Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 26 Medi 2017.
A gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiynau? Rwy'n cydnabod yr angen i sicrhau bod y weledigaeth metro yn ymestyn ar draws y rhanbarth cyfan ac i gymunedau yn etholaeth Delyn. Rwy’n derbyn y sylw ynglŷn â theitl cynnig y coridor, ac nawr fy mod wedi gallu cyhoeddi mai’r llwybr coch fydd yn cael ei ddatblygu, rwy'n credu y gallwn addasu enw'r prosiect, efallai, i goridor gogledd Cymru neu goridor Sir y Fflint. Rwyf yn credu y bydd busnesau a phoblogaeth y rhanbarth yn croesawu cyhoeddiad heddiw. Cyhoeddodd y prosiect £250 miliwn o fuddsoddiad yn y gogledd-ddwyrain, ac mae'n rhan o fuddsoddiad gwerth £600 miliwn ar draws seilwaith yn rhanbarth y gogledd—rhywbeth y mae llawer o fusnesau wedi galw amdano dro ar ôl tro. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau, wrth ddangos cydymdeimlad â'u hetholwyr eu hunain, hefyd yn ystyried mai meithrin agwedd ranbarthol, strategol tuag at ddatblygu economaidd a thrafnidiaeth yw'r brif flaenoriaeth ar gyfer y gogledd.
Rwy’n hoff iawn, iawn—rwyf yn wirioneddol hoffi’r syniad o gael arhosfa y Santes Gwenffrewi neu arhosfa Maes Glas yn rhan o'r metro, a byddaf yn sicr yn gofyn i'r grŵp llywio ystyried hynny fel prosiect gwirioneddol bosib a dichonadwy. Credaf hefyd bod modd cael canolfannau ar raddfa lai mewn trefi eraill yn Nelyn, gan gynnwys tref farchnad hanesyddol yr Wyddgrug ac yn y Fflint, er mwyn sicrhau bod trefi mawr a phentrefi bach wedi'u cysylltu'n well â'r canolfannau cyflogaeth mwy ac i wasanaethau rheilffordd hefyd.
O ran y manteision cymunedol a allai ddeillio o'r prosiect hwn, mae'n amlwg bod £0.25 biliwn yn fuddsoddiad sylweddol iawn, a byddwn yn dychmygu y bydd potensial enfawr i gynlluniau cymunedol dynnu arian, cymorth uniongyrchol a chymorth mewn adnoddau yn ogystal . Rwy’n awyddus iawn i weld buddsoddi yn Theatr Clwyd. Mae hi'n hen bryd iddi gael rhaglen foderneiddio ac mae ei phrosiect cyfalaf, rwy'n credu, yn uchelgeisiol iawn ac mae ganddo gefnogaeth eang. Felly, byddwn yn fwy na pharod i weld bod Theatr Clwyd yn cael ei rhoi mewn sefyllfa lle y gall elwa'n sylweddol fel cynllun budd cymunedol.
O ran Oakenholt a'r Fflint a chymunedau eraill sy'n agos at y llwybr coch, bydd y cynllun datblygu lleol yn pennu llawer o'r tir sydd wedi'i glustnodi ar gyfer adeiladu tai arno. Bydd Cyngor Sir y Fflint, fel yr awdurdod cynllunio, hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw ddatblygiad sy'n digwydd yn gymesur a bod y gymuned yn gallu darparu ar gyfer unrhyw gartrefi ychwanegol. Rwy'n credu bod gan gymunedau fel Oakenholt gymeriad nodedig iawn a hunaniaeth gref, ac ni fyddwn yn dymuno i'r elfennau hynny gael eu gwanhau wrth i gymunedau eraill ymledu i Oakenholt neu, yn wir, wrth i’r gymuned benodol honno ehangu yn sylweddol. Yn yr un modd, y cymunedau eraill yn yr ardal – Northop Hall, Llaneurgain a’r Fflint - rwy'n credu ei bod hi’n hanfodol eu bod yn cadw eu hunaniaeth a'u nodweddion unigryw.
Gofynnodd yr Aelod hefyd am arwyddion a sut y byddwn yn sicrhau bod traffig a allai ddefnyddio'r llwybr coch newydd yn defnyddio'r llwybr coch newydd. Fy mwriad yw sicrhau, wrth i'r traffig ddod oddi ar yr M56 ac ymlaen i'r A494, bod digon o arwyddion i’w gweld i sicrhau bod traffig sy'n dymuno defnyddio’r A55 yn gallu cael ei gyfeirio y ffordd honno.
O ran y broses ddylunio a fydd yn cael ei dilyn nawr, rwy'n hyderus, trwy ein cynllun arweiniol ar arfarnu trafnidiaeth Cymru, y byddwn yn gallu sicrhau y cydymffurfir â Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Rwy'n credu, hyd yn hyn, bod y broses yr ydym ni wedi ei dilyn wir wedi cydnabod y ffyrdd o weithio mae’r Ddeddf yn eu hyrwyddo, gan gynnwys y ffordd gynhwysol yr ydym ni wedi mynd ati i siarad â phreswylwyr, ymgysylltu â phreswylwyr, a gwahodd sylwadau gan drigolion a busnesau. O'r mwy na 2,500 o ymatebion i'r ymgynghoriad, roedd tua 1,800 o blaid y llwybr coch. Mae cryn gefnogaeth i'r prosiect hwn, a hefyd, rwy'n hyderus y bydd hyn yn arwain at welliant yng nghystadleurwydd a chysylltedd gogledd-ddwyrain Cymru.