<p>Y Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 26 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:58, 26 Medi 2017

Yn ail, beth rydym ni’n moyn sicrhau yw bod y gogledd yn cysylltu gyda’r de er mwyn creu system hyfforddi sydd ar draws Cymru yn gyfan gwbl. Beth sy’n cyfrif, wrth gwrs, yw’r ffaith bod y rheini sydd eisiau cael eu hyfforddi yn gweld bod y safon yn ddigon uchel. Rydym ni’n moyn sicrhau bod y safon yn gymwys ar draws Cymru, a dyna’n gwmws beth rydym ni’n mynd i’w wneud. Rydym ni’n gwybod ynglŷn â hyfforddi meddygon teulu, er enghraifft, yn y gogledd-ddwyrain a’r gogledd-orllewin, fod pob lle wedi cael ei lanw erbyn hyn ynglŷn â llefydd hyfforddi. Nid yw hynny’n iawn ynglŷn â chanol y gogledd, ond rydym wedi gweld bod mwy o bobl yn dod i’r gogledd i hyfforddi, ac rydym ni’n moyn sicrhau ein bod yn symud at ddatblygu system addysg feddygol yn y gogledd dros y blynyddoedd er mwyn sicrhau bod y gogledd yn cael ei ystyried fel rhywle lle mae hyfforddi yn gallu cymryd lle yn y ffordd fwyaf cyfan posibl, a dyna’n gwmws beth yw nod y Llywodraeth. Nid wyf yn credu ein bod yn llawer ymhell o’n gilydd ynglŷn â beth rydym ni’n moyn wneud.