Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 26 Medi 2017.
Rydym yn adeiladu ar sylfeini cadarn a nodwyd mewn cynlluniau a rhaglenni blaenorol. Ond gallwn fod yn well fyth, a phennu disgwyliadau uchel o'n pobl ifanc a’n hathrawon. Rydym yn glir ynghylch y ffordd ymlaen. Ers adroddiad yr OECD, rwyf wedi ystyried ei argymhellion. Rwyf wedi siarad â channoedd o fewn y gweithlu addysg ac wedi gwrando ar yr her a’r cyngor gan y pwyllgorau craffu yma yn y Cynulliad. Dywedodd yr OECD,
‘I helpu i wireddu eu hamcanion o ran addysg ac, yn y pen draw, eu gweledigaeth o ddysgwyr Cymru, dylai Cymru barhau i ddiwygio eu cwricwlwm...i sicrhau bod eu taith ddiwygio'n gynhwysfawr ac yn effeithiol.’
Mae’r llinell amser ar gyfer cyflwyno ein cwricwlwm newydd, sydd wrth wraidd system addysg wedi'i thrawsnewid, wedi’i nodi’n glir o fewn y cynllun gweithredu. Yn hytrach na chyflwyniad mawr dros nos un mis Medi, caiff ei chyflwyno gan ddechrau gydag ysgolion cynradd a blwyddyn 7. Mae tystiolaeth ryngwladol yn glir ar hyn. Byddwn hefyd yn darparu'r amser paratoi cywir i ysgolion ac athrawon—nid amser i sefyll yn llonydd, ond amser i roi adborth, ymgysylltu ymhellach â'r cwricwlwm newydd a bod yn gwbl barod am y dull newydd.
Mae gwaith ar y cynnwys a'r meysydd dysgu a phrofiad yn parhau yn gyflym. Bydd y cwricwlwm a'r trefniadau asesu newydd ar gael i ysgolion i roi adborth amdanynt, eu profi a’u mireinio erbyn Pasg 2019. Ar ôl y cyfnod hwnnw, bydd y cwricwlwm terfynol ar gael i bob ysgol o 2020 ymlaen, fel y gallant fod yn gwbl barod am ei gyflwyno'n statudol ym mis Medi 2022. Fe'i cyflwynir wedyn o'r dosbarth meithrin i flwyddyn 7 yn 2022, gan dreiglo i flwyddyn 8 ar gyfer 2023, blwyddyn 9 yn 2024, ac yn y blaen wrth i'r garfan symud drwodd. Gyda'n gilydd, byddwn yn cyflawni ein cwricwlwm newydd, gan gymryd yr amser i'w wneud yn hollol gywir, ond nid yw cymryd yr amser ychwanegol hwnnw i’w gyflwyno a blwyddyn ychwanegol yn golygu arafu. Mae'n golygu y byddwn yn cyflawni'r blaenoriaethau cysylltiedig hynny o fewn y cynllun gweithredu sy'n hanfodol i gynnal safonau uchel a gosod uchelgeisiau uwch fyth.
Yn gyntaf: sicrhau proffesiwn addysg o safon uchel—cefnogi athrawon i fod yn ddysgwyr proffesiynol gydol oes â safonau newydd, agwedd genedlaethol tuag at ddatblygiad proffesiynol ac addysg gychwynnol athrawon wedi’i diwygio.
Yn ail: canfod arweinwyr a’u hysbrydoli i godi safonau—ymdrin â diffyg pwyslais hanesyddol ar arweinyddiaeth drwy sefydlu academi arweinyddiaeth genedlaethol, datblygu arweinyddiaeth yn well, lleihau biwrocratiaeth drwy reolwyr busnes, gwell cyfathrebu o bob lefel, a safonau newydd a chymhwyster pennaeth diwygiedig.
Yn drydydd: ysgolion cynhwysol sy'n ymroddedig i ragoriaeth, cydraddoldeb a lles—diwylliant o barch a her, gan sicrhau bod pawb yn barod i ddysgu drwy ehangu'r Grant Amddifadedd Disgyblion, rhaglenni dysgu haf gwell, darpariaeth benodol ‘mwy abl’, a ffyrdd arloesol o gofnodi a mesur lles ochr yn ochr â chyrhaeddiad.
Ac yn bedwerydd: gwell asesiad, gwerthusiad ac atebolrwydd cadarn o fewn system hunanwella—bod yn gyson ac yn glir ynghylch y pethau yr ydym yn dymuno eu prisio a'u mesur drwy adroddiad a cherdyn adroddiad cenedlaethol blynyddol ar gyfer addysg, drwy asesiad ffurfiannol a fframwaith asesu a gwerthuso newydd sy'n canolbwyntio ar welliant ar bob lefel. Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn nodi llinellau amser, polisïau a chamau gweithredu clir ar draws pob un o'r meysydd hyn.
I gloi, Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i ysgolion baratoi ein pobl ifanc am swyddi nad ydynt wedi'u creu eto a heriau nad ydym wedi’u hwynebu eto. Bydd hyn yn gofyn am ymrwymiad newydd i wella sgiliau a gwybodaeth ein pobl ifanc wrth inni godi safonau mewn cwricwlwm trawsnewidiol. Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn uchelgeisiol, yn arloesol ac yn hyderus wrth inni weithio i gyflwyno system addysg ddiwygiedig a llwyddiannus. Gyda'i gilydd, bydd ein diwygiadau’n ateb yr heriau hyn ac yn cyflawni'r disgwyliadau uchel yr wyf yn siŵr ein bod i gyd yn eu rhannu yn y Siambr hon ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc.