– Senedd Cymru am 6:41 pm ar 20 Medi 2017.
Rydym ni’n symud, felly, i’r ddadl fer, ac os gwnaiff Aelodau adael y Siambr yn dawel, yna fe fyddaf i’n galw y ddadl fer mewn munud.
Y ddadl fer, felly: Huw Irranca-Davies i gyflwyno’r ddadl fer. Huw Irranca-Davies
Diolch, Llywydd. Wrth agor y ddadl hon, a gaf fi nodi fy mod wedi cytuno i Suzy Davies siarad ynddi, a Dai Lloyd hefyd? Felly, wrth agor y ddadl rwy’n cyflwyno cais i Ysgrifennydd y Cabinet heno i ofyn am ei gymorth i ddatrys problem hirhoedlog sy’n effeithio ar ofal sylfaenol yn Llanharan, Brynna a’r ardal gyfagos. Nid yw’r cais yn cael ei wneud ar chwarae bach. Byddai’n well gennyf beidio â’i wneud. Mae wedi’i wneud yn sgil rhywfaint o rwystredigaeth ar ôl ymdrechion parhaus trigolion lleol a gweithredwyr cymunedol, cynghorwyr cymuned a sir, fy hun ac eraill sy’n pryderu am hyn, i ddod o hyd i ffordd ymlaen dros y 18 mis diwethaf, ac rwyf wedi buddsoddi cryn dipyn o fy amser yn bersonol ac amser fy nhîm swyddfa i sicrhau cynnydd, ac rwy’n gwybod bod cynghorwyr fel Geraint Hopkins a Roger Turner, cynghorwyr cymuned fel Chris Parker ac eraill wedi gweithio’n ddiwyd y tu ôl i’r llenni yn ogystal.
Byddai hanes byr o’r mater hwn yn help. Oddeutu 18 mis yn ôl bu newid sydyn ac annisgwyl i’r gwasanaeth a ddarparir i drigolion Llanharan a Brynna gan Ganolfan Feddygol leol Pencoed. Ers cryn dipyn, roedd is-gangen fel y’i gelwir o feddygfa meddyg teulu yn cael ei darparu yn Llanharan a Brynna o dan gontract gan Ganolfan Feddygol Pencoed, y byddai’r trigolion yn dweud nad yw’n hafal i gael canolfan feddygol eu hunain i wasanaethu’r cymunedau sy’n ehangu’n gyson yn ardal Llanharan. Roedd o leiaf yn darparu gwasanaeth rhesymol a gâi ei werthfawrogi i’r cleifion oedrannus a’r cleifion eraill nad oedd ganddynt eu cludiant eu hunain neu a gâi anhawster i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu ei fod, fel tacsis, yn rhy ddrud, neu’r rhai heb lawer o amser oherwydd gwaith neu ymrwymiadau eraill. Dylwn hefyd nodi, gyda llaw, nad beirniadaeth yw hon o’r clinigwyr a’r aelodau eraill o staff yng Nghanolfan Feddygol Pencoed, a’r gofal y maent yn sicr, wrth gwrs, yn awyddus i’w ddarparu i’w holl gleifion ble bynnag y maent yn byw. Beirniadaeth yw hon o’r strwythurau a’r ffrydiau ariannu sydd i’w gweld yn rhwystro gofal di-dor i gleifion, yn enwedig, fel yn y sefyllfa hon, pan fo’r cleifion a’r practis yn perthyn i ddwy ardal awdurdod iechyd wahanol.
Ond arweiniodd y newidiadau hynny 18 mis yn ôl at ostyngiad amlwg a oedd i’w weld yn syth yn yr oriau o ddarpariaeth meddyg teulu yng ngwasanaeth yr is-gangen. Roedd y newid, fel y dywedais, yn sydyn ac yn annisgwyl. Cafodd llawer o gleifion eu synnu. Yn ddealladwy, roedd llawer o drigolion yn bryderus iawn ynglŷn â’r hyn a oedd yn ymddangos fel ymgais sydyn i ddileu gwasanaethau, neu leihad sylweddol fan lleiaf yn y gwasanaethau i’r rhai nad oedd yn ei chael yn hawdd teithio i Bencoed. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus a drefnwyd mewn ymateb i’r pryderon hyn. Mynychodd dros 100 o bobl y cyfarfod hwnnw ac—nid wyf yn defnyddio rhyw fath o orliwio tebyg i Trump adeg ei urddo’n arlywydd yma—roedd y coridorau’n llawn o bobl yn ceisio clywed beth oedd yn cael ei ddweud yn y cyfarfod. Yn ychwanegol at y trigolion lleol a oedd yn bresennol, roedd yna gynghorwyr a chynghorwyr cymuned, Aelodau Cynulliad rhanbarthol a lleol, yr Aelod Seneddol, Chris Elmore, cynrychiolwyr o Ganolfan Feddygol Pencoed, bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, y cynghorau iechyd cymuned ac eraill. Ond nid torf anwaraidd oedd hon; roeddent yn ceisio dod o hyd i’r ffeithiau ynglŷn â beth oedd yn digwydd a’r hyn oedd yn amlwg bryd hynny ac sy’n glir yn awr yw bod y ffin weinyddol sy’n gwahanu PABM a Chwm Taf yn broblem real a phwysig. Efallai y gall y cynnig diweddar fod modd uno ochr ddwyreiniol PABM ac awdurdodau iechyd Cwm Taf helpu i ddatrys y mater hwn, ond ni allwn aros am byth.
Mae Canolfan Feddygol Pencoed yn rhan o ardal PABM a chaiff cleifion eu cyllido drwy PABM, ac eto, drwy batrymau gwasanaeth hanesyddol, tra bod y rhan fwyaf o’r cleifion ym Mhencoed yn mynd naill ai i bractis meddygol Pencoed neu i’r un arall cyfagos, mae cyfran sylweddol o’r cleifion—mwyafrif y cleifion yng Nghanolfan Feddygol Pencoed yn ôl yr hyn a ddeallaf—yn dod o ardaloedd Llanharan a Brynna, sydd yn nalgylch Cwm Taf. Gallwch weld y problemau trawsffiniol sy’n codi gyda llif arian.
Mae Canolfan Feddygol Pencoed, drwy leihau ei gwasanaeth, yn gweithio’n syml yn ôl manylion ei chontract—dim mwy, dim llai. Ni all bwrdd iechyd fynnu eu bod yn darparu gwasanaeth penodol. Mae angen cysoni’r cymhellion ariannol ochr yn ochr ag anghenion cleifion ac i fod yn deg â Chanolfan Feddygol Pencoed, mae yna resymeg i’w dadl fod buddsoddi i wella’r gwasanaeth a ddarperir ym Mhencoed yn well i bob claf sy’n gallu mynychu’r lle hwnnw—sy’n gallu mynychu’r lle hwnnw. Ond mae’r meddygfeydd cangen yn Llanharan a Brynna wedi bod yn diwallu gofynion unigolion hŷn sy’n cael mwy o drafferth symud ac sy’n ei chael yn anodd mynychu Canolfan Feddygol Pencoed oherwydd cyfyngiadau cost, iechyd, cludiant neu amser.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, siaradais â’r ganolfan feddygol ac awgrymais i’r PABM y dylent gynnig rhywfaint o arian ychwanegol i’r ganolfan feddygol a allai helpu yn y tymor byr i adfer, neu i adfer yn rhannol, y lefel wreiddiol o wasanaeth i feddygfeydd cangen Llanharan a Brynna. Byddai’n mynd yn bell, Weinidog, tuag at leddfu’r anfodlonrwydd parhaus. Felly, buaswn yn ddiolchgar iawn am gymorth Ysgrifennydd y Cabinet i geisio eglurhad am y rhesymau pam na ellir adfer y gwasanaeth gwreiddiol yn Llanharan a Brynna, neu rywbeth yn debyg iddo, er mwyn lleddfu’r pryderon presennol, yn enwedig os yw PABM wedi cynnig cymorth ychwanegol, fel sydd wedi digwydd o bosibl yn ôl yr hyn a ddeallaf. Rwy’n deall y gall y trafodaethau rhwng practis meddygol preifat a bwrdd iechyd fod yn anodd, a bod yn rhaid diogelu rhai cyfrinachau masnachol, ond rwy’n credu bod pobl leol, gan gynnwys y rhai a fynychodd y cyfarfod gwreiddiol, yn haeddu adroddiad gonest ynglŷn â pha ymdrechion a wnaed gan PABM a phractis meddygol Pencoed i ymateb i’w pryderon. Rwy’n credu y byddai pobl yn siomedig, a dweud y gwir, pe gwelid bod cymorth wedi cael ei gynnig a allai adfer y gwasanaeth a lleddfu’r pryderon hynny, a bod cymorth o’r fath wedi cael ei wrthod am ba reswm bynnag.
Cyn i mi droi at y mater strategol mwy, gadewch i mi gryfhau’r achos mewn dwy ffordd arwyddocaol, gan wybod bod polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn bolisi da yn wir ac y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cefnogi hynny. Roeddwn wrth fy modd fod y cynghorau iechyd cymuned, yn ôl ein hanogaeth, wedi dod at ei gilydd i edrych ar y materion yn ymwneud â boddhad cleifion ymhlith y rhai a fynychai feddygfa Llanharan a meddygfa Brynna—ac roedd yr hyn a ganfuwyd ganddynt yn ddiddorol iawn. Mae’n rhaid i mi ddweud bod lefelau bodlonwydd cleifion, ar y cyfan, â meddygfa Pencoed yn 65 y cant—y rhai a ddywedodd eu bod yn fodlon i ryw raddau neu’i gilydd. Ond roedd 65 y cant o’r rhai a fynychai’r meddygfeydd yn Llanharan a Brynna yn anfodlon. Mae’n ddiddorol dros ben. Roedd y rhan fwyaf o’r cleifion—65 y cant—yn fodlon at ei gilydd â’u profiad o’r practis yn gyffredinol, ond roedd y 65 y cant a fynychai feddygfa gangen Llanharan yn anfodlon â’r amseroedd agor. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ardal Llanharan, yn ôl yr adroddiad, yn anhapus â’r amseroedd agor; roeddent yn ei ystyried yn annheg. Achosai anawsterau penodol, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrth y cyngor iechyd cymuned, i bobl sy’n gweithio a’r rhai yr oedd angen iddynt gasglu presgripsiynau. Ychydig o gleifion a soniodd am deithio i’r feddygfa ymhellach i ffwrdd, ond pan fyddent yn gwneud hyn, roedd yn effeithio ar drefniadau teithio. Roedd rhagor o bobl angen sicrhau lifft gan ffrindiau neu deulu neu gludiant cymunedol, ac roedd yn rhaid i rai ddibynnu ar wasanaethau tacsi. Ac roedd pobl yn mynegi rhwystredigaeth ynghylch yr hyn y cyfeiriais ato’n flaenorol, am y llwybrau gofal sy’n gysylltiedig â bod wedi cofrestru gyda phractis PABM. Gwnaed y sylwadau hyn gan gleifion ar draws y practis, a deimlai y byddai’n fwy cyfleus symleiddio’r broses a oedd yn achosi problemau ar hyn o bryd.
Ac maent wedi gwneud argymhellion, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddent yn nodi angen i aildrefnu’r system apwyntiadau, ac mae hynny’n digwydd ar hyn o bryd. Mae’n achosi rhai problemau cychwynnol, ond mae newid ar y gweill ar hyn o bryd yn y feddygfa. Ond roeddent yn dweud efallai y byddai’r practis yn dymuno edrych eto ar y ddarpariaeth a gynigir ym meddygfa gangen Llanharan, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu trefnu i ddiwallu anghenion y boblogaeth yn y ffordd orau, a gallai hyn gynnwys darparu rhai apwyntiadau diweddarach. Dyna oedd yn arfer digwydd. Dyna pam na all pobl gyrraedd yno mwyach. Efallai y bydd y practis yn dymuno archwilio ffyrdd amgen i gleifion Llanharan allu cael presgripsiynau, o bosibl drwy weithio gyda fferyllfeydd lleol, yn hytrach na mynd yr holl ffordd i Bencoed, ac yn y blaen. A dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ystyried a ellid ymestyn ffiniau practisau cyfagos i gynnig dewis i drigolion yn ardal Llanharan allu mynd i un o bractisau Cwm Taf. Gwnaethant argymhellion penodol. Byddai’n wych gweld a allem weithredu ar y rheini.
Ond gadewch i mi fynd ymhellach, oherwydd yr agwedd arall yw’r twf enfawr ym mhoblogaeth ardal Llanharan a Brynna. Yn y 10 mlynedd rhwng 2005 a 2015, tyfodd ward Llanharan 14 y cant o ran nifer y cartrefi—450 o gartrefi ychwanegol. Yn ward Brynna, tyfodd 17 y cant gyda 657 o dai ychwanegol dros y cyfnod o 10 mlynedd. Ar y cyfan, mae dros 1,100 o gartrefi newydd wedi ymddangos mewn cyfnod o 10 mlynedd yn Llanharan. Ond nid dyna’r cyfan. Os edrychwn ymlaen at yr hyn sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol, gallwn weld bod y cynllun datblygu lleol a fabwysiadwyd ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn argymell safle datblygu strategol yn Llanharan i oddeutu 2,000 yn fwy o dai. Nid wyf yn dibrisio hyn; mae’n gyrchfan boblogaidd. Mae hon yn ardal gymudo gyda gorsaf reilffordd a gwasanaeth da, a ffordd osgoi diolch i benderfyniadau da gan awdurdod lleol Llafur a Gweinidogion Llafur yn gweithio gyda’i gilydd i’w darparu. Mae’n ei gwneud yn ardal fwy deniadol—2,000 yn rhagor o dai. Mae’r un cynllun datblygu yn dyrannu safle ym Mrynna ar gyfer 200 yn rhagor o dai. Mae’n tyfu’n gyflym ac mae angen i ni gysoni’r ddarpariaeth yn unol â hynny.
Felly, yn ogystal â cheisio cymorth Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am eglurhad ynglŷn â pham na ellid adfer y gwasanaeth gwreiddiol mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, gadewch i ni edrych ar y mater mwy. Mae’n amlwg nad gwahaniaeth canfyddedig yn unig ydyw ond un go iawn ym mywydau a phrofiad cleifion yn Llanharan a’r rhai ym Mhencoed, ac rwyf am gael gwasanaeth teg, gwasanaeth da i bawb. Nid wyf am fychanu’r hyn sy’n digwydd ym Mhencoed, rwyf am godi’r safonau yn Llanharan a Brynna. Rwyf am iddynt i gyd gael gwasanaeth gwych ac rwy’n siŵr y byddai’r practis meddygol sy’n gwasanaethu’r ardal eisiau hynny hefyd. Nid yw’n digwydd ar hyn o bryd.
Felly, mae’r ail ddarn o dystiolaeth sy’n ymwneud â’r cynnydd yn nifer y cartrefi yn fy arwain at fy ail bwynt. Mae Llanharan yn gymuned wych. Mae’n mynd drwy drawsnewid mawr unwaith eto. Roedd yn arfer bod yn gyn-ddiwydiannol, rhan wledig o Sir Forgannwg, yna fe ehangodd yn aruthrol drwy’r chwyldro diwydiannol, drwy reilffyrdd a thrwy byllau glo ac yna drwy lo brig, ac yn awr, gyda dyfodiad cysylltiadau rheilffordd newydd a chysylltiadau ffordd newydd, rydym yn ceisio mynd â’r lle i mewn i gyfnod newydd yn ogystal. Mae’n fan poblogaidd sy’n tyfu ar hyd arfordir de Cymru. Mae’n mynd i dyfu’n gyflym.
Felly, rwy’n falch, dros y 18 mis diwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fod arweinwyr awdurdod iechyd Cwm Taf a chyngor Rhondda Cynon Taf wedi bod yn barod i gymryd rhan mewn trafodaethau archwiliol gyda’r nod o ddatrys anghenion gofal sylfaenol gwaelodol y gymuned hon. Mae cynghorwyr lleol fel Geraint Hopkins a Roger Turner wedi chwarae eu rhan hefyd, ochr yn ochr â chynghorwyr cymuned. Mae pawb ohonom wedi bod yn archwilio i weld a oes yna ewyllys i weithio mewn partneriaeth er mwyn creu cyfleuster gofal sylfaenol newydd sy’n addas ar gyfer y ganrif hon, ac a fyddai’n gwasanaethu anghenion y boblogaeth hon sy’n tyfu, yn ogystal â’r cymunedau cyfagos.
A gallwn gael ein temtio i ddychmygu’r model posibl ar gyfer darpariaeth gofal sylfaenol addas i’r dyfodol yn Llanharan a’r cylch. Mae elfennau ohono i’w gweld eisoes mewn enghreifftiau ardderchog fel canolfan feddygol Gilfach Goch yn etholaeth Ogwr, a’r nifer o rai eraill sydd wedi eu datganoli mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd, meddygon teulu a chlystyrau’n gweithio gyda’i gilydd. Gallai gynnwys, er enghraifft, ymarfer addysgu ar gyfer meddygon teulu a phroffesiynau perthynol. Gallai ddwyn ynghyd y gwasanaethau perthnasol mewn un lle ar gyfer y gymuned honno, gyda bydwragedd a nyrsys ardal, dietegwyr a cheiropractyddion—amrywiaeth o weithwyr proffesiynol y tu hwnt i’r practisau meddygon teulu, sy’n hen ffasiwn ac yn perthyn i’r ganrif ddiwethaf er mor annwyl ydynt—gyda fferyllydd gwybodus ar y safle a allai gynghori ar anhwylderau cyffredin a darparu presgripsiynau, gan ryddhau amser gwerthfawr y meddyg teulu. Ac mae hyn i gyd, Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydych chi’n ei gefnogi, yn helpu i gadw pobl yn iach yn hirach yn eu bywydau ac yn nes at adref, heb orfod troi at ofal argyfwng neu ofal acìwt mewn gwely ysbyty. Pwy a ŵyr? Efallai hyd yn oed ar safle, gyda chymorth Rhondda Cynon Taf, sy’n cyfuno cyfleusterau gofal modern i’r henoed hefyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, dyma yw eich cenhadaeth wedi bod fel Llywodraeth Cymru i drawsnewid y dull o ddarparu gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol, gan gadw pobl yn iach yn nes at adref, gan leihau’r orddibyniaeth ar feddygon teulu, a defnyddio gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn fwy effeithiol, a chwalu’r rhwystrau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol heb newidiadau strwythurol costus. Rydych wedi bod yn cyflawni’r trawsnewid hwn mewn mannau eraill. Rwyf wedi’i weld, rwyf wedi gweld y canlyniadau iechyd cadarnhaol. Mae’n drawsnewidiol; mae’n gweddnewid bywydau pobl. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, mae pobl yn Llanharan yn barod i gael y trawsnewid hwnnw.
Felly, a gaf fi ofyn: i ddatrys y materion uniongyrchol, a allai Ysgrifennydd y Cabinet helpu i hwyluso cyfarfod gyda PABM a Chanolfan Feddygol Pencoed i weld a ellir dod o hyd i ffordd o ddatrys y gwahaniaeth o ran bodlonrwydd â phrofiad y claf rhwng y rhai sy’n byw yn Llanharan a Brynna a’r rheini sy’n byw ym Mhencoed? Rwyf am iddynt i gyd gael gwasanaeth gwych. Yn ail, a allech helpu i chwarae rhan yn hwyluso cyfarfod gyda bwrdd iechyd PABM a bwrdd iechyd Cwm Taf, Rhondda Cynon Taf a phartneriaid posibl eraill, i archwilio’r opsiynau ar gyfer datblygu cyfleusterau newydd? Mae canolfan feddygol, gyda llaw, eisoes wedi’i chynnwys yn y safle datblygu strategol, felly gadewch inni osod y trafodaethau hyn ar lwybr carlam. Byddai hyn yn helpu i ddatrys, mewn ffordd ystyrlon, y materion sylfaenol sy’n gysylltiedig â’r twf enfawr yn nifer y tai a phoblogaeth yr ardal. Pe gallai gytuno i’n cynorthwyo i sicrhau cynnydd ar y materion hyn a chael gwared ar y dagfa, rwy’n gwybod y byddai pawb yn y gymuned leol yn gwerthfawrogi hynny, gan gynnwys y rhai sy’n gwylio o’r oriel heddiw, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau gan eraill.
Diolch yn fawr iawn. Fe ddywedoch fod dau o bobl. Mae ganddynt rywbeth fel 45 eiliad rhyngddynt i ymateb i’r ddadl, felly fe fydd yn her. Cawn weld sut yr aiff hi. Suzy Davies.
Yn gyntaf oll, diolch i chi am y gwaith caled rydych wedi ei wneud ar hyn yn ogystal, a hefyd am dynnu sylw at y rheswm pam y mae cynghorau iechyd cymuned mor bwysig i’n cymunedau lleol. Mae peth anhawster wedi bod i gael cyfarfod cyhoeddus newydd at ei gilydd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned ar hyn, yn rhannol oherwydd amharodrwydd cynrychiolwyr y practis i fod yn bresennol, ond mae’r rhesymau a roddant am eu hamharodrwydd i fynychu yn eithaf diddorol. Y cyntaf yw nad ydynt wedi clywed gan y grŵp llywio y soniwyd amdano—mae’n rhaid bod hynny o leiaf flwyddyn yn ôl bellach—i helpu i lyfnhau’r ffordd ar hyn, ond yn ail ac yn bwysicach fyth, nid ydynt wedi clywed gan PABM. Dyma fwrdd iechyd sydd eisoes wedi cael anawsterau wrth ymdrin â materion yn ymwneud â meddygfeydd ym Mhorthcawl, ac os nad ydynt yn barod hyd yn oed i ymgysylltu â chi yn awr ar hyn, yna mae cwestiynau difrifol gennyf ynglŷn â pha mor barod y byddant i gymryd rhan mewn trafodaethau am glystyrau meddygon teulu, sy’n mynd i fod yn hanfodol i’r weledigaeth sydd gan bawb ohonom ar gyfer y dyfodol.
Da iawn. Dai Lloyd.
Diolch. Yn fyr, rwy’n gweithio mewn meddygfa gangen ym Mhenclawdd, sydd sawl milltir o’r cartref—y ganolfan reoli—ym meddygfa Tre-gŵyr, ond mae’n ddrud o ran y safle. Mae angen edrych ar y gyllideb safleoedd. Mae hefyd yn eithaf afrad o ran staffio a thechnoleg TG. Nid oes dim o hynny’n anorchfygol, yn enwedig o ystyried tai newydd; mae’n gofyn am drefn, dyna i gyd, ac ymagwedd fentrus, ond mae angen arian, trefn ac ysgogiad gwleidyddol.
Diolch yn fawr iawn, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething, i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Huw Davies am gyfle arall i siarad heddiw yn y Siambr, ond yn arbennig am ddefnyddio’r ddadl fer heddiw i dynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol o ansawdd uchel.
Yn ein gwasanaethau gofal iechyd lleol y bydd mwy na 90 y cant o gysylltiad pobl â’r system gofal iechyd yma yng Nghymru yn digwydd. O’r holl bwyntiau a wnaed heddiw, mae wedi bod yn ddiddorol iawn fod cymaint ohonynt wedi canolbwyntio ar y rhan ysbyty o’r system honno ac eto mae mwyafrif helaeth—dros 90 y cant, fel y dywedais—o gysylltiad pobl â’r system yn digwydd yn ein gwasanaeth gofal iechyd lleol. Ac rwy’n sicr yn awyddus i’n gwasanaeth gofal iechyd lleol yng Nghymru, nid yn unig i fod yn seiliedig ar egwyddorion gofal iechyd darbodus fel prif gynheiliad system iechyd a gofal gynaliadwy sy’n gallu ymateb yn gyffredinol i anghenion newidiol ein poblogaeth, ond hefyd rwy’n rhannu’r hyn a ddywedwch: rwyf am i bob cymuned unigol ar draws ein gwlad gael gofal iechyd, sydd nid yn unig o ansawdd uchel yn lleol, ond eu bod yn cael mynediad da ato mewn gwirionedd, yn cael gofal gwirioneddol wych ac yn deall sut beth yw hynny. Ac mewn sawl rhan o’r wlad, bydd hynny’n edrych yn wahanol i’r system sydd wedi ein gwasanaethu’n dda hyd yn hyn, oherwydd rwy’n cydnabod y straen a’r pwysau yr ydym yn aml yn eu trafod yn y lle hwn ynglŷn â dyfodol ein gwasanaeth gofal iechyd lleol, a meddygon teulu yn arbennig fel rhannau arwyddocaol, arweiniol, os mynnwch, o’n system gofal iechyd lleol, gan ein bod yn cydnabod bod gofal iechyd lleol yn newid, ac mae angen iddo newid.
Mae yna gymaint o ysgogwyr y soniwn amdanynt dro ar ôl tro yn y Siambr hon ac fel arall, ond rydym am i’r system ddarparu mwy o ofal yn nes at adref, gydag ymagwedd fwy ataliol: felly, y syniad o drin salwch, symud y tu hwnt i hynny at sut yr ydych yn atal salwch, a chael tîm ehangach o lawer o bobl. Dyna pam y mae ein cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol yn nodi camau gweithredu allweddol ar gyfer gwella iechyd lleol, ac mae hynny’n cynnwys datblygu gweithlu mwy integredig, amlbroffesiynol sy’n cydweithio ar lefel leol iawn i ddiwallu anghenion pobl yn y cartref, neu’n agos at adref, ac sy’n cydnabod y gallai ac y dylai llawer mwy o ofal ddigwydd yng nghartrefi pobl eu hunain. Rwy’n falch iawn eich bod wedi sôn yn eich cyfraniad am y realiti ein bod am gadw pobl allan o’r ysbyty. Mae yna lawer mwy y gallem ac y dylem ei wneud.
Weithiau, credaf fod hyn yn swnio fel ystrydeb braidd, pan ddywedwn, ‘Dyma’r llwybr yr ydym am ei ddilyn’, ac yna awn yn ôl, fel gwleidyddion, i siarad am ysbytai eto. Os na allwn wneud hyn yn iawn, fel y trafodasom yn yr adolygiad seneddol, mae yna ddyfodol anodd iawn o’n blaenau i’r gwasanaeth cyfan. Ac yn gynyddol, er hynny, rydym yn gweld byrddau iechyd yn cydweithio gyda phractisau meddygon teulu a darparwyr gwasanaethau lleol eraill. Mae rhywfaint o hyn yn digwydd yn barod, gyda fferyllwyr, nyrsys yn y gymuned, therapyddion, deintyddion, optometryddion, timau iechyd meddwl, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr trydydd sector ac eraill, drwy 64 o glystyrau gofal sylfaenol a grëwyd gennym. Dyna wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael inni ac amser ac arbenigedd pobl a’r arian yr ydym wedi ei ddarparu yn uniongyrchol i bob un o’r clystyrau hynny ei wario ar flaenoriaethau lleol. Oherwydd rwy’n cydnabod bod rhannau sylweddol o Gymru lle maent yn cael trafferth recriwtio a chadw meddygon teulu. Buom yn siarad am hynny’n gynharach, yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol—nid yn unig y camau rydym yn eu cymryd ar—[Anghlywadwy.]—ac eraill, ond mae gwaith clwstwr yn rhan bwysig iawn o’r hyn yr ydym am ei wneud i gynnal gofal iechyd lleol gwych. Dylai hynny arwain, ac mae eisoes yn arwain, at fwy o gydweithredu rhwng practisau meddygon teulu—nid oeddent bob amser yn siarad â’i gilydd, a dweud y gwir; felly, mae’n digwydd rhwng practisau, nid yn unig o’u mewn—wrth iddynt nodi ffyrdd newydd o drefnu eu hunain a gwneud defnydd effeithiol o’r adnoddau sydd ar gael iddynt.
Mae ein rhaglen genedlaethol ar gyfer pennu cyfeiriad wedi bod yn ddiddorol iawn yn helpu i nodi ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio a darparu gwasanaethau, fel y ffederasiwn o bractisau meddyg teulu sy’n symud i’r un lle yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, a’r fenter gymdeithasol yn ne Powys, menter gymdeithasol Red Kite. Ac mae hynny wedi bod mor ddiddorol, gan ei fod wedi dod â phractisau meddygon teulu nad oedd yn siarad â’i gilydd o’r blaen at ei gilydd, ac nid oeddent yn arfer bod yn ffrindiau, ac erbyn hyn, ni fyddent am ei weld yn digwydd men unrhyw ffordd arall. Mae ganddynt ffordd wahanol o weithio gyda’i gilydd, y ffordd y mae pobl yn cael mynediad at y gwasanaeth, ac maent newydd fabwysiadu gwasanaeth meddyg teulu yn Llanandras—lle roedd y practis meddyg teulu blaenorol yn rhoi ei gontract yn ôl, ac maent wedi mabwysiadu hwnnw. Felly, mae yna awydd yn y proffesiwn i weithio’n wahanol, gan fod mwy o feddygfeydd yn gweld manteision dod at ei gilydd i ddarparu amgylchedd gwell i weithio ynddo ar gyfer staff yn y gwasanaeth, ond llwyfan gwell hefyd i ddarparu gofal iechyd lleol gwych gyda’r cyhoedd, ac ar eu cyfer.
Rwy’n credu mai dyma ble y daw’n ôl at sut y gall y rhaglenni cenedlaethol edrych ar yr heriau y soniwch amdanynt, gan mai rhan sylweddol o’r pryder sy’n cael sylw yn y rhaglen genedlaethol ar gyfer pennu cyfeiriad yw mynediad. Mae’n bryder cyffredin ynglŷn â’r gallu naill ai i gael apwyntiad neu i gael apwyntiad cyfleus a lleol. Mae llawer o’r hyn a ddywedwch yn ymwneud â mynediad at ofal lleol. O’r model hwnnw, y ffordd newydd o weithio drwy bennu cyfeiriad, mae llawer ohono’n canolbwyntio ar sut y mae gennych system frysbennu, naill ai ar y ffôn neu ar-lein neu dan arweiniad nyrs neu feddyg teulu, ond mae’n ffordd o geisio cyfeirio pobl at y rhan gywir o ofal. Gallai hynny olygu mynd i weld meddyg teulu; a gallai olygu cael cyngor y gallwch ymdopi ag ef gartref; gallai olygu mynd i’r fferyllfa; gallai olygu dod i mewn i weld ffisiotherapydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol gwahanol. A’r hyn a welsom mewn rhannau sylweddol o hynny yw ei fod mewn gwirionedd yn cyflymu mynediad ar gyfer gweld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, ac mewn gwirionedd mae’n helpu pobl i gael eu cyfeirio at y rhan gywir o’r gwasanaeth, felly nid yw meddygon teulu’n cael eu gorlwytho â phobl nad oes angen iddynt eu gweld ac o bosibl, yn methu gweld y bobl y gallant ac y dylent eu gweld mewn gwirionedd, a gwn fod hwn yn fater y mae’r Aelod gyferbyn wedi ei weld yn ei ymarfer ei hun, ynglŷn â’r ffordd yr ydych yn gwneud y defnydd gorau o amser meddyg teulu. Nawr, mwy o ofal rhagflaenorol, i’w gynllunio i gadw pobl yn eu cartrefi yn hytrach na chael eu derbyn i’r ysbyty, a dyna ble rydym wedi gweld modelau ward rithwir yn cael eu datblygu o gwmpas y wlad hefyd—.
Nawr, y rhan arall yr oeddwn am ganolbwyntio arni cyn i mi fynd o’r cenedlaethol i’r lleol yw’r gwasanaeth elfen gyffredin mewn perthynas â fferylliaeth, oherwydd unwaith eto, fe sonioch am y pwynt ynglŷn â sut y gallai fferylliaeth fod yn opsiwn i bobl gael gwasanaeth mwy lleol. A dweud y gwir, mae Cwm Taf wedi bod yn wirioneddol flaengar ar hyn yn y ffordd y maent wedi mynd ar ôl y gwasanaeth Dewis Fferyllfa. Felly, mae gennym dros 350 o fferyllfeydd yn y wlad ar hyn o bryd sy’n cynnig y gwasanaeth; mae 75 ohonynt yng Nghwm Taf. Roedd un o’r cynlluniau peilot yn ardal Cwm Taf, yn Aberdâr, ac roedd yn wirioneddol ddiddorol gweld sut oedd y practis meddyg teulu lleol yn cydnabod ei fod wedi eu helpu i reoli nifer y bobl sy’n dod drwy’r drws, ac nid y niferoedd yn unig, ond pa mor briodol oedd hi i bobl ddod drwy’r drws yn ogystal. Ac roedd pobl yn ymddiried yn eu fferyllydd. Roedd ganddynt ystafell breifat i fynd i’w gweld, maent yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, a chafodd hyn ei alluogi a’i rymuso drwy fynediad at fersiwn o’r cofnodion meddyg teulu. Mae yna rywbeth ynglŷn â’r diogelwch. Ac yn ddiddorol, mae Cwm Taf wedi dweud wrthyf eu bod yn credu bod y gwasanaeth Dewis Fferyllfa wedi helpu i ddileu camgymeriadau llawysgrifen yn y presgripsiynau sydd i’w darparu hefyd, felly mae yna fudd sylweddol o safbwynt diogelwch hefyd. Nawr, ym mis Mawrth, bydd y gwasanaeth hwnnw ar gael i o leiaf 400—mwy na hanner yn sicr—y fferyllfeydd yng Nghymru, ac rydym am weld sylw cenedlaethol go iawn i’r gwasanaeth hwn.
Mae’n Wythnos Genedlaethol Gofal Llygaid, ond nid wyf am fynd ymlaen i siarad am optometreg gan fy mod am roi sylw uniongyrchol i’r pwyntiau a wnaethoch am y mater lleol. A daw hyn yn sgil mater y mae rhannau eraill o’r wlad yn ei gydnabod: twf poblogaeth—twf cyfredol yn y boblogaeth a thwf a gynlluniwyd—y gwyddom ei fod yn mynd i ddigwydd, ac fe gyfeirioch at Lanharan a Brynna fel ardaloedd sydd wedi eu cysylltu’n dda o safbwynt trafnidiaeth. Yr her yw sut i gynllunio fel bod gwasanaethau’n adlewyrchu’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd a’r hyn a fydd gennym, yn hytrach nag aros i’r gwasanaethau hynny gael eu gorlwytho.
Ac mae rhywbeth ynglŷn â dyfodol y gwasanaethau hynny hefyd, a chydnabod ein bod am weithio gyda chontractwyr annibynnol. Felly, byddem yn hoffi gweithio gyda’r contractwyr annibynnol presennol i ddarparu gofal da iawn, o ansawdd uchel. Ac rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch am y ffaith fod y practis hwn wedi buddsoddi ym Mhencoed. Felly, nid oedd arnynt ofn buddsoddi, ac maent wedi buddsoddi yn un o’r safleoedd hynny. Ac rwyf hefyd yn ystyried ac yn cydnabod y sylwadau a wnaeth y CIC ar y potensial, os na allant gael rhywle y credant fod trigolion lleol am iddynt fod, efallai y byddant eisiau gofyn i Gwm Taf weld a fyddai un o’u darparwyr eraill eisiau dod i agor rhestr yn ardal Llanharan a Brynna. Rwy’n credu bod hynny’n golygu bod yna fwy o reidrwydd i fod eisiau cael sgwrs leol lle—[Anghlywadwy.]—mae yna ddewis arall.
Dyna ble rwy’n dychwelyd at y pwynt ynglŷn â mynd i’r afael â’r pryder neu’r cwestiwn a ofynnwyd gennych am y cynnig i fuddsoddi, ac mae’n ymwneud yn rhannol â phryder Suzy Davies am ABM yn ogystal, gan mai fy nealltwriaeth i yw bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi cynnig rhywfaint o fuddsoddiad i wasanaethau aros yn ardal Llanharan a Brynna. Nid wyf yn gwybod pam na chymerwyd hwnnw, ond rwy’n hapus i ofyn a oes modd i’r cynnig blaenorol o ardal bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg ddal i fod ar y bwrdd fel rhan o sgwrs agored.
Y pwynt olaf yw’r prif beth y gofynnwch amdano gennyf, rwy’n dyfalu, sef a wyf yn barod i ddefnyddio fy nylanwad, os caf ddefnyddio’r ymadrodd hwnnw, i geisio trefnu sgwrs gyda rhanddeiliaid perthnasol. Ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn eich bod wedi sôn am yr awdurdod lleol, oherwydd, i fod yn deg ag awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf, mewn rhannau eraill o’u gwaith maent wedi bod yn help mawr o ran gwneud defnydd nid yn unig o’u gallu i gael gafael ar gyfalaf mewn ffordd wahanol, ond hefyd i edrych ar yr ystâd sydd ganddynt yn ogystal, i weld a oes cyfle i geisio ailsaernïo gofal sylfaenol gyda hwy’n bartneriaid—ac nid cyflawni’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd yn unig, ond dod o hyd i ffordd wahanol o’i wneud. Rwy’n hapus i dderbyn ymyriad os caf, ac yna fe fyddaf yn gorffen.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gymryd yr ymyriad hwn, ac mae’n gwneud pwynt dilys iawn. Nid yw hyn—ac yn wir, buaswn yn hoffi sicrhau bod Canolfan Feddygol bresennol Pencoed yn rhan o’r sgwrs hon, ond mae yna enghreifftiau da gyda Rhondda Cynon Taf. Mae’r cynnig y maent yn edrych arno yn Aberpennar ar hyn o bryd yn sicr yn bartneriaeth rhwng yr awdurdod lleol, o ran edrych ar nodi safleoedd, ynghyd â’r bwrdd iechyd, o ran edrych ar nodi a allent wneud hwn yn bractis modern a blaengar o fath sy’n addysgu. Y model partneriaeth hwnnw rydym ei eisiau, ond yr anhawster sydd gennyf, a dyma pam rwy’n gofyn i chi heddiw, yw cael yr holl bobl hynny i ddod at ei gilydd mewn gwirionedd. Ac fe fuaswn yn dweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet fy mod yn deall fod Canolfan Feddygol Pencoed wedi llosgi eu bysedd unwaith ar hyn o’r blaen. Maent wedi cael eu harwain ar hyd y peth hwn, ac rwy’n meddwl y gallent fod ychydig yn amharod. Felly, unrhyw help y gallwch ei roi i hwyluso eistedd o amgylch y bwrdd gyda phobl y gellir ymddiried ynddynt i ddweud, ‘Gadewch i ni drafod hyn. Sut y gallwn ei ddatrys?’—. Oherwydd gwn fod ewyllys gan bartneriaid, gan y bwrdd iechyd, a chan yr awdurdod ac eraill i wneud hyn; rydym angen i’r holl chwaraewyr ddod at y bwrdd, dyna i gyd.
A dyna’r pwynt olaf i orffen arno. Rwy’n hapus i ddweud fy mod yn barod i fuddsoddi peth amser i geisio cael pobl i eistedd o amgylch yr un bwrdd ar yr un pryd. Felly, y ddau fwrdd iechyd, chi eich hun, ac unrhyw gynrychiolwyr lleol eraill a allai ac a ddylai fod yn rhan o’r peth—. Ac wrth gwrs, gwneud yn siŵr fod Pencoed yn rhan o’r sgwrs. Felly, sgwrs gyda hwy a chyda’u cyhoedd, yn hytrach na sgwrs amdanynt, yw’r hyn yr hoffwn ei weld yn cael ei drefnu, ac rwy’n gobeithio bod yr holl bobl sy’n manteisio ar y cyfle i wneud hynny yn sicrhau rhywfaint o eglurder ar gyfer y cyhoedd yn lleol ynglŷn â’r hyn a ddaw yn y dyfodol, gan fod pawb yn cydnabod y bydd yna fwy o bobl yn y rhan hon o Gymru, nid llai, yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.