Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 26 Medi 2017.
Wel, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am eu cefnogaeth i'r agenda data agored, sy'n amlwg ar draws y Siambr. Rwy'n credu o bosibl bod ychydig o ddryswch o ran yr hyn yr ydym yn ei olygu wrth sôn am ddata agored a Llywodraeth agored yn y cyd-destun hwn a chyhoeddi yn gyffredinol. Rwy'n derbyn y pwynt ynglŷn â chyhoeddiadau y mae pobl wedi'i wneud. Rwy'n teimlo dyletswydd—rwy'n siŵr na fydd ots gan y Llywydd fy mod i’n dweud hyn—i ddweud bod y syniad o gyhoeddi datganiad llafar cyn ei wneud ar lafar, yn amlwg, yn broblem ar lawer ystyr, a holl bwynt datganiad llafar yw ei wneud ar lafar yn y Siambr. Roeddwn i eisiau pwysleisio’r pwynt hwnnw, ac nid yw hynny'n ymwneud â data o gwbl.
Roeddwn i’n meddwl bod Adam Price wedi gwneud pwynt da iawn yn ei esiampl. Syniad data agored yw bod gennych chi fynediad at y data sylfaenol mewn ffordd agored a hygyrch sy'n eich galluogi i’w gasglu mewn gwahanol ffyrdd i gyrraedd casgliadau gwahanol. Felly, mae'r enghraifft yn un dda. Nid wyf i’n awgrymu am funud bod y Llywodraeth yn gwneud hyn yn hollol gywir, ac un o'r rhesymau yr oeddwn i’n dymuno cyflwyno’r ddadl hon heddiw oedd er mwyn trafod yn agored â’r Aelodau yr hyn yr ydym ni’n ei olygu gan hynny ac i ganfod, fel yr ydym ni wedi ei weld yn glir, bod pawb, mewn gwirionedd, yn cytuno â'r agenda. Mae modd dehongli’r peth ychydig yn wahanol, ond rydym ni i gyd yn cytuno y dylid gwneud y data sylfaenol mor hygyrch â phosibl er mwyn i bobl allu dod i amrywiaeth o gasgliadau ohono. Mae'n rhaid i ni wneud hynny mewn modd cymesur, wrth gwrs. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda chyrff y sector cyhoeddus, drwy gyfranogi, er enghraifft, yng ngrŵp data agored rhanbarth dinas Caerdydd, a chyfarfod ag awdurdodau lleol a Swyddfa Archwilio Cymru ledled Cymru.
Rydym ni eisiau annog eraill o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru, a'r sector cyhoeddus ehangach, i wneud data yn fwy agored ac i ailddefnyddio ein data, ond i sicrhau hefyd bod eu data nhw ar gael yn rhwyddach. Byddwn ni’n ystyried priodoldeb cod ymarfer anstatudol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru, i'n galluogi ni i gydweithio â chyrff y sector cyhoeddus. Gallai arbrofi’n llwyddiannus gyda’r canllawiau hynny arwain at god ymarfer statudol, ond mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n dymuno ei gynhyrchu ar y cyd â'n partneriaid llywodraeth leol er mwyn cydgynhyrchu fel ein bod ni'n deall a’u bod nhw'n deall ble yr ydym ni nawr, a lle y gallwn ni fynd yn rhwydd ac yn esmwyth yn y dyfodol heb gost enfawr i hynny—nid mewn termau ariannol, ond o ran faint o adnoddau dynol sydd eu hangen i wneud hynny.
Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders at y prosesau caffael. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi y bydd addasu ein prosesau caffael yn annog ein cyflenwyr i gyhoeddi eu data yn agored a defnyddio ein ffynonellau data agored i wneud y broses honno yn fwy tryloyw. [Torri ar draws.]