1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Medi 2017.
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prentisiaethau yng Nghymru? (OAQ51057)
Wel, rwy'n falch bod yr Aelod wedi gofyn y cwestiwn, gan ein bod ni’n gweddnewid y daith sgiliau trwy greu llwybrau prentisiaeth i gyflawni ein hymrwymiad o 100,000 o leoedd prentisiaeth ar gyfer pobl o bob oed, yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yn unol â'r addewidion a wnaethom y llynedd.
Diolch i chi am hynna. Pan godais, yn gynharach eleni, yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, pryder a fynegwyd gan bedwar heddlu Cymru na allent gael mynediad at yr ardoll brentisiaeth a'r £2 filiwn yr oeddent yn ei dalu i mewn iddo, atebodd y Gweinidog dros sgiliau y byddai Llywodraeth Cymru, yn hytrach, yn gwneud trefniadau grant neu gontract, mewn deialog gyda'r Coleg Plismona, a bod ganddyn nhw gyfarfodydd yn y dyddiadur gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu. Cefais fy hysbysu wedyn ym mis Mawrth, bod y cyfarfodydd hynny, bryd hynny, wedi eu canslo, ac nad oeddent wedi eu haildrefnu. Sut ydych chi'n ymateb i'r pryder a fynegwyd ym mis Awst gan y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid yng Nghymru y gallai hyn arwain at 45 yn llai o swyddogion yn y gogledd a darpar recriwtiaid yn dewis ymuno â heddluoedd Lloegr yn hytrach, gan alw am gamau brys gan Lywodraeth Cymru oherwydd bod y sefyllfa yn eu rhoi dan anfantais amlwg, ac yn nodi i gloi er bod yr arian y mae heddluoedd yn Lloegr yn ei dalu i’r ardoll yn mynd i goleg heddlu Lloegr, ei fod yn mynd i Lywodraeth Cymru yng Nghymru ac, felly, chi sy’n gyfrifol am hyn?
Wel, gallem ni fod wedi gwneud hyn pe byddai plismona wedi ei ddatganoli, ond mae ei blaid ef wedi eistedd yn y fan yna yn gyson yn y Siambr hon a mynnu na ddylai plismona gael ei ddatganoli. Nid ydym ni’n mynd i ariannu gwasanaethau a ddylai gael eu hariannu gan gorff nad yw wedi ei ddatganoli. Treth a orfodwyd gan ei blaid ef yw hon: treth ar fusnes. Rydym ni wedi derbyn cyfran o honno a byddwn yn defnyddio'r arian hwnnw i dalu am brentisiaethau, ond ni allwn, yn ddidwyll, gyfrannu at gynlluniau prentisiaeth sydd mewn meysydd nad ydynt wedi eu datganoli. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hynny, does bosib, fel y maen nhw’n ei ddweud wrthym drwy’r amser.
Rwy'n siŵr y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai rhai o'r ymweliadau sy’n cynnig y mwyaf o ysbrydoliaeth i ni fel Aelodau'r Cynulliad yn ein hetholaethau ein hunain yw’r rheini â chyflogwyr, mawr a bach, sy'n cynnig prentisiaethau'n rheolaidd, pa un ai yw'r rheini’n rai y gallem ni eu galw’n brentisiaethau lefel mynediad, prentisiaethau uwch neu hyd yn oed prentisiaethau gradd hefyd—maen nhw’n brentisiaethau i raddedigion. Cwmnïau fel Sony, sydd bellach yn gosod y safon o ran datblygu prentisiaethau yn y gweithlu. Cwmnïau yn eich etholaeth eich hun, Prif Weinidog, fel Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd, dros flynyddoedd lawer iawn, wedi datblygu pobl mewn prentisiaethau peirianneg electromecanyddol, mewn prentisiaethau rheoli busnes, a llawer iawn mwy.
Mae cryn dipyn i'w wneud, ond mae llawer yn cael ei gyflawni, ond a fyddai e'n cytuno â mi mai un o'r ffyrdd mwyaf arwyddocaol y gallwn ni gynyddu’r piblinell o brentisiaethau yw buddsoddi mewn seilwaith mawr, trwm? Ac er efallai i ni golli'r cyfle gyda’r buddsoddiad mewn trydaneiddio’r holl ffordd i lawr i Abertawe, mae ffordd arbed pethau i ryw raddau, sef bod Llywodraeth y DU yn cymeradwyo’r morlyn llanw yn Abertawe, oherwydd bydd hynny'n datblygu prentisiaethau peirianneg sifil, prentisiaethau rheoli prosiect, prentisiaethau rheoli busnes, a llawer iawn mwy. Byddai hynny, ar ei ben ei hun, yn cael effaith sylweddol ar brentisiaethau ar draws y rhanbarth cyfan.
Wel, rwy’n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae’r Aelod wedi ei ddweud. Efallai y bydd rhai wedi sylwi fy mod wedi cyflwyno araith dros y penwythnos pan alwais ar Lywodraeth y DU i gyflwyno'r morlyn llanw. Yr ymateb gan Lywodraeth y DU oedd y dylwn i ganolbwyntio ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a pheidio â sôn am y morlyn. Nawr, mae hynny'n achosi cryn dipyn o anniddigrwydd i mi oherwydd yr ymateb fel rheol yw, 'Rydym ni’n dal i’w ystyried.' Mae hynny'n awgrymu i mi eu bod nhw’n mynd i gael gwared ar y morlyn, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n peri pryder mawr i mi ac, rwy'n siŵr, i Aelodau'r Siambr hon, ac yn wir, y tu allan i'm plaid fy hun.
Mae hwn yn brosiect a fydd yn darparu ynni glân, gwyrdd, nid yn unig i Gymru ond i mewn i'r Grid Cenedlaethol. Byddai'n darparu 1,000 o swyddi ym meysydd gweithgynhyrchu a chynnal a chadw, yn enwedig yn ardal Port Talbot, ac rydym ni wedi cael tactegau osgoi dro ar ôl tro ar ôl tro. Mae hyd yn oed adolygiad annibynnol, yr wyf yn amau iddo gael ei drefnu i ddweud, 'Peidiwch â bwrw ymlaen ag ef' ac a wnaeth yr awgrym wedyn y dylem ni fwrw ymlaen ag ef, wedi dweud y dylai'r prosiect hwn ddigwydd. Rhoddwyd biliwn o bunnoedd ar y bwrdd ar gyfer Gogledd Iwerddon—£1 biliwn ar gyfer Gogledd Iwerddon; gyrru ceffyl a throl trwy fformiwla Barnett. Rydym ni wedi clywed bod hwnnw'n sacrosanct; anwybyddwyd hynny, cyn belled ag yr oedd Gogledd Iwerddon yn y cwestiwn. Ble mae'r morlyn llanw? Mae pobl Cymru'n haeddu ateb, maen nhw’n haeddu'r swyddi hynny ac maen nhw’n haeddu ystyriaeth Llywodraeth y DU.