Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 26 Medi 2017.
Ar yr union bwynt hwnnw, tybed a fyddai'n bosibl i'r Gweinidog ateb yn awr neu drafod gyda'i chydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet, ynghylch a fydd data agored, neu ymrwymiad i ddata agored, yn rhan o'r ymrwymiad o dan y fasnachfraint rheilffyrdd, oherwydd mae budd sylweddol iawn i’w gael o ran integreiddio gwasanaethau bws a thrên, os caiff hynny ei ddylunio mewn modd sy’n cynnwys rhannu data yn awtomatig rhwng gwahanol ddarparwyr trafnidiaeth yn y dyfodol.