Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 26 Medi 2017.
Diolch am eich cwestiynau. Rydych yn tynnu sylw at y ffaith, ac fel y dywedais i yn fy natganiad, fod mwy na 100,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan y grŵp hwn o gyflyrau. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae eu teuluoedd a'u gofalwyr; bydd yn effeithio ar eu bywydau nhw hefyd. Rhoddaf gynnig ar fynd drwy eich cwestiynau. Rwy'n credu gyda'r pwynt olaf, yn sicr fe wnes i geisio ateb y pwynt ynghylch gwella adferiad niwro, yn fy natganiad a hefyd mewn ymateb i restr cwestiynau Mark Isherwood.
Ar y pwynt ehangach am oedi yn y driniaeth rhwng y gymeradwyaeth a’r ddarpariaeth, mae ’na rywbeth bob amser am sut yr ydych chi'n bwriadu darparu triniaeth ar ôl iddi fynd drwy'r broses werthuso. Rydym yn sôn yma am feddyginiaethau yn hytrach na mathau eraill o driniaeth. Ac mae ‘na rywbeth hefyd yma am yr hyn yr ydym yn ceisio ei ddiwygio yn fwy cyffredinol yn y ffordd yr ydym yn rheoli'r system yng Nghymru. Dyna pam yr wyf wedi cael sgyrsiau adeiladol iawn â Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain ynglŷn â sut y mae hyn yn gweithio, ac am gael sgwrs yn gynharach gan fod ganddyn nhw gyffuriau yn cael eu datblygu, ynghylch pryd fydd y gwasanaeth yn dod yn ymwybodol o'r hyn y maen nhw'n ei wneud a’r hyn sy'n debygol o ddigwydd. Oherwydd rhan o'r her yn y gorffennol ynglŷn â chael cymeradwyaeth i rai o'r amrywiadau mewn triniaeth â meddyginiaethau hyd nes y byddant ar gael, fu’r gallu i gynllunio ar gyfer y gwasanaeth hwnnw, i newid gwahanol rannau o'r gwasanaeth ei hunan. Nid oedd yn fater mor syml â rhoi meddyginiaeth newydd ar y presgripsiynau, ond yn hytrach mae angen i chi gynllunio o’i gwmpas hefyd. Roedd hynny'n esbonio peth o'r oedi cyn bod Sativex ar gael.
Ac, eto, ysgrifennais at yr Aelodau ym mis Mawrth yn amlinellu ein sefyllfa, ac rwyf wedi cael gohebiaeth wedyn gan Gymdeithas Sglerosis Ymledol Cymru hefyd, a fu'n ddefnyddiol, rwy'n credu, i gyrraedd y man lle mae gennym bellach ddarpariaeth wirioneddol genedlaethol. Mae yna heriau penodol ynglŷn â sefydlu’r llwybr cyfan hwnnw yn y De, ac rwy’n credu bod yr heriau hynny wedi eu datrys. Ac os na, mae'r cynnig wedi ei wneud i’r Gymdeithas Sglerosis Ymledol gael cwrdd â chadeirydd bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro i redeg trwy unrhyw faterion sy'n weddill. Credaf ei bod yn bwysig inni gydnabod a chadw drws agored i ddeall yr hyn y gallwn ei wneud i wella. Ond yn y Gogledd mae yna heriau penodol lle mae pobl yn mynd i'r system yng ngogledd orllewin Lloegr. Nid oedd rhai pobl yn cael presgripsiwn am Sativex gan glinigwyr yn Lloegr, er ei fod ar gael iddyn nhw fel cleifion a oedd yn preswylio yng Nghymru. Mae hynny'n tynnu sylw at y ffaith bod hwn yn faes yr ydym ni wedi gwneud mwy o gynnydd ynddo na gwledydd eraill y DU. Y ni yw’r unig wlad yn y DU o hyd sydd wedi sicrhau bod Sativex ar gael yn rheolaidd o fewn y Deyrnas Unedig.
Ar eich pwynt ynglŷn â'r defnydd gorau o offer diagnostig, credaf fod angen inni feddwl yn iawn am y ffordd yr ydym yn cynllunio a chyflwyno'r gwasanaeth, oherwydd mae gennym y gweithlu yn ogystal â'r offer. Ac, mewn gwirionedd, bydd angen gweithlu sy’n gallu staffio’r offer hwnnw pan ddefnyddir ef, ac mae angen i mi gael fy argyhoeddi bod angen mwy o weithlu arnom ar wahanol adegau o’r diwrnod, a sicrhau bod yr offer ar gael drwy’r dydd a’r nos, gydol yr wythnos. Mae rhywfaint o hynny’n dibynnu ar a gafodd y claf dderbyniad dewisol neu dderbyniad argyfwng, ond, mewn gwirionedd, rwyf i o’r farn fod hynny'n fater o gynllunio’r gweithlu’n gywir ac nid yn fater o fod â mwy o offer yn ein meddiant. Mae angen inni feddwl am y ffordd y gallwn wneud y defnydd gorau o'n capasiti a'n gallu ar draws y system. Ond mae yna rywbeth yno am ofal iechyd lleol yr wyf i, eto, yn credu fy mod wedi ceisio tynnu sylw ato wrth ateb cwestiynau eraill ynghylch sut yr ydym yn darparu a chefnogi pobl yn ein gwasanaeth iechyd lleol, sef ymyrryd a rhoi triniaeth a gofal pryd y gallen nhw ac y dylen nhw, yn ogystal â chanfod a yw'r cyflyrau hyn yn bresennol a deall sut mae'r driniaeth honno'n dod yn ei blaen.