1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Medi 2017.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau trawma yn ne Cymru? (OAQ51085)
Ni chlywais y cwestiwn; roedd rhywfaint o barablu ar y chwith i mi, ond mae’r cwestiwn gen i—.
Mae ar y papur trefn.
A gaf i ymddiheuro? Wel, yn y cyfarfodydd bwrdd iechyd ym mis Medi, mae’r byrddau iechyd wrthi’n ystyried argymhellion ynglŷn â sefydlu rhwydwaith trawma mawr ar gyfer de Cymru, gorllewin Cymru a de Powys, ac mae hyn yn cynnwys derbyn yn ffurfiol adroddiad y panel o arbenigwyr annibynnol ar weithredu rhwydwaith trawma mawr a chanolfan trawma mawr.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn naturiol, mae’r argymhelliad i sefydlu’r brif ganolfan trawma yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn esiampl arall o wasanaeth sy’n cael ei ganoli yng Nghaerdydd ar draul Ysbyty Treforys yn Abertawe, ac mae hyn yn dilyn colli gwasanaethau eraill fel niwrolawdriniaeth rai blynyddoedd yn ôl—niwrolawdriniaeth i blant a niwrolawdriniaeth i oedolion wedi mynd o Abertawe i Gaerdydd. Yn wir, collodd Treforys yr uned niwrolawdriniaeth i blant er bod yr unig niwrolawfeddyg i blant ar y pryd trwy Gymru gyfan yn Nhreforys, ond nid oedd hynny’n ddigon i gadw’r uned yn Nhreforys; aeth hi i Gaerdydd.
Yn naturiol, felly, mae yna bryder yn ne-orllewin Cymru fod gwasanaethau arbenigol yn cael eu colli ac nad yw Ysbyty Treforys yn ymddangos yn ddigon amlwg yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru. Mae colli neu wanhau gwasanaethau yn tanseilio statws yr ysbyty fel canolfan ranbarthol o arbenigedd, a hefyd amcanion y fargen ddinesig yn Abertawe sy’n edrych i ddatblygu swyddi ymchwil a iechyd o ansawdd uchel. Hefyd, mae uned losgiadau Treforys—yr unig un yng Nghymru, sydd hefyd yn gwasanaethu gorllewin Lloegr—mae presenoldeb yr uned losgiadau yna yn hanfodol bwysig i unrhyw brif ganolfan drawma. Felly, yn dilyn hynny i gyd, a wnewch chi, fel Llywodraeth, ymrwymo i gyflwyno gweledigaeth fanwl ar gyfer safle Treforys sy’n adeiladu ar ei gryfderau amlwg?
Mae Treforys yn hollbwysig ynglŷn â gwasanaethau iechyd fel ysbyty mawr sydd yn gwasanaethau sut gymaint o bobl. Ond, mae’n sôn am y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn. Nid barn Llywodraeth Cymru yw hwn. Pan fydd gennych chi sefyllfa fel hyn, lle mae yna bobl yn gryf o blaid un safle neu’r llall, yr unig ffordd y gallwch chi ddelio ag e yw sefydlu panel annibynnol. Dyna’n gwmws sydd wedi digwydd. Mae’r panel hwnnw wedi rhoi ei argymhellion mas i’r maes cyhoeddus. Rydym ni’n gwybod beth ŷn nhw, mae’n fater nawr i’r byrddau iechyd weithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod canolfan yn dod. Rydym ni’n gwybod ei bod hi’n amhosibl cael dwy—rydym ni’n gwybod hynny—dwy ganolfan, ond, wrth gwrs, mae’n hollbwysig nawr fod yr argymhellion yn cael eu hystyried ac, wrth gwrs, fod penderfyniad yn dod. Ond, ynglŷn â Llywodraeth Cymru, nid oes gyda ni farn, achos y ffaith bod yna banel wedi rhoi’r argymhellion ac mae nawr yn nwylo’r bwrdd iechyd. Os nad oes unrhyw fath o gytuno ynglŷn â byrddau iechyd, wedyn, wrth gwrs, byddai fe’n dod i Weinidogion Cymru ac wedi hynny, wrth gwrs, byddai’n rhaid ystyried pob ffaith ynglŷn â ble dylai’r safle fod.
Wel, mae tair blynedd ers i'r panel arbenigol gael ei sefydlu i ystyried lleoliad yr uned newydd, ac, yn y cyfnod hwnnw, nid yw Caerdydd na Bryste wedi dod yn nes at Aberystwyth na Hwlffordd, heb sôn am fannau yn fy rhanbarth i. Mae pennaeth y panel annibynnol, fel y clywsom, yn sôn nawr am symud yr uned losgiadau o Dreforys i Gaerdydd ac mae hynny, i mi, yn codi cwestiynau ynghylch sut yn union y mae'r argymhellion hyn yn cael eu gwneud yn y lle cyntaf. Mae Treforys ar fin derbyn £2 filiwn tuag at fuddsoddiad mewn ymateb i amseroedd cardiaidd brys, yr ydym ni’n ddiolchgar amdano, ond mae'n amlwg yn ystyriaeth berthnasol yn y penderfyniad hwnnw, faint o amser y mae'n ei gymryd i ambiwlansys deithio. Rwy’n derbyn bod y gofal wrth ar y daith yn fater perthnasol, ond, os caiff ei ystyried ar gyfer penderfynu lle mae gwasanaethau cardiaidd brys am gael eu gwella, pam nad yw’n ystyriaeth berthnasol o ran ble mae gwasanaethau trawma am gael eu gwella? Rwy'n sylweddoli nad dyma eich barn chi, ond bydd yn llywio penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gobeithio clywed y bydd amser cludo yn rhywbeth a fydd yn cael ei gymryd yn fwy o ddifrif nag y mae'n ymddangos ei fod ar hyn o bryd.
Wel, efallai. Mae'n dibynnu, wrth gwrs, os yw'r byrddau iechyd yn cytuno ai peidio. Os nad ydynt, yna wrth gwrs bydd yn dod at Ysgrifennydd y Cabinet i gael penderfyniad. Ble bynnag y byddwch chi'n lleoli’r ganolfan trawma, bydd pobl sydd dros awr oddi wrthi. Mae'n anochel; mae'r ddaearyddiaeth yn penderfynu hynny. Wrth gwrs, mae gennym ni ambiwlansys awyr sy'n gallu cynorthwyo o ran dod â phobl i ysbytai yn gyflymach. Ond mae'r panel annibynnol wedi gwneud ei argymhellion; maen nhw’n gyhoeddus erbyn hyn. Mater i’r byrddau iechyd nawr yw penderfynu ymhlith eu hunain beth ddylai’r ffordd fwyaf effeithiol fod o sefydlu canolfan trawma mawr—nid canolfan yn unig, ond rhwydwaith trawma hefyd. Ni all y cwbl ymwneud ag un ganolfan, er mor bwysig yw’r ganolfan honno, lle bynnag y mae'n mynd; mae'n rhaid iddo ymwneud â sefydlu rhwydwaith priodol, ymatebol i drawma a all gyfrannu at y ganolfan drawma honno yn yr amser mwyaf priodol.
Yn olaf, David Rees.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a gaf i ymuno â phryderon fy nghyd-Aelodau am y brif ganolfan drawma yn cael ei lleoli yng Nghaerdydd a'r colledion posibl o wasanaethau yn Nhreforys. Gwyddom, pan fydd gwasanaethau’n symud, bod eraill yn tueddu i'w dilyn. Nawr, yn yr achos hwn, nid oes unrhyw wasanaeth yn symud gan ei fod yn wasanaeth newydd, ond yr hyn yr wyf i ei eisiau yw sicrwydd y bydd gwasanaethau yn Nhreforys yn aros yn Nhreforys, gan eu bod nhw wedi datblygu enw da, maen nhw wedi adeiladu darpariaeth gwasanaeth ar gyfer pobl leol, ac nid wyf eisiau gweld hynny’n cael ei niweidio mewn unrhyw fodd o gwbl. Mae'n bwysig bod Treforys yn aros, nid dim ond fel arweinydd y rhwydwaith hwnnw, ond bod y gwasanaethau sydd ganddo’n aros hefyd.
Mae Treforys yn siŵr o fod yn ysbyty cyffredinol dosbarth pwysig. Mae'n darparu llawer o wasanaethau arbenigol i'r ysbytai ymhellach i'r gorllewin er mwyn i'r ysbytai hynny allu darparu'r gwasanaethau i'w pobl. Rwy’n gwybod bod—. Mae meddygon ymgynghorol sy’n gweithio yn Nhreforys wedi dweud wrthyf eu bod yn aml yn gweithio yn yr ysbytai ymhellach i'r gorllewin hefyd. Felly, nid oes unrhyw gwestiwn y bydd Treforys yn colli ei statws fel un o'n Ysbytai Cyffredinol Dosbarth pwysicaf. Lle bynnag y bydd y ganolfan trawma’n mynd, ac mae hynny'n rhywbeth i'r byrddau iechyd ei benderfynu, mae'n bwysig, fel y dywedais, bod y rhwydwaith hwnnw ar waith. Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â darparu gofal mwy arbenigol a gwell i bobl sydd wir angen y gofal hwnnw. Nid oes gennym ni ganolfan drawma; mae angen un arnom ni. Mae wedi ei lleoli yn y de, mae hynny'n wir, ond mae angen i ni gael un canolfan drawma lle bynnag y bydd honno'n mynd. Ond, yn sicr, cyn belled ag y mae Treforys yn y cwestiwn, mae'n dal yn ysbyty mawr sy'n gwasanaethu dinas bwysig a bydd yn parhau i ddarparu gwasanaethau arbenigol, nid yn unig i Abertawe, ond ymhellach i’r gorllewin hefyd.
Diolch i’r Prif Weinidog.