Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 26 Medi 2017.
Gan y bydd y llwybr coch, fel y'i cyhoeddwyd heddiw, yn cael effaith sylweddol ar fy etholaeth i yn Delyn, mae'n debyg ei bod hi’n ddyletswydd ddemocrataidd arnaf i yma heddiw i sôn am y nifer o bryderon y mae etholwyr wedi'u codi gyda mi a nifer o bwyntiau ehangach.
Rwyf am ddechrau gyda rhywbeth y gellid ei ystyried yn bwynt braidd yn bedantig a braidd yn blwyfol ynghylch teitl datganiad heddiw, sef 'Cynigion Trafnidiaeth ar gyfer Glannau Dyfrdwy'. Oherwydd, os edrychwch chi ar fap y cynnig cychwynnol, gyda'r llwybrau coch a glas , mewn gwirionedd, mae cyfran sylweddol o hynny yn cwmpasu cymunedau Oakenholt, Y Fflint, Mynydd y Fflint a Llaneurgain, sydd y tu hwnt i ardal Glannau Dyfrdwy. Rwy’n fwy na pharod i gynnig cwrs dwys i swyddogion Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd ar wahanol gymunedau y gogledd-ddwyrain a Sir y Fflint, ond, ar bwynt mwy difrifol—ac fe soniais am hyn yn rhan o'r broses ymgynghori—rwy’n credu, er mwyn i hyn fod mor hygyrch â phosib i bobl, mae angen iddyn nhw ddeall ei fod yn effeithio ar eu hardal nhw hefyd, a'i fod yn ymgynghoriad ac yn gynnig iddyn nhw gymryd rhan ynddo. Rwy'n gobeithio y caiff hyn ei ystyried yng nghyfnod nesaf y broses.
Er, fel y clywsom ni eisoes, y bu llawer o ddadlau ac anghytuno lleol dros y ddau gynnig a roddwyd ger bron, ac fe wn i y bydd yr anghytuno a'r dadlau hynny'n parhau. Rwy'n credu y byddai’n anodd iawn dod o hyd i unrhyw un yn y gogledd-ddwyrain nad yw'n credu bod angen buddsoddiad o ryw fath yn ein seilwaith trafnidiaeth, ac yn enwedig yn y fynedfa allweddol i ogledd Cymru. Fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn ymwybodol o'm gohebiaeth ar y mater hwn bod nifer o'm hetholwyr a'm cymunedau yn yr ardal wedi crybwyll amrywiaeth o bryderon, ac rwyf am eu hamlinellu'n fyr yma heddiw.
Wrth gwrs, mae'r goblygiadau a'r pryderon amgylcheddol ehangach sy'n gysylltiedig ag unrhyw gynnig, unrhyw ffordd newydd o'r maint hwn. Ac fe wn i y bydd y llwybr coch fel y gelwir ef yn effeithio ar nifer o ffermydd yn fy etholaeth i, ac y byddwn yn gweld colli coetiroedd a hawliau tramwy cyhoeddus. A gaf i ofyn pa waith a wnaed ac a fydd yn cael ei wneud ynglŷn â hyn, a pha ran fydd bodloni ein hamcanion llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ei chwarae o ran asesu goblygiadau amgylcheddol y llwybr coch fel y'i cynigir ef heddiw?
Ar gost o £250 miliwn mae’r cynllun trafnidiaeth hwn yn fuddsoddiad sylweddol a dylai hefyd ddod â manteision cymdeithasol sylweddol i gymunedau’r ardal, ac fe hoffwn i weld unrhyw fudd cymdeithasol yn cael ei ailfuddsoddi yn y gymuned a'i ddefnyddio i wella cyfleusterau. Rydych chi wedi sôn am y cynlluniau teithio gweithredol ar gyfer parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, yr wyf yn eu croesawu, ond a ellir ehangu hynny’n fwy eang ar draws Sir y Fflint, er mwyn galluogi pobl i feicio i’w gwaith pan fo hynny'n bosibl, ar gyfer iechyd a lles pobl? Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gennych chi farn ar y cam hwn ynglŷn â sut y gellid defnyddio manteision cymdeithasol a'u rhoi yn ôl i'r gymuned? A allai'r buddion cymdeithasol sy'n dod o'r gronfa ffyrdd gyfrannu, er enghraifft, at bethau fel y rhaglen gyfalaf i atgyweirio Theatr Clwyd?
Pwynt arall: yn ddealladwy, mae fy etholwyr yn pryderu am yr effaith y gallai'r cynnig ei gael ar y trefi cyfagos yr wyf eisoes wedi'u crybwyll, yn arbennig y traffig trwy'r Fflint a Llaneurgain, y ddau ohonynt eisoes yn dioddef traffig trwm ar brydiau ar adegau brig. Hefyd, rydym ni eisoes wedi clywed sut mae'r gyfnewidfa newydd a'r lonydd cyfunol yn Llaneurgain͏—. Mae yna bryderon y gallai hynny arwain at drosglwyddo problemau yn llythrennol ymhellach ar hyd y ffordd. Pa waith lliniaru sydd wedi'i wneud ac a gaiff ei wneud yng nghyffiniau Llaneurgain a Mynydd y Fflint? A roddwyd ystyriaeth i sut yr oedd astudiaeth o gydnerthedd yr A55 a oedd yn mynd i—? A fydd hynny hefyd yn rhan o hyn, oherwydd rwy'n gwybod eich bod eisoes wedi ymateb i fy nghyd-Aelod Mark Isherwood o ran y posibilrwydd o gael lôn araf? Rwy'n credu y dylid ystyried hynny yn rhan o hyn, nad dyma ddiwedd y gân, mae angen—. Rwy'n credu bod yna broblemau eraill ar hyd y llwybr hwnnw y mae angen mynd i'r afael â nhw.
Mae pont Sir y Fflint yn rhan allweddol o'r cynigion. A yw'r cynigion ar gyfer gwella'r bont hon yn sicrhau ei bod yn addas i’w diben? Rwy'n gwybod ei bod yn aml yn cael ei chau oherwydd gwyntoedd cryfion ac mae'n dal i gael ei hadnabod fel y bont newydd yn yr ardal, er ei bod bron yn 20 mlwydd oed, ac mae rhai pobl leol wedi ei bedyddio â’r llysenw 'y bont i nunlle' oherwydd os ewch chi drosti, go brin y gwelwch chi, efallai, un neu ddau o geir eraill yn ei chroesi. Rwy'n credu y cyfeirir ati, sut yr ydych chi wedi cael hyn—. Bu yno ers blynyddoedd lawer bellach, ond mae pobl yn dal i ddewis mynd i fyny Aston Hill i ddod i ogledd Cymru. Felly, pa warant allech chi ei rhoi, pe byddai'r llwybr hwn yn mynd rhagddo, na fyddai pobl yn dal i deithio ar hyd Aston Hill ac na fyddai’r traffig yn dal i grynhoi yno, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd?
Cyfeiriasoch at bentref Oakenholt yn eich datganiad. Rwy'n gwybod bod gan drigolion Oakenholt bryderon arbennig ynghylch sut y bydd y ffordd newydd yn effeithio ar yr ardal. Rydym ni eisoes wedi gweld datblygiadau tai sylweddol yn Oakenholt dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi fod yn wirioneddol hyderus y bydd y llwybr fel yr amlinellir yn gwella Oakenholt a'r ardal gyfagos, ac na fydd yn niweidio’r gymuned?
Ac yn fyr, i orffen, gan symud o ffyrdd i sôn am reilffyrdd, oherwydd rwy’n cydnabod bod eich datganiad yn cynnwys cynlluniau i ddatblygu metro’r gogledd-ddwyrain, rhywbeth yr wyf yn ei groesawu. Rydym yn siarad llawer am gysylltu parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, sy'n bwysig iawn , fel conglfaen yr economi ranbarthol, ond mewn gwirionedd mae angen i ni sicrhau nad yw cymunedau eraill tua'r gorllewin o Sir y Fflint yn cael eu hesgeuluso na’u hamddifadu, a’u bod wedi'u cysylltu yn rhan o gynigion metro gogledd-ddwyrain Cymru. Byddwch yn gwbl ymwybodol mai dim ond un orsaf drenau sydd yn fy etholaeth i ar hyn o bryd, sef yn y Fflint. Mae defnyddio cludiant cyhoeddus i nifer fawr o boblogaeth Delyn yn golygu defnyddio bysiau ac, i fod yn onest, ar hyn o bryd, nid ydynt naill ai'n ddibynadwy iawn neu nid ydynt yn cysylltu â’i gilydd. Mae gan y metro hwn ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru y potensial i fod yn alluogwr economaidd enfawr, nid yn unig i'r rhanbarth, ond i unigolion allu manteisio ar gyfleoedd gwaith, i gyrraedd parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Gwn yn fy achos fy hun, yn fy nigwyddiad Dyfodol Sir y Fflint a gynhaliais yn ddiweddarach eleni, bod pryder penodol ynglŷn â sut y gallai pobl ifanc deithio i barc diwydiannol Glannau Dyfrdwy i weithio os na allant fforddio car, neu os oes ganddyn nhw gar, yn aml mae cost yswiriant i bobl iau yn golygu na allant ei fforddio.
Croesawaf y newyddion i edrych ar orsafoedd Shotton Uchaf, Shotton Isaf a Gorsaf parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, ond a allem ni, yn rhan o gynigion metro gogledd-ddwyrain Cymru, edrych ar sut y gallem ni ddatblygu gorsafoedd ymhellach i lawr y rheilffordd i'r gorllewin o'r Fflint? Yn ddiweddar, fe wnes i gyfarfod ag aelodau Cyngor Tref Treffynnon, cynrychiolwyr o Network Rail a’m cyd-Aelod Seneddol, David Hanson, i edrych ar safle posibl ar gyfer gorsaf newydd yn ardal Maes Glas a Threffynnon. Mae llawer o'r strwythur yn dal i fod yno—yn amlwg mae angen ychydig o waith arno a’i wella rhyw gymaint—ond mae’n dal i fod yno o'r hen orsaf. Mewn gwirionedd roedd yr orsaf honno'n ffurfio pwynt strategol allweddol, heb fod yn rhy bell o Borthladd Mostyn, sy'n cysylltu sector gweithgynhyrchu uwch y gogledd-ddwyrain â sector ynni'r gogledd-orllewin, a dyma lle mae'r adenydd A380 ar gyfer yr Airbus A380 yn gadael neu yn cael eu trosglwyddo i Toulouse. Felly, rwyf wir yn annog ystyried hyn yn ddwys—ac mi fyddwn yn falch o gwrdd â chi a swyddogion i weld sut y gallwn ni ddatblygu hyn ymhellach—cael gorsaf newydd yn yr hyn a elwir yn Arhosfa Maes Glas, neu, i ddweud y gwir, pe byddem ni yn gwneud hynny, beth am ei galw'n Arhosfa y Santes Gwenffrewi er mwyn gwneud yn fawr o’r asedau treftadaeth a'r twristiaid a fyddai ar garreg y drws o’r lle y byddai wedi ei lleoli?
I gloi, yr ydym ni’n gweld bod buddsoddiad ar raddfa fawr ar y gweill yn ein seilwaith yn y gogledd-ddwyrain. Mae cynigion mawr wedi eu rhoi ger bron, cynigion megis y metro, a fyddai'n dod â photensial mawr i'n hardal. Ond, wrth gloi, mae’n wirioneddol raid i mi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet i wrando a gweithredu ar syniadau a phryderon pobl, cymunedau a sefydliadau Sir y Fflint. Byddaf yn gweithio'n galed i sicrhau bod gan fy etholwyr lais wrth i’r broses hon fynd rhagddi. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru yn gryf i sicrhau bod y broses mor hygyrch â phosib i bob cymuned yn Sir y Fflint, nid yn unig Glannau Dyfrdwy, a’i fod mewn difrif yn cynnwys pobl o gymunedau ledled y sir.