<p>Y Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 26 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:56, 26 Medi 2017

Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan Gonffederasiwn GIG Cymru ym mis Mai eleni, roedd 141 o swyddi meddygol bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn wag. Mae hyn yn cynrychioli 37 y cant o’r holl swyddi meddygol sy’n wag yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac mi gawsom ni ddadl yn fan hyn wythnos diwethaf wrth drafod yr adroddiad gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar recriwtio meddygol. Ond er yr holl dystiolaeth gan y pwyllgor, y proffesiwn a’r sector yn ehangach am yr angen i symud tuag at sefydlu ysgol feddygol yng ngogledd Cymru, mae’r Llywodraeth yn dal i wrthod ar sail datganiadau annelwig ynglŷn â chost a chymhlethdod y broses. Mae’r honiad bod sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd yn rhy gostus yn nonsens llwyr o ystyried yr holl filiynau mae Betsi Cadwaladr yn ei wario ar ‘locums’—bron i £80 miliwn dros y tair blynedd diwethaf. Brif Weinidog, faint yn fwy o gleifion yn y gogledd ydych chi yn fodlon eu gweld ar restrau aros cyn i chi wrando ar yr arbenigwyr a thalu sylw i’r dystiolaeth?