Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 26 Medi 2017.
Rwy’n deall, ar 21 Medi, ychydig ddyddiau yn ôl, y recriwtiwyd pediatregydd ymgynghorol newydd i Lwynhelyg. Hefyd, penodwyd dau locwm ac i ddwy swydd ymgynghorol sylweddol ar draws eu gwasanaethau pediatrig. Mae'r bwrdd iechyd yn ein hysbysu eu bod hefyd mewn trafodaethau â dau ymgeisydd arall ar gyfer swydd bediatreg gymunedol a swydd bediatrig ymgynghorol. Mae hynny'n galonogol ac, wrth gwrs, trwy wneud hynny, rydym ni eisiau sicrhau bod mwy i ddod.