Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 26 Medi 2017.
Diolch i chi am y cwestiynau hyn. Ar eich pwynt ynglŷn â'r cynnydd mewn cyllid, roeddem yn cydnabod ei bod yn fwy o flaenoriaeth i ni. Mae cael y cynllun ar gyflyrau ynddo’i hun wedi bod yn ganolbwynt sylw. Rwy'n credu bod honno’n ffaith sy'n adlewyrchu ein bod yn diwallu anghenion y cyhoedd yn well, ond hefyd y cynnydd wrth ddatblygu triniaethau. Felly, nid wyf i’n credu bod unrhyw amheuaeth am hynny, mae’n ymwneud â sut y gwnawn ni hefyd y defnydd gorau ohono. Rwyf i o’r farn mai peth da yw hyn. Gallwn ni ganolbwyntio ar y ffaith ein bod yn gwario mwy ar y cyflyrau penodol hyn sy'n effeithio ar ystod gymharol eang o bobl ac a all gael effaith sylweddol arnyn nhw hefyd.
Ar eich pwynt am y PROMs a’r PREMs a’r gymhariaeth â thair gwlad arall y DU, dyma un o'r heriau, onid e? Oherwydd os ydym yn datblygu mesurau pwrpasol yng Nghymru sy'n ateb anghenion pobl yma yng Nghymru a'ch bod yn gofyn i'r bobl hynny, 'Beth sy'n bwysig i chi, sut ydym ni'n cofnodi hynny'n iawn, am eich profiad a'ch canlyniadau, gan fod hynny'n help inni gael cyfeiriad?', yr her fydd y gellid cael gwahanol ddatganiadau neu lefelau gwahanol o barodrwydd i wneud felly mewn cenhedloedd eraill.
Yn sicr, nid wyf am geisio siarad ar ran Jeremy Hunt ar y materion hyn, ond ni fyddwn yn disgwyl y byddai ganddo ddiddordeb mewn datblygu cyfres o fesurau sy'n rhoi ystyriaeth briodol i'r profiadau a'r canlyniadau a ddymunir ar gyfer cleifion Cymru. Mae gennyf i ddiddordeb mewn gweithredu yn gywir ynglŷn â hyn. Byddwn yn hoffi sgwrs gall. Yn hytrach na chyda gwleidyddion, mae'n debyg ei bod yn haws ar draws y gwasanaeth i gleifion, grwpiau'r trydydd sector a chlinigwyr gael sgwrs am y math o fesurau a phrofiadau sydd o bwys ac a oes modd i gael rhywbeth sy'n eich galluogi i gael rhyw fath o gymhariaeth â gwledydd eraill y DU. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, o'm safbwynt i fy hun, er y byddai'n ddymunol gwneud hynny, nid dyma fy niddordeb pennaf yn y gwaith hwn. Fy mhrif ddiddordeb yw sut yr ydym yn sicrhau bod gennym wasanaeth sy'n ymateb yn gywir i'r hyn sy'n bwysig i'r dinesydd yn ei brofiad a'i ganlyniadau, sy'n helpu i arwain gwelliannau i wasanaethau, cynllunio a chyflwyno gwasanaethau.
Ar fuddsoddiad a diagnosis cynharach, mae hyn i raddau yn rhan o’n dealltwriaeth o ymwybyddiaeth, oherwydd nid rhywbeth ar gyfer y boblogaeth gyffredinol yn unig mo ymwybyddiaeth. Yn wir, mae’n ymwneud â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn gallu adnabod symptomau’n gynharach a chyfeirio pobl at y llwybr cywir o driniaeth a gofal. Felly, mae hynny'n rhan o'r hyn a nodwyd gennym o ran blaenoriaethau'r grŵp gweithredu yn y blynyddoedd i ddod, a’r her fydd, o ystyried yr amrediad o gyflyrau yr ydym yn sôn amdanyn nhw, y bydd peth o hynny'n amrywio o un cyflwr i’r llall. Pan fyddwn yn trafod rhywun, dywedwch, sydd â pharlys yr ymennydd, wel, mae'n haws deall sut mae gwneud diagnosis arno nag, er enghraifft, ar rai o'n cyflyrau lle mae’r claf yn gwaethygu’n gyflymach. Felly, mae her yn bodoli o ran deall sut yr ydym yn gwneud hynny i gyd. Felly, yn hytrach nag un ddarpariaeth ar gyfer pawb, mae’n ymwneud mewn gwirionedd â sut yr ydym yn buddsoddi yn y darlun ehangach hwnnw.
Ac ar eich pwynt olaf ar nyrsys yn benodol—. Ac rwy'n falch eich bod chi'n siarad am broffesiwn gofal iechyd sy'n fwy na meddygaeth, oherwydd mae angen inni ddeall, yn llawer o’r gwelliant yr ydym yn ei weld yn digwydd, fod swyddogaeth nyrsys a nyrsys arbenigol yn enwedig yn wir bwysig. A dyna un o'r pethau y dylem geisio tynnu sylw atyn nhw yn y cyfleoedd sy’n bodoli yn ein system. Mae hefyd yn rhannol pan fyddwn yn edrych ar, 'Beth yw'r cynnig fydd yn annog pobl i ddod i mewn ac aros yma yng Nghymru?'—pobl sy'n lleol a'r rhai a allai fod yn awyddus i symud yma hefyd. Yn ddiddorol, gan fy mod i wedi bod yn crwydro o gwmpas yn gwrando ar staff gofal iechyd, fe welwch chi amrywiaeth o uwch nyrsys sy'n symud i gael swyddi a chyfleoedd. Rwyf i wedi cwrdd â nifer o bobl sydd wedi symud o'r system yn Lloegr, naill ai i ddod i Gymru neu i ddychwelyd i Gymru hefyd. Ond rwyf i'n credu mai'r cynnydd mwyaf i’w wneud yw sut yr ydym ni’n mynd ati i recriwtio, i gadw a hyfforddi ein gweithwyr ein hunain. Oherwydd mae llawer iawn o’r bobl sy’n mynd i fyd nyrsio yn bobl leol. Fel y gwyddoch, bydd nyrs dan hyfforddiant sy'n cychwyn ar y rhaglen israddedig yn eu hugeiniau hwyr. Pobl yw’r rhain yn bennaf sydd â chyfrifoldebau a chysylltiadau ac sy'n annhebygol o fod yn gallu bod yn symudol yn y ffordd y maen nhw, er enghraifft—. Mae hyfforddi pobl ar gyfer meddygaeth yn un o'n heriau ni. Mae cael pobl sydd yn israddedigion, ac yna eu cadw nhw, yn fwy anodd, yn wahanol i rywun sydd yn eu hugeiniau hwyr. Felly, mae gennyf ddiddordeb arbennig i weld pa lwyddiant a gawn ni gyda'n hymgyrch eang i nyrsys, ‘Hyfforddi. Gweithio. Byw.', er mwyn deall pa mor llwyddiannus y buom ni, a chredaf y bydd o fudd uniongyrchol i gleifion yn yr ardaloedd hyn, ond hefyd i’n staff a'r cyfleoedd yr ydym yn dymuno eu rhoi iddyn nhw hefyd.