Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 20 Medi 2017.
Diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl heddiw ar bwnc pwysig. Rydym wedi clywed llawer yn barod am y diffygion ym mhroses ymgynghori Llywodraeth Cymru, felly nid wyf am fynd ar ôl hynny, ond yn hytrach am y newidiadau y maent yn eu hargymell yn eu Papur Gwyn.
Nawr, mae ‘Gwasanaethau sy’n addas i’r dyfodol’, y Papur Gwyn, yn cydnabod yr angen am yr hyn y mae’n ei alw’n llais cryf y dinesydd yn y modd y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cynllunio a’u darparu. Maent hefyd yn awyddus i wella’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer arolygu a rheoleiddio gwasanaethau iechyd ac maent yn awyddus i sefydlu corff annibynnol newydd ar gyfer rhoi llais i gleifion a rheoleiddio ac arolygu.
Yn anffodus, nid yw llais y dinesydd fel y’i gelwir yn cael ei ddisgrifio’n fanwl yn y Papur Gwyn. Nid oes unrhyw beth ynglŷn â sut y bydd yr aelodau’n cael eu recriwtio. Nid oes unrhyw beth am adnoddau i’r sefydliad newydd. Yr unig beth y gallwn ei weld yn glir yw bod llais y dinesydd wedi ei gynllunio i ddisodli’r system bresennol a adeiladwyd o gwmpas cynghorau iechyd cymuned, neu CICau.
Mae’r Papur Gwyn yn defnyddio’r ymadrodd ffasiynol ar hyn o bryd, sef cydgynhyrchu. Fodd bynnag, nid yw’n manylu llawer ynglŷn â beth fydd cynnwys yr hyn a elwir yn gydgynhyrchu mewn gwirionedd. Os awn yn ôl at Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru ei hun yn 2014, mae’r codau ymarfer yn y Ddeddf hon yn rhoi canllawiau manwl i ni mewn gwirionedd ar sut i gyflawni llesiant wedi’i gydgynhyrchu. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo mudiadau a arweinir gan ddefnyddwyr sy’n ychwanegu gwerth cymdeithasol. Wel, mae’r CICau, sydd â’u haelodaeth yn cynnwys elfen gref o wirfoddolwyr yn sicr yn enghraifft dda o sefydliad a arweinir gan ddefnyddwyr. Dylai’r syniad o gydgynhyrchu gynnwys cyrff fel y cynghorau iechyd cymuned, yn hytrach na chael ei ddefnyddio fel ffurf amwys ar eiriau i helpu i gael gwared arnynt.
Felly, pam y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gael gwared ar y cynghorau iechyd cymuned? Wel, mae Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru, sefydliad pwysig yn y trydydd sector, yn credu bod gan Lywodraeth Cymru broblem gydag i ba raddau y mae’r byrddau iechyd yn argymell newidiadau sylweddol weithiau, sydd wedyn yn cael eu herio gan y CICau. Er bod newidiadau arfaethedig y Llywodraeth braidd yn annelwig, credir yn gyffredinol y byddai’r corff newydd o dan y system newydd, yn allweddol, yn colli llawer o bwerau’r CICau. Nid yw’n glir a fyddai’r sefydliad newydd yn meddu ar unrhyw hawliau yng nghyfarfodydd y bwrdd iechyd, er enghraifft. Amheuir yn eang hefyd na fyddai ganddo’r pŵer sydd gan y cynghorau iechyd cymuned, y soniwyd wrthym amdanynt heddiw, i fynd ar safle a’i archwilio ar gyfer cynnal hapwiriadau. Mae’r pwerau hyn yn hollbwysig er mwyn deall sut y mae’r GIG yn gweithio mewn un ardal leol. Rhaid i unrhyw gorff newydd, os yw i gael rôl ystyrlon, gael ei ganiatáu i ymweld â safleoedd y GIG a’u harchwilio, i siarad â chleifion yno, ac yna i allu cysylltu â’r cleifion a’r cyn-gleifion unwaith eto, er mwyn helpu i sefydlu a wnaed gwelliannau o ganlyniad i ymyrraeth y corff hwnnw.
Mae angen inni gofio bod model cynghorau iechyd cymuned yn craffu ar waith y GIG wedi dod i fodolaeth ar ôl sgandal Ysbyty Trelái yng Nghaerdydd yn gynnar yn y 1970au. Daeth y system a fabwysiadwyd ar draws y DU ar y pryd i fodolaeth ar ôl sgandal, mewn geiriau eraill, a effeithiodd ar ein hardal leol ni ein hunain. Os ydym am osgoi sgandalau yn y dyfodol—a gadewch inni beidio ag anghofio ein bod yn dal yn y broses o wella wedi sgandal Tawel Fan—yna mae angen inni gadw at rai egwyddorion gweithredu a chraffu clir.
Dylid gwneud penderfyniadau mor agos ag y bo modd at y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Dylid sefydlu blaenoriaethau lleol yn unol ag anghenion lleol. Dylid cael llinellau atebolrwydd clir, ac mae angen i wirfoddolwyr fod yn gwbl greiddiol i’r corff craffu. Bydd gan wirfoddolwyr wahanol sgiliau a byddant yn cyfrannu mewn gwahanol ffyrdd. Mae’n rhaid i unrhyw gorff newydd fod yn rhydd i benderfynu sut y mae’n recriwtio ei wirfoddolwyr ei hun. Cawn ein gadael yn gyfan gwbl yn y tywyllwch gan Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ynglŷn ag i ba raddau y mae’r egwyddorion hyn yn mynd i gael eu cynnal yn y model newydd. Rydym ni yn UKIP, felly, yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw ac yn annog Llywodraeth Cymru i ymgynghori ymhellach, ac yn fwy agored, cyn mabwysiadu unrhyw fodel newydd. Rydym hefyd yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru.
Un agwedd sy’n peri pryder mewn perthynas â datganoli yw bod gennym bellach bedwar model gwahanol o graffu gan ddefnyddiwr ar y GIG ym mhedwar rhanbarth gwahanol y DU. Er y gallai’r rhai sy’n frwd dros ddatganoli ddadlau bod hyn yn fynegiant i’w groesawu o’r modd y mae gwahanol ranbarthau yn mynd eu ffordd eu hunain, buaswn yn dadlau i’r gwrthwyneb, fod gennym wasanaeth iechyd gwladol, nid un rhanbarthol, ac y dylai weithredu yn yr un ffordd yn fras ar draws y DU. Ni ddylai’r ffordd y caiff cleifion eu trin a’r ffordd y gall defnyddwyr graffu ar waith y GIG fod yn wahanol iawn ar draws y gwahanol ranbarthau, neu byddwn yn raddol yn colli unrhyw synnwyr ei fod yn wasanaeth cenedlaethol o gwbl. Diolch.