Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 26 Medi 2017.
Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cyflyrau niwrolegol yn effeithio ar ddegau o filoedd o bobl yng Nghymru a gobeithio y bydd y cynllun cyflawni diweddaraf hwn yn adeiladu ar y gwelliannau a wnaed i'r gwasanaethau a gynlluniwyd i gynorthwyo'r bobl hynny. Er bod nifer o gyflyrau niwrolegol yn bresennol ar enedigaeth, gall nifer mawr ddod i’r amlwg ar unrhyw amser yn ystod oes rhywun. Felly, mae'n bwysig ein bod yn codi ymwybyddiaeth o'r cyflyrau hyn, nid yn unig ymhlith gweithwyr proffesiynol, ond hefyd ymhlith y cyhoedd, gan y bydd adnabod yr arwyddion yn gynnar yn arwain at ddiagnosis a thriniaeth gynharach. Rwy’n croesawu’r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar wella ymwybyddiaeth yn y cynllun cyflawni hwn. Fel y mae'r cynllun yn ei amlygu, mae gan lawer o gyflyrau niwrolegol symptomau y gellir eu camgymryd am gyflyrau mwy cyffredin, gan arwain at gamddiagnosis. Bydd hyfforddi staff gofal cychwynnol a thimau gofal iechyd i adnabod arwyddion cyflyrau niwrolegol, gobeithio, yn lleihau nifer yr achosion o gleifion sy'n cael diagnosis hwyr neu anghywir.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r camau allweddol ar gyfer diagnosis amserol yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd sicrhau bod sganiau CT ar gael yn amserol ac uniongyrchol i feddygon teulu. Rwy’n croesawu’r cam hwn yn fawr iawn, ond rwy’n gofidio nad ydym yn gwneud y defnydd gorau o offer diagnostig. Mewn llawer ardal, ni yw sganwyr CT yn cael eu defnyddio trwy’r amser. Beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i sicrhau bod gennym ni ddigon o staff diagnostig i ddefnyddio ein sganwyr fin nos ac ar benwythnosau?
Un o gonglfeini’r cynllun cyflawni newydd yw sicrhau gofal ac adsefydlu cyflym, effeithiol a diogel. Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd yn y maes hwn, yn enwedig o ran cymeradwyo meddyginiaethau newydd ar gyfer trin cyflyrau niwrolegol. Ond rydym yn cymryd gormod o amser i ddod â’r driniaeth honno at y cleifion. Er enghraifft, roedd yn rhaid i gleifion MS aros bron i ddwy flynedd ar ôl i Sativex gael ei gymeradwyo cyn iddyn nhw allu ei gael, a hynny oherwydd nad oedd y clinigau ar gael yr oedd eu hangen i roi'r cyffuriau.
Mae angen monitro ar lawer o'r triniaethau newydd sydd yn yr arfaeth ar gyfer cyflyrau niwrolegol a rhaid eu gweinyddu mewn clinig cleifion allanol. Yng Nghaerdydd, mae rhestr aros o chwe wythnos ar gyfer trwytho cyffuriau. Ysgrifennydd y Cabinet, beth all eich Llywodraeth chi ei wneud i sicrhau bod Byrddau Iechyd Lleol yn cynllunio ar gyfer darparu digon o welyau dydd i weinyddu cyffuriau, fel na fydd unrhyw oedi rhwng cymeradwyaeth NICE neu AWMSG a bod y driniaeth ar gael i gleifion?
Mae adsefydlu yn hanfodol i sicrhau bod cleifion â chyflyrau niwrolegol—derbyniadau brys i'r ysbyty—. Yn anffodus, mae amserau aros am adsefydlu niwroleg yn rhy faith o lawer. Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae eich Llywodraeth chi am ei wneud i fyrhau amserau aros ar gyfer adferiad niwro yng Nghymru?
Rwy'n llawn gefnogi’r cyfeiriad yr ydych yn mynd iddo gyda'r cynllun diweddaraf hwn, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau ein bod yn gwella'r canlyniadau i gleifion Cymru sy'n dioddef o gyflyrau niwrolegol. Diolch yn fawr iawn.