1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Medi 2017.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gais Caerdydd i gynnal gemau yn ystod pencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd UEFA yn 2020? (OAQ51086)
Gwnaf. Rydym ni wedi bod yn cyfarfod â Chymdeithas Bêl-droed Cymru am y cynnig posibl hwn. Mae gennym ni strategaeth digwyddiadau mawr uchelgeisiol eisoes a byddwn yn parhau i gyfarfod â'r rhanddeiliaid allweddol i ystyried sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn.
Ie, diolch am yr ymateb. Fel rheol, mae o bosibl yn syniad da gwneud cynnig am y digwyddiadau mawr hyn oherwydd y potensial i greu refeniw i fusnesau lleol, er bod posibilrwydd o darfu hefyd. Felly, ceir cydbwysedd y mae'n rhaid i ni ei daro. Ond mae gennym ni broblem ar hyn o bryd gyda chyflwr Sgwâr Canolog Caerdydd a hefyd diffyg capasiti posibl gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog. Felly, a ydych chi'n hyderus y bydd y materion hynny’n cael eu datrys mewn pryd ar gyfer y pencampwriaethau hynny yn haf 2020?
Ydw. Mae'r Sgwâr Canolog yn cael ei ddatblygu'n gyflym nawr. O ran gorsaf Caerdydd Canolog, mater i Network Rail yw hwnnw. Rydym ni wedi pwyso ar Network Rail. Rwyf i wedi ei wneud mewn cyfarfodydd gyda Network Rail ac mae'n cael ei wneud mewn ffyrdd eraill i ailddatblygu Caerdydd Canolog. Mae'n costio cannoedd o filiynau o bunnoedd ond, serch hynny, mae'n ailddatblygiad sydd ei angen. Rydym ni’n gwybod ei bod yn bosibl y bydd nifer y teithwyr yn yr orsaf yn cynyddu i fod dair gwaith yn fwy dros y 30 mlynedd nesaf. Gyda 11 miliwn o deithwyr y flwyddyn yn mynd trwy'r orsaf, dyma’r orsaf brysuraf yng Nghymru o bell ffordd ac mae'n tyfu. Rydym ni bron wedi cyrraedd y pwynt lle mae trenau'n ciwio i fynd i mewn i'r orsaf. Felly, rydym ni wedi pwyso ar Network Rail yr angen i fuddsoddi yn yr orsaf honno o ystyried y ffaith mai dyma’r porth i Gymru i gynifer o bobl.
Prif Weinidog, rwy’n cymeradwyo'r hyn y mae eich Llywodraeth a'r weinyddiaeth flaenorol wedi ei wneud i ddenu digwyddiadau lefel uchel a sut yr ydych chi wedi gweithio gyda'r cymdeithasau chwaraeon priodol. Rwy'n credu bod honno'n bartneriaeth allweddol, ac mae'r mathau hyn o gyflawniadau yn rhodd sy'n parhau i gyflawni gan fod y gwerth marchnata—. Mae pobl yn dal i sôn am y diwrnodau gwych pan roedd Cwpan yr FA yng Nghaerdydd. Byddai llawer o bobl yn ei hoffi yn ôl, neu’r rowndiau cynderfynol o leiaf, sydd, wrth gwrs, yn Wembley o hyd oherwydd eu model busnes penodol. Ond mae wir yn ffordd gyffrous o farchnata Cymru a bu manteision mawr iawn, a dylech chi wir ddysgu'r gwersi am faint y gall Llywodraeth ei wneud i farchnata'r wlad yn ei chyfanrwydd.
Yn sicr. Rydym ni wedi dysgu hynny dros y blynyddoedd. Ddim yn hir ar ôl i mi ddod yn Brif Weinidog, cynhaliwyd Cwpan Ryder ac roedd hwnnw’n ddigwyddiad enfawr: tua 25,000 o bobl yno ar y diwrnod olaf, miliynau’n gwylio o gwmpas y byd. Ac, wrth gwrs, yn gorffen gyda rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, a oedd, yn eironig, bron yn wobr gysur i ni am beidio â chael ein dewis fel lleoliad ar gyfer pencampwriaeth 2020. Mae'n wobr gysur yr ydym ni’n ei chroesawu’n fawr, wrth gwrs, yn hynny o beth. Ond yr hyn sydd wedi bod yn allweddol yw'r weledigaeth a ddangoswyd yn enwedig yn y 1990au i ddatblygu Stadiwm Principality. Roedd yn ddadleuol ar y pryd, ac mae’n rhaid ei fod ef yn cofio hynny. Ond pan edrychwn ni’n ôl ar yr hen stadiwm, powlen goncrid â thoiledau oedd ef i bob pwrpas. Dyna'r ffordd y cafodd ei ddisgrifio. Nawr, wrth gwrs, mae'n stadiwm llawer mwy modern y gallwn ni ddenu'r digwyddiadau hyn. Ac mae'n wir dweud ei bod yn debyg mai chwaraeon sydd â’r cyrhaeddiad mwyaf oll pan ddaw i hyrwyddo Cymru, a gwyddom, wrth gwrs, gyda'r Euros y llynedd, mae’n debyg mai hynny gafodd yr effaith fwyaf o ran dangos i bobl fod Cymru'n bodoli fel cenedl ar wahân, ac, wrth gwrs, sbarduno mwy o ddiddordeb yng Nghymru, gan sbarduno mwy o fuddsoddiad mewn amser a mwy o ymwelwyr.
I gyflwyno safbwynt ychydig yn groes, Llywydd, mewn tystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, dywedodd Cynghrair Twristiaeth Cymru, er y bydd angen i'r pwyslais barhau ar ddigwyddiadau rhyngwladol mawr, maen nhw'n tueddu i fod ddim ond o fantais i nifer fach o leoliadau, a Chaerdydd yn benodol. Cytunodd prif weithredwr Cynghrair Gweithredwyr Twristiaeth Ewrop a dywedodd fod llawer o resymau i gael parti, ond nad yw budd economaidd i'r diwydiant twristiaeth o reidrwydd yn un ohonynt. Beth yw barn y Prif Weinidog a sut all y Llywodraeth gymryd camau i sicrhau nad yw digwyddiadau rhyngwladol ar raddfa fawr yn niweidio diwydiant twristiaeth Cymru?
Gallwn ni gael y ddau. Un o'r problemau yr ydym ni’n eu hwynebu gyda digwyddiadau ar raddfa fawr yw bod yn rhaid i ni sicrhau bod gan bobl leoedd i aros y tu allan i Gymru. Y gwir amdani yw nad yw'r capasiti yno’n gyfan gwbl yng Nghymru i ddarparu llety i bobl wrth iddynt ddod i Gymru. Bydd hynny'n datblygu dros amser. Nid yw'n wir ei fod yn gwestiwn o wario arian ar ddigwyddiadau mawr neu wario arian ar weddill Cymru. Er enghraifft, rydym ni wedi cefnogi mentrau twristiaeth ledled Cymru. Rydym ni’n edrych ar fentrau fel Surf Snowdonia yn y gogledd a'r gefnogaeth yr ydym ni’n ei rhoi i fusnesau gwledig ledled Cymru. Mewn rhai ffyrdd, mae digwyddiad mawr yn cynnig effaith economaidd ar unwaith, ond hefyd, wrth gwrs, mae'n gweithredu fel sbardun ar gyfer datblygu diddordeb yng Nghymru ac, felly, ar gyfer twristiaeth ledled Cymru gyfan. Felly, mae'r effaith uniongyrchol, mae'n wir i ddweud, yn fwy lleol, ond mae'r effaith tymor hwy, yn fy marn i, yn llawer ehangach, a dyna’r ffordd y byddem ni eisiau iddi fod, wrth gwrs.