Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 26 Medi 2017.
Wel, mae tair blynedd ers i'r panel arbenigol gael ei sefydlu i ystyried lleoliad yr uned newydd, ac, yn y cyfnod hwnnw, nid yw Caerdydd na Bryste wedi dod yn nes at Aberystwyth na Hwlffordd, heb sôn am fannau yn fy rhanbarth i. Mae pennaeth y panel annibynnol, fel y clywsom, yn sôn nawr am symud yr uned losgiadau o Dreforys i Gaerdydd ac mae hynny, i mi, yn codi cwestiynau ynghylch sut yn union y mae'r argymhellion hyn yn cael eu gwneud yn y lle cyntaf. Mae Treforys ar fin derbyn £2 filiwn tuag at fuddsoddiad mewn ymateb i amseroedd cardiaidd brys, yr ydym ni’n ddiolchgar amdano, ond mae'n amlwg yn ystyriaeth berthnasol yn y penderfyniad hwnnw, faint o amser y mae'n ei gymryd i ambiwlansys deithio. Rwy’n derbyn bod y gofal wrth ar y daith yn fater perthnasol, ond, os caiff ei ystyried ar gyfer penderfynu lle mae gwasanaethau cardiaidd brys am gael eu gwella, pam nad yw’n ystyriaeth berthnasol o ran ble mae gwasanaethau trawma am gael eu gwella? Rwy'n sylweddoli nad dyma eich barn chi, ond bydd yn llywio penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gobeithio clywed y bydd amser cludo yn rhywbeth a fydd yn cael ei gymryd yn fwy o ddifrif nag y mae'n ymddangos ei fod ar hyn o bryd.