9. 9. Dadl Fer: Y Ddarpariaeth o Ofal Sylfaenol yn Ardal Llanharan

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:57 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 6:57, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Yn fyr, rwy’n gweithio mewn meddygfa gangen ym Mhenclawdd, sydd sawl milltir o’r cartref—y ganolfan reoli—ym meddygfa Tre-gŵyr, ond mae’n ddrud o ran y safle. Mae angen edrych ar y gyllideb safleoedd. Mae hefyd yn eithaf afrad o ran staffio a thechnoleg TG. Nid oes dim o hynny’n anorchfygol, yn enwedig o ystyried tai newydd; mae’n gofyn am drefn, dyna i gyd, ac ymagwedd fentrus, ond mae angen arian, trefn ac ysgogiad gwleidyddol.