<p>Dyfodol Gwasanaethau Trawma yn Ne Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 26 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:12, 26 Medi 2017

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn naturiol, mae’r argymhelliad i sefydlu’r brif ganolfan trawma yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn esiampl arall o wasanaeth sy’n cael ei ganoli yng Nghaerdydd ar draul Ysbyty Treforys yn Abertawe, ac mae hyn yn dilyn colli gwasanaethau eraill fel niwrolawdriniaeth rai blynyddoedd yn ôl—niwrolawdriniaeth i blant a niwrolawdriniaeth i oedolion wedi mynd o Abertawe i Gaerdydd. Yn wir, collodd Treforys yr uned niwrolawdriniaeth i blant er bod yr unig niwrolawfeddyg i blant ar y pryd trwy Gymru gyfan yn Nhreforys, ond nid oedd hynny’n ddigon i gadw’r uned yn Nhreforys; aeth hi i Gaerdydd.

Yn naturiol, felly, mae yna bryder yn ne-orllewin Cymru fod gwasanaethau arbenigol yn cael eu colli ac nad yw Ysbyty Treforys yn ymddangos yn ddigon amlwg yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru. Mae colli neu wanhau gwasanaethau yn tanseilio statws yr ysbyty fel canolfan ranbarthol o arbenigedd, a hefyd amcanion y fargen ddinesig yn Abertawe sy’n edrych i ddatblygu swyddi ymchwil a iechyd o ansawdd uchel. Hefyd, mae uned losgiadau Treforys—yr unig un yng Nghymru, sydd hefyd yn gwasanaethu gorllewin Lloegr—mae presenoldeb yr uned losgiadau yna yn hanfodol bwysig i unrhyw brif ganolfan drawma. Felly, yn dilyn hynny i gyd, a wnewch chi, fel Llywodraeth, ymrwymo i gyflwyno gweledigaeth fanwl ar gyfer safle Treforys sy’n adeiladu ar ei gryfderau amlwg?