<p>Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 26 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:37, 26 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Rydym ni wedi dysgu hynny dros y blynyddoedd. Ddim yn hir ar ôl i mi ddod yn Brif Weinidog, cynhaliwyd Cwpan Ryder ac roedd hwnnw’n ddigwyddiad enfawr: tua 25,000 o bobl yno ar y diwrnod olaf, miliynau’n gwylio o gwmpas y byd. Ac, wrth gwrs, yn gorffen gyda rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, a oedd, yn eironig, bron yn wobr gysur i ni am beidio â chael ein dewis fel lleoliad ar gyfer pencampwriaeth 2020. Mae'n wobr gysur yr ydym ni’n ei chroesawu’n fawr, wrth gwrs, yn hynny o beth. Ond yr hyn sydd wedi bod yn allweddol yw'r weledigaeth a ddangoswyd yn enwedig yn y 1990au i ddatblygu Stadiwm Principality. Roedd yn ddadleuol ar y pryd, ac mae’n rhaid ei fod ef yn cofio hynny. Ond pan edrychwn ni’n ôl ar yr hen stadiwm, powlen goncrid â thoiledau oedd ef i bob pwrpas. Dyna'r ffordd y cafodd ei ddisgrifio. Nawr, wrth gwrs, mae'n stadiwm llawer mwy modern y gallwn ni ddenu'r digwyddiadau hyn. Ac mae'n wir dweud ei bod yn debyg mai chwaraeon sydd â’r cyrhaeddiad mwyaf oll pan ddaw i hyrwyddo Cymru, a gwyddom, wrth gwrs, gyda'r Euros y llynedd, mae’n debyg mai hynny gafodd yr effaith fwyaf o ran dangos i bobl fod Cymru'n bodoli fel cenedl ar wahân, ac, wrth gwrs, sbarduno mwy o ddiddordeb yng Nghymru, gan sbarduno mwy o fuddsoddiad mewn amser a mwy o ymwelwyr.