Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 26 Medi 2017.
Codwyd yr holl gwestiynau gyda mi gan aelodau o Gynghrair Niwrolegol Cymru a'r grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, yr wyf yn ei gadeirio. Mae'r cynllun cyflenwi niwrolegol diwygiedig yn cydnabod bod canllawiau cenedlaethol yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl gweld gofal effeithiol i bobl â chyflwr niwrolegol, ac mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Gofal Rhagoriaeth wedi cyhoeddi cyfres o argymhellion ar gyfer y GIG yng Nghymru a Lloegr, gan ganiatáu i fyrddau iechyd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol bennu’r lefel o wasanaeth y mae disgwyl iddyn nhw ei ddarparu ar gyfer pobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol. Er hynny, yn ôl Cymdeithas Sglerosis Ymledol Cymru, nid yw'r safon yn cael ei bodloni. Pa gamau fyddwch chi, felly, yn eu cymryd i sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn rhoi'r data sylfaenol angenrheidiol a fyddai'n ffordd o gael gwell ddealltwriaeth o driniaethau a gwasanaethau MS ledled Cymru ac yn galluogi gwasanaethau i gael eu comisiynu’n effeithiol, a sicrhau bod safon ansawdd NICE ar gyfer MS yn cael ei weithredu’n gyson ledled Cymru?
Mae clefyd niwronau motor yn lladd y traean sy’n dioddef ohono o fewn blwyddyn, a mwy na’r hanner o fewn dwy flynedd o’r diagnosis, a ddaw fel rheol o ganlyniad i ball ar yr anadl. Mae'r Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor yn cefnogi cyhoeddi'r cynllun cyflawni hwn ar gyfer cyflyrau niwrolegol, ond maen nhw’n gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn cyhoeddi cynlluniau cyflawni lleol a bod sefydlu fforymau lleol, sy’n hawdd eu cael, i ddefnyddwyr gwasanaethau niwrolegol yn cael y flaenoriaeth ar gyfer ymgysylltu mewn deialog gyd-gynhyrchiol—y term a gafodd ei ddefnyddio gennych chi—a chaniatáu i'r cyhoedd graffu ar gynlluniau cyflawni lleol a’u monitro. Maen nhw’n gofyn i Lywodraeth Cymru lunio adroddiadau blynyddol, neu sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn cynhyrchu adroddiadau blynyddol, gan ddangos tystiolaeth glir a chadarn o gynnydd o ran camau allweddol, a hynny mewn iaith sy’n hawdd ei deall gan y rhai y mae cyflyrau niwrolegol yn effeithio arnyn nhw. Maen nhw hefyd yn gofyn am roi’r un ystyriaeth i gyflyrau niwrolegol prin fel MND, clefyd niwronau motor, a sicrhau bod cynlluniau gweithredu ac adroddiadau blynyddol yn darparu tystiolaeth gadarn sy’n benodol i gyflyrau unigol o ran dangosyddion canlyniadau a mesurau sicrwydd. Felly, byddwn yn gofyn i chi ymateb i ofynion Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor.
Yn 2016, roedd y grwpiau gweithredu, meddwch chi yn eich datganiad, yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu mesurau profiad o ran y claf a mesurau canlyniadau o ran y claf, neu’r PREMs a’r PROMs. Mae niwroffysoiotherapyddion wedi nodi mai’r gwaith allweddol a wnaeth y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol oedd tynnu sylw at bwysigrwydd gwasanaethau adsefydlu, a phwysleisiwyd na all canolbwyntio estynedig ar adsefydlu fod yn rhywbeth dros dro yn unig. Maen nhw’n ddiolchgar bod rhywfaint o'r buddsoddiad newydd o'r cynlluniau cyflawni ar gyfer strôc a chyflyrau niwrolegol wedi ei gyfeirio at wasanaethau adsefydlu, a phwysleisiwyd bod ganddyn nhw weithwyr rhagorol ac arbenigwyr clinigol medrus. Ond maen nhw’n awyddus i chi ymateb i'w datganiad nhw fod angen iddynt weld datblygiad parhaol ledled Cymru ar gyfer cadw a gwobrwyo'r gweithwyr hyn.
Mae gweithwyr proffesiynol ym maes ffisiotherapi yn awyddus iawn i weld mesuriadau canlyniadau sy'n ystyrlon i gleifion a defnyddwyr y gwasanaeth, ac maen nhw’n cyfeirio at y gwaith o ddatblygu'r PROMs a’r PREMs fel ffordd ymlaen bwysig iawn lle mae angen i glinigwyr fesur y pethau iawn i ardystio i ganlyniadau. Eto, sut yr ydych chi am ymateb i'w datganiad fod angen i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth, fel ei gilydd, allu rhoi adborth ar y gwasanaethau y byddan nhw’n eu cael?
Ers i'r cynllun cyflawni ddechrau yn 2014, mae nifer y bobl sy'n byw gyda dystonia yng Nghymru wedi dyblu hyd 5,000, ac oherwydd y galw am wasanaethau ar gyfer dystonia, yn enwedig pigiadau Botox, ni fu unrhyw gynllun i wneud triniaeth dystonia yn gynaliadwy yng Nghymru. Mae Cymdeithas Dystonia felly'n bryderus iawn y bydd canslo apwyntiadau yn y gogledd a'r de yn gyson yn golygu y bydd cleifion a defnyddwyr y gwasanaeth yn ceisio llawdriniaeth ysgogi yn nwfn yr ymennydd oherwydd eu pryder ynghylch colli eu swyddi a'u safle ariannol. Sut, felly, yr ydych chi’n ymateb i'w hargymhellion nhw y dylai clinigau Botox yn y Gogledd a’r De gynnwys ffisiotherapydd dystonia arbenigol yn y clinig, a bod angen mwy o ymwybyddiaeth yn lleol, yn enwedig ym meddygfeydd y meddygon teulu, i ostwng amseroedd aros, a bod angen rhagor o hyfforddiant mewn offthalmoleg a gwasanaethau Clust, Trwyn a Gwddf ynghylch gweinyddu pigiadau Botox, a'r angen am ddulliau holistaidd gwell, gan gynnwys cefnogaeth seicolegol ac emosiynol? Yna, yn olaf, sut fyddech chi'n ymateb i'w pryder nhw mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle nad oes ymgynghorwyr arbenigol mewn dystonia, a'r unig le yn y DU lle nad oes niwroffysiotherapyddion arbenigol?
Yn 2016, tynnodd arolwg o brofiadau cleifion canser yng Nghymru sylw at sut y caiff diagnosis mwy na thraean o diwmorau gradd uchel ar yr ymennydd eu gwneud yn sgil derbyniad brys i'r ysbyty. Mae ymwybyddiaeth ehangach o arwyddion a symptomau tiwmor yr ymennydd, yn ôl yr Elusen Brain Tumour Charity, yn hanfodol er mwyn cael diagnosis cynharach a gwella’r canlyniadau i gleifion. Felly, a wnaiff y Gweinidog sicrhau bod codi ymwybyddiaeth o diwmorau ar yr ymennydd yn cael blaenoriaeth wrth weithredu'r cynllun cyflawni hwn?
Ynghyd â meddygon plant, mae Bobath Cymru, y ganolfan arbenigol i blant â pharlys yr ymennydd, yn ceisio sefydlu cofrestr ar gyfer plant yng Nghymru sy’n dioddef o barlys yr ymennydd. Pa gefnogaeth all Llywodraeth Cymru ei roi i hyn?
Rwy’n tynnu tua’r terfyn trwy gyfeirio at gyflwyniad yn y cyfarfod diwethaf ar 28 Gorffennaf yn y Gogledd o’r grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, sef cyflwyniad gan Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru. Sut ydych chi'n ymateb i'w datganiad o ran darparu gwasanaethau i gleifion niwrolegol â phroblemau iechyd meddwl mai dim ond dau atgyfeiriad a gafwyd o'r Gogledd, a'u bod yn pryderu ynghylch i ble yr oedd cleifion yn y Gogledd gyda'r cyflyrau diagnostig deuol hynny yn mynd? Mynegwyd pryder ganddyn nhw mai ychydig iawn o argymhellion adolygiadau dilynol sydd wedi eu rhoi ar waith mewn gwirionedd, ac yn benodol maen nhw’n tynnu sylw at ddatblygiad gwasanaeth niwroadsefydlu yn y Gogledd ac integreiddio'r gwasanaethau niwroradioleg ledled y De. Diolch.