Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 26 Medi 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar effaith diwygio lles ar wasanaethau datganoledig yng Nghymru? Bu peth amser ers i ni drafod y mater hwn yn y fan yma. Fel y gwyddoch, cyflwynwyd gwasanaeth llawn ar gyfer credyd cynhwysol yn Nhorfaen ym mis Gorffennaf—yr ail ran o Gymru i gael y gwasanaeth llawn—ac mae'r arwyddion yn achosi pryder mawr. Mae'r faith bod pobl yn gorfod aros chwe wythnos i gael eu harian—ychydig iawn o bobl yr wyf i’n eu hadnabod a allai ymdopi heb chwe wythnos o incwm—eisoes yn arwain at fwy o ddefnydd o'r banc bwyd yn lleol, ac mae arwyddion brawychus iawn ynglŷn â lefel ac ansawdd yr wybodaeth sy'n cael ei darparu gan bethau fel y llinell gymorth lwfans cyflogaeth a chymorth, y llinell gymorth credyd cynhwysol a’r Ganolfan Byd Gwaith. Rwy’n credu y byddai'n fuddiol iawn pe byddem ni’n gallu trafod y materion hyn a dylanwadu rhywfaint ar Lywodraeth y DU am yr effaith y mae hyn yn ei gael ar ein cymunedau a'n gwasanaethau datganoledig.