1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Medi 2017.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i recriwtio a hyfforddi staff newydd ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru? (OAQ51084)[W]
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth mewn sawl ffordd i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr i recriwtio a hyfforddi staff. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mwy nag erioed mewn llefydd hyfforddi staff nyrsio a gweithwyr proffesiynol iechyd. Wrth gwrs, bydd yr Aelod yn gwybod am y datganiad a gafodd ei wneud cyn yr haf ynglŷn â’r ffordd rydym ni’n moyn sicrhau bod mwy o hyfforddi ar gael yn y gogledd er mwyn sicrhau bod mwy o gyfle i bobl ddod i’r gogledd i hyfforddi fel rhan o rwydwaith hyfforddi Cymru eang.
Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan Gonffederasiwn GIG Cymru ym mis Mai eleni, roedd 141 o swyddi meddygol bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn wag. Mae hyn yn cynrychioli 37 y cant o’r holl swyddi meddygol sy’n wag yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac mi gawsom ni ddadl yn fan hyn wythnos diwethaf wrth drafod yr adroddiad gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar recriwtio meddygol. Ond er yr holl dystiolaeth gan y pwyllgor, y proffesiwn a’r sector yn ehangach am yr angen i symud tuag at sefydlu ysgol feddygol yng ngogledd Cymru, mae’r Llywodraeth yn dal i wrthod ar sail datganiadau annelwig ynglŷn â chost a chymhlethdod y broses. Mae’r honiad bod sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd yn rhy gostus yn nonsens llwyr o ystyried yr holl filiynau mae Betsi Cadwaladr yn ei wario ar ‘locums’—bron i £80 miliwn dros y tair blynedd diwethaf. Brif Weinidog, faint yn fwy o gleifion yn y gogledd ydych chi yn fodlon eu gweld ar restrau aros cyn i chi wrando ar yr arbenigwyr a thalu sylw i’r dystiolaeth?
Wel, nid wyf wedi gweld y dystiolaeth gan arbenigwyr sy’n dweud y dylem ni gael ysgol feddygol annibynnol yn y gogledd. Mae’n rhaid i mi ddweud hynny—[Torri ar draws.]
Cariwch ymlaen, Brif Weinidog.
Yn ail, beth rydym ni’n moyn sicrhau yw bod y gogledd yn cysylltu gyda’r de er mwyn creu system hyfforddi sydd ar draws Cymru yn gyfan gwbl. Beth sy’n cyfrif, wrth gwrs, yw’r ffaith bod y rheini sydd eisiau cael eu hyfforddi yn gweld bod y safon yn ddigon uchel. Rydym ni’n moyn sicrhau bod y safon yn gymwys ar draws Cymru, a dyna’n gwmws beth rydym ni’n mynd i’w wneud. Rydym ni’n gwybod ynglŷn â hyfforddi meddygon teulu, er enghraifft, yn y gogledd-ddwyrain a’r gogledd-orllewin, fod pob lle wedi cael ei lanw erbyn hyn ynglŷn â llefydd hyfforddi. Nid yw hynny’n iawn ynglŷn â chanol y gogledd, ond rydym wedi gweld bod mwy o bobl yn dod i’r gogledd i hyfforddi, ac rydym ni’n moyn sicrhau ein bod yn symud at ddatblygu system addysg feddygol yn y gogledd dros y blynyddoedd er mwyn sicrhau bod y gogledd yn cael ei ystyried fel rhywle lle mae hyfforddi yn gallu cymryd lle yn y ffordd fwyaf cyfan posibl, a dyna’n gwmws beth yw nod y Llywodraeth. Nid wyf yn credu ein bod yn llawer ymhell o’n gilydd ynglŷn â beth rydym ni’n moyn wneud.
Rwy'n falch iawn bod Siân Gwenllian wedi codi hyn eto, a byddwn yn annog pob un o ACau y gogledd i wneud galwadau tebyg ac i'ch dwyn i gyfrif, Prif Weinidog. Mae hyn wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd. Mae Siân yn llygad ei lle i sôn bod 141 o swyddi gwag hirdymor. Mae gennym ni wardiau ysbyty yn y gogledd sydd wedi cau am sawl mis. Rydym ni wedi cyfarfod â Chymdeithas Feddygol Prydain, rydym wedi cyfarfod â gweithwyr proffesiynol meddygol eraill, ac mae angen pendant—fe’i profwyd—am ganolfan hyfforddi rywle yn y gogledd. Y ffaith yw, ac mae'r ystadegau'n profi hyn, bod y rhai sy'n hyfforddi yng Nghaerdydd yn symud draw i Loegr. Nid ydym yn gallu recriwtio. Nid yw bwrdd Betsi yn gallu recriwtio. Nawr, mae hwn yn fwrdd sydd mewn mesurau arbennig. Mae ganddo ymyrraeth Llywodraeth Cymru, ac eto mae'n methu ar bob lefel o ran recriwtio staff, o ran cadw wardiau ar agor. Pryd ydych chi, a phryd mae eich Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n eistedd yma’n gyson yn ystod cwestiynau iechyd yn ysgwyd ei ben—? Wel, mae'n ddrwg gen i, ond rydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet—. Rydym ni yma i graffu arnoch chi, ac rydych chi'n methu â chyflawni ar ran cleifion y gogledd, rydych chi'n methu â chyflawni ar ran y bwrdd iechyd, ac rydych chi'n methu â chyflawni ar ran y staff gwirioneddol sy'n gweithio yno. Rydym ni mewn argyfwng yn y gogledd. Mae angen canolfan hyfforddi arnom ni ym Mangor. Mae'r costau, fel y dywedodd Siân yn eithaf da, yno i—. Ni allwn barhau i gymryd staff locwm—
A allwch chi ddod â hyn i gwestiwn?
Gallaf, iawn, diolch. Rydym ni eisiau ateb hirdymor. Chi yw'r un sydd â’r gallu i wneud hyn; a allwn ni gael ysgol hyfforddi ym Mangor os gwelwch yn dda?
Wel, rwy'n cytuno â hi pan ei bod hi’n dweud ei bod hi eisiau mwy o gyfleoedd hyfforddi yn y gogledd. Nid oes unrhyw bellter rhyngom ni yn hynny o beth; sut mae’n cael ei ddarparu yw’r cwestiwn. Mae hi'n gofyn, 'A all hi fod yn ysgol feddygol annibynnol?' Wel, rydym ni’n gwybod nad dyna sy’n cael ei argymell. Rydym ni’n gwybod y byddai'n anodd gan fod ysgolion meddygol mawr mewn dinasoedd mawr ag ysbytai mawr, sydd â llawer mwy o amrywiaeth mewn arbenigedd. Yr hyn y gellir ei wneud, fodd bynnag, yw sicrhau bod Bangor wedi ei lynu—bod y gogledd cyfan wedi ei lynu—yn fwy pendant â Chaerdydd ac Abertawe, a'n bod yn cymryd camau i sefydlu system o ddatblygiad dros yr ychydig flynyddoedd nesaf er mwyn cynnig cyfleoedd gwell yn y gogledd. Dyna'r ffordd i'w wneud. Mae'n bwysig gallu cysylltu Bangor â'r ysbytai mwy i ddarparu'r cyfleoedd hyfforddi yn y ffordd fwyaf cynhwysfawr. Rwy'n credu bod pawb yn y proffesiwn meddygol yn deall hynny. Rwy'n derbyn y pwynt bod angen i ni gynnig mwy o gyfleoedd hyfforddi yn y gogledd. Nid wyf yn dadlau â’r hyn y mae'r Aelod dros Arfon wedi ei ddweud. Mae'n gwestiwn nawr nid o, 'A ddylem ni ei wneud?' ond 'Beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o’i wneud?', a chredwn ein bod ni wedi amlinellu hynny.