Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 26 Medi 2017.
Mae Treforys yn siŵr o fod yn ysbyty cyffredinol dosbarth pwysig. Mae'n darparu llawer o wasanaethau arbenigol i'r ysbytai ymhellach i'r gorllewin er mwyn i'r ysbytai hynny allu darparu'r gwasanaethau i'w pobl. Rwy’n gwybod bod—. Mae meddygon ymgynghorol sy’n gweithio yn Nhreforys wedi dweud wrthyf eu bod yn aml yn gweithio yn yr ysbytai ymhellach i'r gorllewin hefyd. Felly, nid oes unrhyw gwestiwn y bydd Treforys yn colli ei statws fel un o'n Ysbytai Cyffredinol Dosbarth pwysicaf. Lle bynnag y bydd y ganolfan trawma’n mynd, ac mae hynny'n rhywbeth i'r byrddau iechyd ei benderfynu, mae'n bwysig, fel y dywedais, bod y rhwydwaith hwnnw ar waith. Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â darparu gofal mwy arbenigol a gwell i bobl sydd wir angen y gofal hwnnw. Nid oes gennym ni ganolfan drawma; mae angen un arnom ni. Mae wedi ei lleoli yn y de, mae hynny'n wir, ond mae angen i ni gael un canolfan drawma lle bynnag y bydd honno'n mynd. Ond, yn sicr, cyn belled ag y mae Treforys yn y cwestiwn, mae'n dal yn ysbyty mawr sy'n gwasanaethu dinas bwysig a bydd yn parhau i ddarparu gwasanaethau arbenigol, nid yn unig i Abertawe, ond ymhellach i’r gorllewin hefyd.