Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 26 Medi 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar 27 Gorffennaf eleni, cyhoeddais y cynllun cyflawni newydd ar gyfer cyflyrau niwrolegol. Mae'r cynllun hwn yn ailddatgan ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod gan y rhai yr effeithir arnyn nhw gan gyflyrau niwrolegol gyfle i gael gofal mewn da bryd pan fydd ei angen arnyn nhw, a hynny mor agos i’w cartrefi â phosibl.
Cyhoeddwyd y cynllun yn gyntaf ym mis Mai 2014. Mae’n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol, gan sicrhau diagnosis cyflym, rhoi gofal cyflym ac effeithiol, a chydweithio ar draws sectorau er mwyn helpu pobl i fyw gyda'u cyflwr. Mae'r cynllun hefyd yn ceisio gwella'r wybodaeth sydd ar gael am gyflyrau niwrolegol a’u triniaeth, yn ogystal â helpu i dargedu ymchwil i achosion, triniaethau a meddyginiaethau. Mae'r cynllun cyflawni yn nodi ein disgwyliadau gan yr holl randdeiliaid ac yn darparu fframwaith ar gyfer ei weithredu gan fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG a sefydliadau partner.
Mae cyflwr niwrolegol hirdymor yn effeithio ar fwy na 100,000 o bobl yng Nghymru. Mae'r cyflyrau yn amrywio o—heb roi rhestr gynhwysfawr—barlys yr ymennydd, nychdod cyhyrol, Parkinson, hyd at sglerosis ymledol ac epilepsi ac eraill. Mae nifer o bobl eraill yn dioddef o gyflyrau niwrolegol byrdymor neu anfynych.
Gwnaed cynnydd da ers cyhoeddi’r cynllun gwreiddiol yn 2014. Yn y datganiad o gynnydd blynyddol diwethaf, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, roedd lleihad yn yr amser cyfartalog a wariwyd gan unigolyn yn yr ysbyty, gan ddisgyn o 6.4 diwrnod yn 2010-11 i 4.2 diwrnod yn 2015-16. Mae hyd yr arhosiad yn dilyn mynediad dewisol hefyd wedi disgyn o 3.9 diwrnod i 2.2 diwrnod, a gwelwyd lleihad tebyg mewn mynediadau brys, o 9.2 diwrnod i saith diwrnod.
Ynghyd â gwelliannau cadarnhaol i driniaeth a gofal cleifion niwrolegol, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion a gafodd eu recriwtio i fod yn rhan o ymchwil iechyd a gofal niwrolegol mewn astudiaethau clinigol yng Nghymru: cymerwyd rhan gan 511 o gleifion yn 2015-16, o’i gymharu â 300 o gleifion yn 2010-11.
Gofal niwrolegol yw’r degfed maes gwariant uchaf i’r GIG yng Nghymru. Dros y pedair blynedd hyd at 2015, cododd hyn 65 y cant, i £293.7 miliwn. O ran gwariant fesul pen o’r boblogaeth, mae hynny'n cyfateb i £91.76 y pen. Mae'r cynllun a ddiweddarwyd yn cynnwys camau allweddol, sy'n adeiladu ar seiliau'r cynllun blaenorol ac yn parhau i lywio'r weledigaeth ar gyfer gwella gwasanaethau ledled Cymru yn fwy effeithiol, yn gyflymach, ac ar y cyd â gweledigaeth leol pob bwrdd iechyd ar gyfer eu trigolion nhw. Ymysg y camau gweithredu mae annog byrddau iechyd yn gryf i siarad a gwrando ar eu cleifion a'u rhanddeiliaid, a chryfhau eu partneriaethau gydag awdurdodau lleol a'r trydydd sector.
Mae'r cynllun yn ailddatgan penderfyniad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl yn cael diagnosis cyflymach lle bynnag y bo modd. Mae camau gweithredu yn y cynllun yn ei gwneud hi yn ofynnol i fyrddau iechyd a rhwydweithiau gymryd camau i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol ar lefel gofal sylfaenol, a rhoi'r mynediad a'r cymorth cywir i asesiadau a phrofion arbenigol. Mae'r cynllun hefyd yn cydnabod swyddogaeth werthfawr y trydydd sector, sydd wedi dod ynghyd o dan un ymbarél fel Cymdeithas Niwrolegol Cymru. Mae'r gynghrair yn ceisio codi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan ddefnyddio cyllid a gafwyd gan y grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol.
Felly, rydym ar hyn o bryd mewn sefyllfa i symud ymlaen yn gyflymach. Mae'r grŵp gweithredu ar gyflyrau yn rhoi arweiniad a chefnogaeth i wneud hynny yn genedlaethol. Mae'r grŵp gweithredu hwnnw yn dwyn ynghyd yr holl fyrddau iechyd, y trydydd sector, a Llywodraeth Cymru i gydweithio â'i gilydd. Mae'r grŵp hwnnw wedi nodi blaenoriaethau ar gyfer 2017-18. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu dull cyd-gynhyrchiol o gynyddu ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol, rhoi gwybodaeth glir a chyson am gleifion, sicrhau bod darpariaeth o wasanaethau niwroleg ar gael yn gyson i gleifion o bob oedran ledled Cymru, datblygu gwasanaethau niwroadferol cyson a chydlynol i gleifion o bob oedran, a datblygu ac ymateb i brofiadau cleifion a mesurau canlyniadau. Mae'r blaenoriaethau hyn yn parhau i gael eu cefnogi gan £1 filiwn o gyllid bob blwyddyn. Gyda'i gilydd, mae'r grwpiau cyflyrau niwrolegol a’r grwpiau gweithredu ar gyfer strôc wedi parhau i gydweithio a chyfuno eu harian ar gyfer prosiect ar y cyd. Er enghraifft, defnyddiwyd arian cyfunol i gyflwyno rhaglen wella gwerth £1.2 miliwn ar gyfer adsefydlu niwrolegol Cymru gyfan.
Yn 2016, bu'r grwpiau gweithredu yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu mesurau profiad o ran y claf, neu PREMs, a mesurau canlyniadau o ran y claf, neu PROMs, ar gyfer strôc a chyflyrau niwrolegol yng Nghymru. Nod y rhaglen hon yw cael cipolwg ar wasanaethau o safbwynt y claf a defnyddio'u profiadau gwirioneddol i helpu i wella ein gwasanaethau. Erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf, y nod yw bod gan Gymru PREMs a PROMs y gellir eu gweinyddu, eu casglu a'u coladu ar lefel genedlaethol. Dylai'r rhain helpu i nodi anghydraddoldebau mewn darpariaeth iechyd a gofal ledled Cymru, a chefnogi’r gwaith o werthuso datblygiad y gwasanaethau, a dangos newid dros amser.
Gall cleifion gael mynediad i’r gronfa driniaeth newydd a gyhoeddais ddechrau'r flwyddyn hon. Rydym wedi adeiladu ar y system deg sydd gennym ar waith trwy sicrhau bod y gronfa yn cefnogi pob meddyginiaeth newydd sydd wedi dangos bod cydbwysedd da rhwng y gost a'r pris a godir gan y gwneuthurwr i’r GIG. Mae'r gronfa wrth wraidd ein dull ni, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, o sicrhau bod meddyginiaethau newydd ar gael, ac mae'n cefnogi mynediad cyflymach i'r ystod lawn o feddyginiaethau newydd sydd wrthi’n cael eu gwerthuso.
Trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1.2 miliwn yn Uned Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol, neu Uned BRAIN, a sefydlwyd ym mis Mai 2015 ac a arweinir gan Brifysgol Caerdydd. Nod yr uned hon yw creu darpariaeth o therapïau newydd o ran y celloedd, cyffuriau a ffactorau twf i gleifion sydd â chlefydau niwrolegol a niwroddirywiol na ellir eu trin ar hyn o bryd, fel sglerosis ymledol.
Mae’n rhaid inni wneud y gorau o'n hadnoddau yng Nghymru—nid yn lleiaf o ran sgiliau, ymroddiad a gwaith caled ein staff clinigol, y rheolwyr gwasanaeth, a'n sefydliadau trydydd sector. Rydym yn awyddus i greu perthynas fwy cyfartal rhwng cleifion a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, gan alluogi pobl i gyd-gynhyrchu eu triniaeth yn seiliedig ar eu gwerthoedd, eu hamcanion a'u hamgylchiadau.
Er bod meysydd lle mae cynnydd wedi bod yn amlwg, yn aml trwy gydweithio rhwng GIG Cymru, y trydydd sector, a phartneriaid eraill, ni fyddaf, wrth reswm, yn brin o gydnabod bod gwaith eto i’w wneud. Mae'r cynllun cyflawni a ddiweddarwyd ar gyfer cyflyrau niwrolegol yn cydnabod hyn ac mae'n cynnwys cyfres o gamau gweithredu er mwyn parhau i adeiladu ar y cynnydd hwn ac yn y pen draw i wella'r gwasanaethau ar gyfer y rhai sy’n dioddef o gyflwr niwrolegol, ni waeth ymhle yng Nghymru y mae rhywun yn byw. Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r rheini sydd wedi cymryd rhan yn y cynnydd hyd yn hyn, a chynnig fy nghefnogaeth a’m hanogaeth barhaol i'r rhai sy'n gyfrifol am ddatblygu’r gwaith.