<p>Cynllunio’r Gweithlu</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 26 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:03, 26 Medi 2017

Wel, a gaf i ddweud yn gyntaf fy mod yn gobeithio bod y sefyllfa deuluol wedi gwella? Rwy’n flin i glywed—flin yn ystyr y de, nid y gogledd—i glywed am beth a ddigwyddodd yn y fan yna. Mae’n wir i ddweud bod yna’n dal i fod heriau yn y gorllewin. Rwy’n gwybod bod y sefyllfa yn Llwynhelyg yn rhywbeth dros dro, nid rhywbeth parhaol—a gaf i ddweud hynny—ac rwy’n gwybod bod y bwrdd iechyd yn gweithio’n galed er mwyn recriwtio’r bobl sydd eu heisiau arnyn nhw. Beth sydd ddim yn mynd i ddigwydd yw nad ydym yn mynd i fynd yn ôl i’r hen fodel a oedd yno. Nid felly ddywedodd y coleg brenhinol. Efallai bod un unigolyn wedi dweud hynny, ond nid felly oedd barn y coleg brenhinol. Ond, wrth gwrs, rwy’n gwybod bod y bwrdd yn gweithio’n galed drwy’r ymgyrch recriwtio sydd gennym ni er mwyn sicrhau bod y sefyllfa dros dro yn Llwynhelyg yn newid, er mwyn bod y system gofal yn dod yn ôl i beth oedd yno o’r blaen, sef 12 awr y dydd.