Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 26 Medi 2017.
Wel, gallem ni fod wedi gwneud hyn pe byddai plismona wedi ei ddatganoli, ond mae ei blaid ef wedi eistedd yn y fan yna yn gyson yn y Siambr hon a mynnu na ddylai plismona gael ei ddatganoli. Nid ydym ni’n mynd i ariannu gwasanaethau a ddylai gael eu hariannu gan gorff nad yw wedi ei ddatganoli. Treth a orfodwyd gan ei blaid ef yw hon: treth ar fusnes. Rydym ni wedi derbyn cyfran o honno a byddwn yn defnyddio'r arian hwnnw i dalu am brentisiaethau, ond ni allwn, yn ddidwyll, gyfrannu at gynlluniau prentisiaeth sydd mewn meysydd nad ydynt wedi eu datganoli. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hynny, does bosib, fel y maen nhw’n ei ddweud wrthym drwy’r amser.