Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 27 Medi 2017.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn a fu’n drafodaeth ddiddorol iawn ar adroddiad pwysig iawn. Felly, diolch yn fawr i’r pwyllgor am roi amser ac ymdrech i wneud yr hyn y credaf ei fod yn gyfraniad adeiladol ac arwyddocaol i’r maes pwysig hwn o bolisi cyhoeddus. Dirprwy Lywydd, tri pheth yn unig, mewn gwirionedd, sydd yn y fantol wrth geisio dyfeisio polisi rhanbarthol ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru. Rydym wedi clywed am bob un ohonynt yn ystod y drafodaeth: mae arnom angen arian, mae arnom angen ymreolaeth, ac yna mae angen inni gael y creadigrwydd i allu llunio cyfres o gynigion polisi sy’n goresgyn heriau’r dyfodol. Felly, rwy’n mynd i ddweud rhywbeth yn fyr am y ddau gyntaf a chanolbwyntio ychydig mwy ar y trydydd wedyn.
O ran yr arian, wel, fe wnaeth David Rees bwynt wrth gyflwyno’r adroddiad ar ran y pwyllgor cyfan fod yn rhaid i Lywodraeth y DU gyflawni’r ymrwymiadau a wnaed yn ystod y refferendwm na fydd Cymru geiniog yn waeth ei byd yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n ailadrodd y croeso cadarnhaol a roddodd Llywodraeth Cymru i benderfyniadau cynnar Canghellor y Trysorlys ar ariannu rhwymedigaethau’r Undeb Ewropeaidd yn y maes hwn, ond mae’r amser wedi dod i symud y tu hwnt i’r gwarantau gwreiddiol hynny i sicrhau bod gan Gymru, yn y tymor hir, yr adnoddau y bydd eu hangen arnom i roi ein cynigion polisi ar waith.
Daw hynny â mi at ymreolaeth, a dyna bwynt a wnaed yn uniongyrchol iawn gan Steffan Lewis, ond a gafodd sylw gan Eluned Morgan yn ogystal, oherwydd mae cronfa ffyniant a rennir—os nad ydym yn ofalus—yn geffyl pren Troea ar gyfer adfachu pwerau datganoledig y sefydliad hwn ymhellach, yn ychwanegol at yr hyn yr ydym eisoes yn cael trafferth gydag ef drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). A ydym wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Gweinidogion y DU? Nac ydym, hyd y gwn. Rwy’n gweld y gronfa hon mewn penawdau. Cyn belled ag y gwn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaeth gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â’r hyn y mae’n ei olygu wrth gronfa o’r fath.
Sut y gellid dyfeisio cronfa o’r fath? Wel, yn rhy hawdd mewn ffordd a fyddai’n mynd yn groes i fuddiannau Cymru. Fel y dywedodd Eluned, beth os mai diweithdra yw’r maen prawf sylfaenol ar gyfer mynediad at y gronfa? Beth os mai gostyngiadau mewn anweithgarwch economaidd, lle mae Cymru wedi curo gweddill y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, yw’r maen prawf ar gyfer mynediad at gronfa o’r fath? Mae Cymru wedi elwa’n fawr ar arian Ewropeaidd a gwyddom fod rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn edrych ar hynny’n genfigennus ac yn gweld hwn yn gyfle i rannu rhai o’r adnoddau a ddaeth i Gymru oherwydd bod ein hanghenion yn fwy. Mae’n bwysig iawn cofnodi eto, Dirprwy Lywydd, fod yr arian a gawn drwy’r Undeb Ewropeaidd—rwy’n gwybod bod pobl weithiau, mewn ffordd, yn ei hystyried yn set o reolau sglerotig a chymhleth, ond dyma’r unig arian a gawn lle y ceir set o reolau, lle mai’r rheswm yr ydym yn gymwys yw oherwydd bod meini prawf wedi’u gosod a’n bod yn elwa o’r peth, a lle y ceir anghydfod, mae yna set o reolau y gallwch droi ati i gael dyfarniad ar y pwyntiau hynny. Fel y gwelsom gyda bargen y DUP, nid yw fformiwla Barnett yn cynnwys yr un o’r nodweddion hanfodol hynny. A dyna pam, er fy mod yn deall y pwyntiau a nodwyd yn argymhelliad 4 yr adroddiad—ac mae’r Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion mewn egwyddor lle y maent yn dibynnu ar gamau gweithredu gan Lywodraeth y DU, ac yn gyfan gwbl lle y maent yn ein dwylo ni yn llwyr—dyna pam y gwnawn y pwynt yn ein sylwadau ar argymhelliad 4, er ein bod yn gwbl ymrwymedig i fformiwla cyllido sydd o ddifrif yn seiliedig ar anghenion yn y maes hwn, mae dull agored a thryloyw yr UE o ddyrannu cyllid wedi bod o fudd i ni, a’r ffordd symlaf o warantu buddiannau Cymru yn y maes hwn yw drwy gael cyllid llawn yn ei le yng nghyllideb sylfaenol Llywodraeth Cymru, gan gynyddu ein cyllideb graidd flynyddol yn barhaol ac yna’r ymreolaeth, yn y ffordd y nododd Steffan Lewis, i allu defnyddio’r arian hwnnw yn y ffordd a fydd yn gweithio orau yma yng Nghymru.
Daw hynny â mi felly at y trydydd pwynt y soniais amdano ar y cychwyn. Os yw’r arian gennym, ac os yw’r ymreolaeth gennym, yna mae angen i ni allu dangos bod gennym y gallu polisi a’r dychymyg polisi i allu dylunio polisi rhanbarthol a fydd yn addas ar gyfer y dyfodol.
Mae’r chweched argymhelliad yn adroddiad y pwyllgor yn ein hannog i ddatblygu gweledigaeth a diben o’r fath ar gyfer polisi rhanbarthol mewn ymgynghoriad â phartneriaid, ac mae hynny wedi bod yn rhan bwysig o’r ffordd y ceisiwn wneud hyn a pham fod ein papur polisi, a gynhyrchir yn yr hydref, yn dal i fod yn y camau olaf o’i greu, yn rhannol oherwydd ein bod eisiau gwneud yn siŵr y gallwn roi ystyriaeth lawn i adroddiad y pwyllgor ei hun a’r ddadl a gawn yma y prynhawn yma, ond hefyd oherwydd ein bod yn dymuno parhau i’w drafod yn ein grŵp cynghori ar Ewrop, gyda’n partneriaid yn y pwyllgor monitro rhaglenni y mae Julie Morgan yn ei gadeirio.