardiau ac yn ymweld â sefyllfaoedd eu bod yn cael eu trin â pharch gan y bobl broffesiynol hefyd, a bod felly’r gefnogaeth a’r hyfforddiant a phopeth yn eu lle ar eu cyfer nhw.
Y peth olaf i’w ddweud yw ein bod ni’n gorfod manteisio ar y cyfle yma i ledaenu aelodaeth y cynghorau iechyd cymunedol. Fe ddywedodd Eluned nad oedd hi’n ymwybodol ohonyn nhw. Rwy’n derbyn beth mae’n dweud, wrth gwrs, ond rwyf wedi bod yn ymwybodol ohonyn nhw ers rhai degawdau bellach, mae’n rhaid bod yn onest, ac mae rhai o’r bobl yr oeddwn i’n ymwybodol ohonyn nhw 20 mlynedd yn ôl yn dal ar y cyngor cymuned lleol. Nid wyf cweit yn siŵr ai dyma yw’r ffordd y dylai y rhain ddatblygu er mwyn bod yn gwbl gynrychioladol o’r gymuned y maen nhw’n byw ynddi, ac yn gwbl gynrychioladol o’r bobl sydd bellach yn defnyddio ein gwasanaethau iechyd a gofal ni.