– Senedd Cymru am 3:35 pm ar 27 Medi 2017.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 9, y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, ‘Ymchwiliad i ddyfodol polisi rhanbarthol—beth nesaf i Gymru?’ Galwaf felly ar Gadeirydd y pwyllgor i gynnig y cynnig, David Rees.
Diolch, Gadeirydd. Mae’n fraint cael cynnig y cynnig heddiw a chyflwyno’r cyfle hwn i’r Cynulliad Cenedlaethol drafod ein hadroddiad ar ddyfodol polisi rhanbarthol—beth nesaf i Gymru. Cyn i mi ddechrau trafod yr adroddiad, hoffwn fynegi ein diolch i’r tystion a ddaeth i’r pwyllgor, i’r tîm clercio a ddarparodd y cymorth ardderchog, yn enwedig Nia Moss, ein cyswllt â’r UE wrth gwrs, ac sy’n sail i bopeth a wnawn ar hyn o bryd, ond hefyd i’r Aelodau am eu cyfraniadau drwy gydol y broses o lunio’r adroddiad.
Yn dilyn penderfyniad y refferendwm i adael yr UE, y cytunwyd arno ar 23 Mehefin 2016, cafodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y dasg gan y Cynulliad hwn o archwilio’r goblygiadau i Gymru yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, a chraffu ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru fel y gall y Cynulliad fod yn sicr fod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu yn ystod y broses o adael. O ystyried bod Cymru’n cael £370 miliwn o gronfeydd strwythurol a chronfeydd buddsoddi Ewropeaidd bob blwyddyn at ddibenion datblygu economaidd rhanbarthol, roedd yn amlwg i ni’n fuan y byddai angen i ni edrych ar y materion hyn yn fwy manwl. A chan ein bod yn sôn am bolisi rhanbarthol, mae’n bwysig cofio, er bod yr adroddiad yn tynnu sylw at bolisi rhanbarthol, ni ellir ei gyflawni heb fod cyllid ar gael i’w gefnogi. Gallai colli mynediad at y cronfeydd hyn arwain at dwll du ariannol, o bosibl, i nifer o fuddsoddiadau mewn meysydd megis sgiliau a phrentisiaethau, cydweithio ar ymchwil a rhagoriaeth, seilwaith ac arloesedd. Yn wir, rydym yn debygol o golli mwy o arian nag unrhyw wlad arall yn y DU os na cheir arian yn lle’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd.
Canfu ein hymchwiliad fod dyraniad cyllid Cymru o’r UE fesul y pen yn 458 y cant o gyfartaledd y DU. Y nesaf wedyn oedd Gogledd Iwerddon, ar 197 y cant, ymhell y tu ôl i anghenion Cymru. Mae’r egwyddorion sy’n sail i’r system bresennol o gymorth gan yr UE i aelod-wladwriaethau yn seiliedig ar degwch ac angen. Mae rhanbarthau sydd â chynnyrch domestig gros y pen o lai na 75 y cant o gyfartaledd yr UE yn gymwys ar gyfer y lefel uchaf o gymorth. Ac mae dwy ardal yn y DU yn cyrraedd hynny—un yw Cernyw ac Ynysoedd Scilly, y llall yw gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Cadeirydd, mae ein hadroddiad yn gwneud cyfanswm o 17 o argymhellion, ac rydym yn falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymateb yn gadarnhaol ac yn fanwl iddynt. Y prynhawn yma, byddaf yn ymdrin â rhai o’r argymhellion ac ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn fanylach, er bod pob un o’r argymhellion hynny’n bwysig ar gyfer cyllido ein cymunedau yn y dyfodol.
Roedd ein set gyntaf o argymhellion yn edrych ar yr heriau uniongyrchol i’r cylch cyllido presennol. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod Canghellor y Trysorlys yn hydref 2016 wedi gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau hyd at 2020, ac rydym ni fel pwyllgor yn ddiamwys yn ein cefnogaeth i hyn. Mae’r darlun yn llai sicr, fodd bynnag, o ran bygythiadau a berir gan newidiadau mewn arian cyfredol yn dilyn Brexit. Er ei bod hi’n galonogol clywed bod Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, wedi gallu lliniaru peth o’r risg a berir gan newidiadau mewn arian cyfredol, rydym yn credu ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y risgiau y mae hyn yn eu hachosi yn cael eu monitro’n gyson a’u hasesu, gan ein bod eisoes yn gwybod bod arian yn mynd i fyny ac i lawr yn eithaf rhwydd, ac ar hyn o bryd, mae i lawr.
Yn ystod ein hymchwiliad, edrychwyd ar yr achos dros bolisi rhanbarthol newydd ar ôl Brexit. Mae’r data sydd ar gael yn rhoi darlun sobreiddiol ac yn dangos i ni mai’r Deyrnas Unedig yw’r wlad fwyaf anghyfartal yn yr Undeb Ewropeaidd. Credwn fod yr achos dros bolisi rhanbarthol ar gyfer Cymru yn y dyfodol, gyda chyllid ar gael i ni ar sail angen gwrthrychol, yn ddiamwys. Un o’r nifer o feysydd yr oeddem i gyd yn cytuno yn ei gylch oedd na ddylai Cymru fod yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd nag y byddem wedi bod pe baem wedi aros yn yr UE. Fodd bynnag, y cwestiwn mawr yw: sut y mae cyflawni hynny? Nid yn unig y dylai’r rhai a oedd ar yr ochr ‘gadael’ yn ymgyrch y refferendwm gyflawni eu haddewid o arian newydd ar gyfer Cymru ar ôl i ni adael, mae’n rhaid i wleidyddion o bob ochr ac o bob gwlad yn y DU ddod at ei gilydd i gytuno ar fformiwla newydd yn seiliedig ar anghenion ar gyfer dyrannu cyllid at ddibenion polisi rhanbarthol. Rydym yn credu mai dyma’r ffordd orau o sicrhau chwarae teg, cydraddoldeb a thegwch rhwng rhannau cyfansoddol y DU.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei ymateb i ni, yn cyfeirio at y gwaith sy’n cael ei wneud tu ôl i’r llenni i bwyso ar Lywodraeth y DU am arian yn lle’r arian a gawn o’r UE wedi i ni adael. Efallai y gallai daflu goleuni ar sut y mae’r trafodaethau hynny’n mynd rhagddynt mewn gwirionedd pan fydd yn codi i siarad yn y ddadl hon.
Roedd argymhellion 7, 8, 9 a 10 i gyd yn edrych ar sut y gwerthuswn effeithiolrwydd profiad blaenorol er mwyn llywio’r dyfodol. Fel pwyllgor, roeddem yn teimlo ei bod yn hanfodol bwysig—ein bod yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i lunio polisi yn y dyfodol mewn ffyrdd sy’n sicrhau cymaint â phosibl o fanteision i bobl Cymru. Roeddem yn cydnabod ein bod, yn y tair cyfran a gawsom hyd yn hyn, wedi gweld lefelau gwahanol o lwyddiant. Mae hyn yn cynnwys edrych hefyd ar ystod ehangach o ddangosyddion na dangosyddion economaidd yn unig. Mae hefyd yn golygu y gallwn edrych ar draws y byd ar arferion gorau. Ac roedd hi’n galonogol gweld bod Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei ymateb ffurfiol i’n hadroddiad, yn barod i ystyried y cysyniad hwn ac yn agored i fabwysiadu dulliau arbrofol.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn cyfeirio drwy gydol ei gyflwyniad at y papur sydd ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru ar ddyfodol polisi rhanbarthol. Buaswn yn gofyn felly a all Ysgrifennydd y Cabinet roi syniad i ni o’r amserlenni ar gyfer cyhoeddi’r gwaith hwn, oherwydd roedd ei ymateb yn nodi ‘yn yr hydref’, a buaswn yn ddiolchgar am eglurhad pellach ar y pwynt penodol hwnnw.
Clywsom bryderon yn ystod yr ymchwiliad ynglŷn â chymhlethdod y tirlun ar gyfer darparu polisi rhanbarthol, ac mae argymhellion 11 a 12 yn ymwneud â hyn. Mae Brexit yn rhoi cyfle inni edrych eto ar y modelau darparu ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol. Yn ein barn ni, rhaid i’r tirlun presennol, a ddisgrifir fel ‘cyffordd sbageti o haenau’ gan un tyst, gael ei symleiddio ar ôl Brexit. Ac er ein bod yn cytuno, yn argymhelliad 13, fod Llywodraeth Cymru yn cadw goruchwyliaeth strategol ar y polisi hwn yn y dyfodol, mae’n hanfodol fod y polisi yn y dyfodol yn ymateb cymaint â phosibl i anghenion lleol. Dylai hyn gynnwys sicrhau bod ardaloedd gwledig, sydd heb eu cynnwys yn y bargeinion dinesig a gyflwynwyd yn ddiweddar, yn cael rôl yn y broses o lunio polisi yn y dyfodol.
O ran dulliau o weithredu yn y dyfodol, clywsom am bwysigrwydd cynhyrchiant ac arloesi. Mae perfformiad economi Cymru yn y maes hwn wedi bod yn wan yn gyson yn y gorffennol. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â hyn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys drwy edrych ar y strategaeth gyffredinol ar gyfer arloesi, a thrwy wneud y gorau o gyfleoedd drwy bolisi caffael.
Roedd ein hail argymhelliad ar bymtheg, a’r un terfynol, yn un eang a nodai rai o’n meysydd blaenoriaeth ar gyfer y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys cymorth ar gyfer sgiliau a chyfalaf dynol—ac ailadroddwyd y term ‘cyfalaf dynol’ sawl gwaith drwy gydol tystiolaeth y tystion—buddsoddiad mewn seilwaith ac yn bwysig, ymgysylltiad â’r sector preifat lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Mae hynny’n rhywbeth y gwn ei fod yn symud ymlaen o fewn yr UE, ond mae angen gwneud yn siŵr ei fod yn mynd ymhellach. I’r perwyl hwnnw, dylai Llywodraeth Cymru ddyblu ei hymdrechion i chwalu’r rhwystrau i gydweithio rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Dirprwy Lywydd, cyn dod i ben, rwyf am ddweud ychydig mwy am yr ymdeimlad o siom a deimlem gyda’r dystiolaeth a gawsom gan rai o’r tystion yn ystod yr ymchwiliad. Ychydig iawn o uchelgais neu her adeiladol a glywsom gan rai, a llai o awydd byth efallai i fanteisio ar y cyfleoedd y gellid eu sicrhau drwy edrych eto ar bolisi rhanbarthol. Roeddem yn teimlo’n bendant iawn ein bod wedi clywed mai rhagor o’r un peth oedd y ffordd ymlaen. Ni all, ac ni ddylai pethau barhau yn yr un modd. Nid yw rhagor o’r un peth yn dderbyniol o ran y ffordd y symudwn ymlaen. Ac mewn wythnos pan oeddem yn nodi ugain mlynedd ers y refferendwm ar ddatganoli, yr wythnos diwethaf, dylem bwyso a mesur, edrych ymlaen at yr 20 mlynedd nesaf, gyda’n golygon yn gadarn ar gyfleoedd i ffurfio polisi datblygu rhanbarthol newydd sy’n canolbwyntio ar yr arloesi, y cydweithio ac yn anad dim, y rhagoriaeth y gall pob un o’r cyfleoedd hynny eu dwyn i economi Cymru.
Edrychaf ymlaen at drafod a chlywed cyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma, ond mae’n rhaid i’n ffocws fod ar symud Cymru ymlaen ar y pwynt y byddwn yn gadael yr UE.
Rwy’n cytuno’n llwyr â’r teimlad diwethaf hwnnw a fynegwyd gan Gadeirydd ein pwyllgor. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad ac yn arbennig i’n tystion sydd o bosibl wedi eu synnu gan rai o’r sylwadau yn yr adroddiad hwn. Mae Cymru, fel y clywsom, wedi cael llawer mwy y pen o arian datblygu economaidd na rhannau eraill o’r DU, ond er hynny, roedd rhai tystion yn derbyn nad yw hyd yn oed y swm estynedig hwn o arian wedi bod yn drawsnewidiol. Nid yw hynny’n dweud nad yw wedi bod yn ddefnyddiol, ond fe gadarnhaodd safbwynt hirsefydlog rhai ohonom nad yw’r buddsoddiad bob amser wedi sicrhau gwerth am arian. Nid ysgogiad economaidd yn unig rwy’n ei feddwl, ond ysgogiad i gyfalaf cymdeithasol a llesiant hefyd. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno, beth bynnag yw’r polisi yn y dyfodol, y bydd angen iddo gael ei fesur yn ôl dangosyddion eraill ar wahân i ddangosyddion perfformiad allweddol economaidd meintiol.
Er nad dyma oedd ffocws ein hymchwiliad, clywsom nifer o esboniadau pam nad yw cyllid strwythurol yr UE wedi bod yn drawsnewidiol, fel roedd llawer o bobl yn ei ddisgwyl. Un esboniad oedd nad yw’n llawer iawn o arian mewn gwirionedd fel y mae pethau. Mae gwerth y cronfeydd hyn yn llai nag 1 y cant o weithgarwch economaidd yng Nghymru, er fy mod yn meddwl y gellid maddau inni, efallai, o wrando ar rai o’r dadleuon a gawsom yn y Siambr hon yn y blynyddoedd diwethaf, am feddwl eu bod yn chwarae rôl bwysicach. Esboniad arall oedd bod cronfeydd strwythurol yn dod gydag amodau sy’n effeithio ar sut y cânt eu targedu ac ar beth y gellir eu gwario. Er nad oedd hyn bob amser yn broblem, cafodd ei ddwyn i’n sylw i’n helpu i ddeall pam, beth bynnag y bo’r polisi yn y dyfodol, fod angen i bawb ohonom fod yn ofalus nad yw’r angen am atebolrwydd cryf yn efelychu’r gofynion adrodd digyswllt a swmpus sy’n rhaid iddynt ymdopi â hwy ar hyn o bryd.
Daeth nifer o bethau i fy meddwl o ganlyniad i hyn. Fel y nododd David, nid oes raid i ni aros gyda chynllun A. Nid yw’n gweithio. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn cydnabod hyn ac yn gwneud rhai pwyntiau sydd i’w croesawu ynglŷn â lleihau biwrocratiaeth a cholli’r cyfyngiadau daearyddol hynny sy’n dod gyda’r cyllid ar hyn o bryd. Ond os nad yw i fod yn fusnes fel arfer, bydd yn ddiddorol gweld yn union pa waith cwmpasu neu gynllunio senario neu ddim ond meddwl uchelgeisiol hyd yn oed, sef yr hyn y credaf eich bod wedi’i ddweud yn eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet—ffyrdd arbrofol o feddwl—y byddwch yn gallu eu datgelu yn y ddogfen bolisi sydd i ddod, gan fod peth nerfusrwydd yn y pwyllgor ynglŷn â faint o waith a wnaed ar hyn. Rydym yn derbyn, wrth gwrs, na all fod unrhyw gynlluniau pendant hyd nes y byddwn yn gwybod ar ba delerau y byddwn yn gadael yr UE, ond nid yw methiant i gynllunio yn dderbyniol chwaith, felly edrychwn ymlaen at y papur.
Yn ail, mae angen i Gymru gael mwy o bob punt a waria ar bolisi rhanbarthol wrth iddi fynnu gweld ymrwymiadau gan Lywodraeth y DU ar gyllid parhaus ar gyfer datblygu rhanbarthol yn cael eu cyflawni, ac rwy’n cefnogi hynny. Nid ydym yn plesio neb drwy fynnu ein bod yn cael pob ceiniog y byddem wedi ei chael o gronfeydd strwythurol pe baem wedi aros yn yr UE os na chaiff yr arian hwnnw ei wario’n well i gael Cymru, yn nes ymlaen, i sefyllfa lle na fuasem, yn yr hen fyd, bellach yn gymwys i gael statws rhanbarth llai datblygedig.
Yn drydydd, nid oedd yn ymddangos bod rhai tystion, fel y nododd David Rees, wedi symud ymlaen o gynllun A ac nid ydynt yn barod yn feddyliol ar gyfer y byd newydd dewr hwn. Nid yw’n syndod pur, gan fod Cymru ddatganoledig wedi datblygu gyda’i llygad ar strwythurau UE. Dyna mae pawb wedi arfer ag ef; yr unig beth yw, ni allwn barhau i arfer ag ef. Ni yw’r wlad fwyaf anghyfartal yn Ewrop. Nid yw hynny’n ddim byd o gwbl i fod yn falch ohono. Os ydym, mewn ffyrdd eraill, yn dod yn genedl gydgynhyrchiol, ni allwn ofyn o hyd i’r sector cyhoeddus gael yr holl syniadau a phriodoli cyllid i’r trydydd sector gyflwyno’r syniadau hyn heb weld beth y mae eraill y tu allan i’r sectorau hynny’n gallu ei wneud drostynt eu hunain hefyd.
Ceir argymhellion sy’n ymwneud â’r sector preifat yn yr adroddiad—sy’n cynnwys menter gymdeithasol, wrth gwrs—ac maent wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, sy’n cytuno â ni, felly, fod yn rhaid i ymgysylltiad sector preifat cyson, lle bynnag y bo’n bosibl, fod yn rhan o bolisi datblygu rhanbarthol yn y dyfodol. Gydag eithriadau nodedig ym maes adeiladu seilwaith a pheth hyfforddiant efallai, rwy’n credu ein bod wedi canfod hyd yn oed, oni wnaethom—fe sonioch chi amdano, David—fod ymchwil a datblygu yn ystyfnig o wan? Rwy’n credu mai dyna’r geiriau a ddefnyddiwyd gennych. Mae’n anodd dadlau, rwy’n meddwl, fod cronfeydd strwythurol yr UE wedi cael eu teimlo wrth ddatblygu economi Cymru—yn rhannol, rwy’n amau, oherwydd y rheolau caeth am awdurdodau cyhoeddus yn dal llinynnau’r pwrs. Mewn polisi yn y dyfodol, rwy’n credu y dylai Llywodraeth Cymru ddisgwyl mwy gan y sector preifat, ond hyd yn oed yn awr, gyda bargen ddinesig bae Abertawe, mae’n dal i edrych fel pe bai gormod o bwysau ar y brig o ran rheolaeth y cyngor ar strwythur ac ariannu, ac nid yw hynny’n arbennig o galonogol.
Mae cysylltiad y sector preifat yn anodd iawn mewn cenedl o fusnesau bach a chanolig. Rwy’n deall hynny. Maent yn fach, maent yn brysur iawn, ac nid ydynt bob amser yn ymwybodol o’r rôl a allai fod ganddynt. Ond mewn polisi rhanbarthol yn y dyfodol, rwy’n meddwl bod gwir angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â hyn er mwyn dod yn agos at gyrraedd nodau cydgynhyrchu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac i helpu Cymru i godi uwchben ei statws fel cenedl lai datblygedig, ac edrych ymlaen gydag uchelgais, fel y dywedodd y Cadeirydd. Diolch.
Hoffwn ategu diolch y siaradwyr blaenorol i bawb a roddodd dystiolaeth, ac i gofnodi fy niolch i’r Cadeirydd hefyd am y ffordd y cynhaliodd yr ymchwiliad hwn yn benodol. Rwy’n credu bod yr holl Aelodau’n mynd i adleisio’r un pwynt—mai un o’r rhannau siomedig o’n hymchwiliad oedd gweld mai busnes fel arfer, bron, oedd gobaith y rhai y clywsom dystiolaeth ganddynt, yn hytrach na gobeithio y gallai’r sefyllfa anodd roeddem ynddi esgor ar syniadau gwahanol sy’n creu canlyniadau gwell i’n dinasyddion.
Ond rwy’n credu bod cael yr ymchwiliad hwn ar bolisi rhanbarthol, wrth gwrs, yn gwbl briodol i un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Un o’r addewidion canolog yn ystod ymgyrch y refferendwm oedd na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd, a chronfeydd strwythurol oedd un o’r meysydd a nodwyd gan yr ymgyrch ‘gadael’ dro ar ôl tro. Efallai na chafodd ei arddangos ar fws mawr coch, ond roedd yn addewid a ailadroddwyd i bobl y wlad hon. Wrth edrych ar y dystiolaeth a gawsom, roeddem i gyd, rwy’n meddwl, yn cytuno mai safbwynt Llywodraeth Cymru/Plaid Cymru yn y Papur Gwyn ar y cyd, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, oedd y cynsail cywir, h.y. y dylai’r Trysorlys ddarparu arian yn lle cyllid y byddai Cymru wedi bod yn iawn i’w ddisgwyl gan yr UE pe baem wedi parhau i fod yn aelod, ond y dylai Cynulliad Cymru a Llywodraeth Cymru gael ymreolaeth lawn i weithredu eu polisi rhanbarthol eu hunain. Rwy’n falch bod y Llywodraeth, yn ei hymateb, wedi cadarnhau’r safbwynt hwnnw.
Mae hyn yn wirioneddol bwysig o ran polisi rhanbarthol am amryw o resymau, oherwydd roedd hi’n amlwg pan oeddem yn cymryd tystiolaeth ar bolisi rhanbarthol o amrywiaeth o ffynonellau fod diffinio rhanbarthau yn golygu gwahanol bethau i bron bob un person a sefydliad y cawsom dystiolaeth ganddynt. Felly, cyfeiriai rhai at orllewin Cymru a’r Cymoedd a dwyrain Cymru, rhanbarthau’r UE, cyfeiriai rhai at y dinas-ranbarthau, eraill at leoliadau daearyddol amlwg y gallai’r rhan fwyaf o bobl uniaethu â hwy, fel gogledd Cymru neu’r Cymoedd, ac roedd eraill yn gweld Cymru ei hun fel y rhanbarth yng nghyd-destun ehangach polisi rhanbarthol y DU. Mae’r anghysondeb yn ddealladwy oherwydd nad ydym wedi cael eglurhad o sylwedd gan Lywodraeth Cymru eto ynglŷn â beth yn union y mae’n ei ystyried yw dyfodol Cymru o ran polisi rhanbarthol, er ein bod yn disgwyl papur yr hydref hwn i nodi rhai egwyddorion. Felly, rydym yn cefnogi’r egwyddor, yma ar feinciau Plaid Cymru, y dylai Cymru benderfynu, ond yr hyn sydd ei angen arnom yn awr gan Lywodraeth Cymru yw gweledigaeth ar gyfer polisi rhanbarthol sy’n mynd y tu hwnt i’r cyfnod pontio. Sut beth fydd polisi rhanbarthol? Beth fydd rhanbarthau Cymru? Beth fydd y mecanweithiau cyllido? Beth fydd y trothwyon ar gyfer cymhwyso? Beth fyddai’r cydbwysedd rhwng sgiliau a datblygu economaidd ar y naill law, a phrosiectau ac adfywio microgymunedol ar y llaw arall?
Fel lladmerydd ar ran cynllunio gofodol economaidd fy hun, buaswn yn erfyn ar Ysgrifennydd y Cabinet i feddwl yn ofalus iawn ynglŷn â ffiniau’r rhanbarthau hynny. Gwn fod ffiniau wedi bod ar ei feddwl ers peth amser ers iddo fabwysiadu ei bortffolio presennol, ond os yw rhanbarthau’r bargeinion dinesig yn ffurfio sail i bolisi rhanbarthol, mae gennyf ofn mawr y bydd canlyniadau i’r tlotaf yn ein cymunedau. Gallwch ddychmygu—ar hyn o bryd, mae Cymoedd Gwent yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, un o’r rhanbarthau tlotaf yn Ewrop gyfan, yn anffodus, ac yna, os oes gennym yn sydyn iawn brifddinas-ranbarth Caerdydd fel model ar gyfer polisi rhanbarthol newydd, heb ychwanegu un geiniog at werth yr economi neu gynnydd mewn cyflogau na dim, byddwn yn y rhanbarth mwyaf llewyrchus yng Nghymru. Rwy’n credu y bydd hynny’n cael effaith ganlyniadol. Yna, wrth gwrs, mae gennym gwestiynau dilys ynglŷn â rhannau o Gymru sydd heb eu cynnwys yn y dinas-ranbarthau o gwbl, yn enwedig cymunedau gwledig sy’n wynebu heriau gwirioneddol o ran goresgyn tlodi dwfn. Felly, mae angen cefnogaeth leol—roedd hynny’n glir yn y dystiolaeth a gawsom—ac rwy’n meddwl, yn rhannol, fod sicrhau cefnogaeth leol yn ymwneud â gallu pobl i uniaethu â’r rhanbarthau. Fe wnaf y pwynt eto, o ran sut yr ydym yn diffinio’r rhanbarthau hynny: cyhoeddodd y Llywodraeth ei chyhoeddiad ‘Ein Cymoedd, Ein Dyfodol’ yn yr haf, ac roeddwn yno’n aros yn eiddgar am y prif gynllun economaidd hwn a oedd yn mynd i newid ffawd Cymoedd de Cymru—tri chyfeiriad yn unig at yr Undeb Ewropeaidd neu Brexit, mewn ardal sydd yn bendant ymysg y rhai sy’n dibynnu fwyaf ar gyllid Ewropeaidd. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, nid yn unig yn ei bapur ar bolisi rhanbarthol yn y dyfodol, ond yn weithredol yng nghyfarfodydd y Cabinet o hyn ymlaen, i erfyn ar gyd-Aelodau ynglŷn â’r angen i baratoi pob adran a phob cymuned yn ein gwlad at Gymru ar ôl y cyfnod pontio, ac mae hynny’n golygu cael pob cymuned yn barod ar gyfer Brexit. Diolch yn fawr.
I raddau helaeth, mae polisi rhanbarthol y DU yn ystod y degawdau diwethaf wedi cael ei lunio a’i yrru gan yr Undeb Ewropeaidd, ac mae arian sylweddol wedi gweddnewid rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae dros 200,000 o bobl wedi elwa ar hyfforddiant, diolch i arian yr UE a bydd mwy na £2 biliwn wedi cael ei sianelu i ardaloedd tlawd rhwng 2014 a 2020. Ond y ffaith yw, fe ŵyr pawb ohonom fod problemau yn y cymunedau hyn yn annhebygol o gael eu goresgyn yn gyfan gwbl erbyn 2020 ac felly bydd angen parhau i roi cymorth sylweddol.
Y bore yma yn y Pwyllgor Cyllid, cawsom ar ddeall fod gwariant datblygu economaidd ar lefel llywodraeth leol wedi gostwng 66 y cant dros y chwe blynedd diwethaf, ac mae toriadau i gynllunio mewn awdurdodau lleol wedi golygu gostyngiad o 45 y cant. Mae’r ddau yn feysydd allweddol lle rydym yn gobeithio ac yn disgwyl i gyfoeth gael ei gynhyrchu ohonynt. Rydym yn gallu ysgwyddo’r toriadau hyn i raddau oherwydd bod gennym botiau cyllido amrywiol o’r UE, ond y tu hwnt i 2020 nid oes unrhyw sicrwydd o gwbl.
Nawr, awgrymodd Llywodraeth Cymru yn ei Phapur Gwyn y byddai’n hoffi gweld addasiad unwaith ac am byth i’r grant bloc i wneud iawn am golledion arian Ewropeaidd i Gymru. Er bod hyn, mewn egwyddor, yn rhywbeth y dylid ei ystyried, roeddem yn bryderus yn y pwyllgor, rwy’n meddwl, y gallai’r dull hwn o weithredu greu risgiau yn y tymor hwy a bod angen diogelu at y dyfodol unrhyw addasiadau i’r grant bloc a wnaed ar y pwynt hwn fel nad ydym ar ein colled yn y tymor hwy.
Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Mehefin, yn rhy hwyr i ni allu ystyried y cynigion a wnaed ym maniffesto’r Blaid Geidwadol ym mis Mai ar gyfer sefydlu cronfa ffyniant a rennir, ac roeddent yn awgrymu gwneud hynny ar gyfer y DU gyfan. Nodaf fod dull o’r fath yn cael ei wrthod yn ymateb y Gweinidog i’n hadroddiad. Ond os mai dyna yw bwriad Llywodraeth Dorïaidd y DU, byddai’n ddefnyddiol gwybod a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwrthod bod yn rhan o’r drafodaeth hon, ac os felly, mae yna berygl y bydd Cymru’n wynebu fait accompli na fyddwn wedi dylanwadu arno, neu a yw’r Gweinidog wedi cael unrhyw drafodaethau ar y cynnig, pa un a yw’r syniad a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU yn seiliedig ar fformiwla wrthrychol ar sail anghenion, ac a yw hwn yn gynnig y bydd yn rhaid ei gymeradwyo a’i gytuno gan holl wledydd y DU, fel yr awgrymwyd gennym yn ein hadroddiad.
Os nad oes yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymeradwyo meini prawf y gronfa ffyniant a rennir, rwy’n credu y byddem yn pryderu efallai na châi’r meini prawf eu llunio mewn modd a fyddai o fudd i Gymru. Mae ein ffigurau diweithdra, er enghraifft, yn gymharol isel o gymharu â llawer o ranbarthau eraill yn y DU, ond mae ein cynnyrch domestig gros mewn rhai ardaloedd yn llusgo ar ôl yn sylweddol. Felly, i ba raddau y byddwch yn rhan o’r drafodaeth honno ar ffyniant a rennir?
Un o fanteision mawr y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yw eu bod yn caniatáu i Lywodraeth Cymru, awdurdodau cyhoeddus ac eraill sydd â diddordeb i gynllunio ar sail aml-flynyddol. Roedd y pwyllgor yn awyddus iawn i sicrhau y dylai hyn fod yn nodwedd hefyd o unrhyw fodel rhanbarthol o ddatblygiad economaidd yn y dyfodol. Rwy’n credu ei bod yn werth ailbwysleisio’r pwynt a wnaeth aelodau eraill o’r pwyllgor, gan gynnwys Steffan, am y ffaith ein bod yn eithaf siomedig mewn gwirionedd ynglŷn â’r diffyg dychymyg a chreadigrwydd, yr awydd am ragor o’r un peth, gan lawer o bobl sy’n elwa ar hyn o bryd o gronfeydd rhanbarthol Ewropeaidd. Rwy’n meddwl ein bod yn mynd i orfod meddwl yn radical iawn ac mewn ffordd newydd ynglŷn â sut y byddwn yn ymgysylltu â datblygiadau rhanbarthol yn y dyfodol.
Hoffwn dynnu sylw hefyd at y ffaith ein bod wedi cael tystiolaeth gan lawer o dystion a oedd yn cytuno, er y dylai Llywodraeth Cymru fod â’i llaw ar y llyw mewn perthynas â pholisi rhanbarthol, ei bod hi’n hanfodol sefydlu strwythurau is-ranbarthol yng Nghymru. Y maes rwy’n pryderu’n benodol amdano yw’r angen i ddatblygu ardal ddatblygu economaidd wledig is-ranbarthol, na fydd yn cael ei rheoli o Gaerdydd, ond a fydd yn ymateb i anghenion unigryw cymunedau gwledig. Rwyf wrth fy modd i ddweud, unwaith eto, fod CLlLC wedi cadarnhau yn ei chyfarfod gwledig ddydd Gwener y byddant yn awr yn bwrw ymlaen i ddatblygu cynllun is-ranbarthol sy’n seiliedig ar le ar gyfer datblygu economaidd yn y Gymru wledig. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i’r argymhelliad penodol hwn yn yr adroddiad, ond rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymwneud yn weithredol â’r grwpio llywodraeth leol newydd hwn i gyflawni’r addewid a wnaeth yma i sicrhau bod blaenoriaethau gwledig yn cael digon o bwyslais wrth lunio polisi rhanbarthol.
Yn olaf hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gytuno i bob un o’r argymhellion yn yr adroddiad hwn; dyna’r math o ymgysylltiad y dymunwn ei weld. Ond bydd gennym ddiddordeb gweithredol a byddwn yn gwneud gwaith dilynol er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei haddewidion.
Diolch. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn a fu’n drafodaeth ddiddorol iawn ar adroddiad pwysig iawn. Felly, diolch yn fawr i’r pwyllgor am roi amser ac ymdrech i wneud yr hyn y credaf ei fod yn gyfraniad adeiladol ac arwyddocaol i’r maes pwysig hwn o bolisi cyhoeddus. Dirprwy Lywydd, tri pheth yn unig, mewn gwirionedd, sydd yn y fantol wrth geisio dyfeisio polisi rhanbarthol ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru. Rydym wedi clywed am bob un ohonynt yn ystod y drafodaeth: mae arnom angen arian, mae arnom angen ymreolaeth, ac yna mae angen inni gael y creadigrwydd i allu llunio cyfres o gynigion polisi sy’n goresgyn heriau’r dyfodol. Felly, rwy’n mynd i ddweud rhywbeth yn fyr am y ddau gyntaf a chanolbwyntio ychydig mwy ar y trydydd wedyn.
O ran yr arian, wel, fe wnaeth David Rees bwynt wrth gyflwyno’r adroddiad ar ran y pwyllgor cyfan fod yn rhaid i Lywodraeth y DU gyflawni’r ymrwymiadau a wnaed yn ystod y refferendwm na fydd Cymru geiniog yn waeth ei byd yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n ailadrodd y croeso cadarnhaol a roddodd Llywodraeth Cymru i benderfyniadau cynnar Canghellor y Trysorlys ar ariannu rhwymedigaethau’r Undeb Ewropeaidd yn y maes hwn, ond mae’r amser wedi dod i symud y tu hwnt i’r gwarantau gwreiddiol hynny i sicrhau bod gan Gymru, yn y tymor hir, yr adnoddau y bydd eu hangen arnom i roi ein cynigion polisi ar waith.
Daw hynny â mi at ymreolaeth, a dyna bwynt a wnaed yn uniongyrchol iawn gan Steffan Lewis, ond a gafodd sylw gan Eluned Morgan yn ogystal, oherwydd mae cronfa ffyniant a rennir—os nad ydym yn ofalus—yn geffyl pren Troea ar gyfer adfachu pwerau datganoledig y sefydliad hwn ymhellach, yn ychwanegol at yr hyn yr ydym eisoes yn cael trafferth gydag ef drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). A ydym wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Gweinidogion y DU? Nac ydym, hyd y gwn. Rwy’n gweld y gronfa hon mewn penawdau. Cyn belled ag y gwn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaeth gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â’r hyn y mae’n ei olygu wrth gronfa o’r fath.
Sut y gellid dyfeisio cronfa o’r fath? Wel, yn rhy hawdd mewn ffordd a fyddai’n mynd yn groes i fuddiannau Cymru. Fel y dywedodd Eluned, beth os mai diweithdra yw’r maen prawf sylfaenol ar gyfer mynediad at y gronfa? Beth os mai gostyngiadau mewn anweithgarwch economaidd, lle mae Cymru wedi curo gweddill y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, yw’r maen prawf ar gyfer mynediad at gronfa o’r fath? Mae Cymru wedi elwa’n fawr ar arian Ewropeaidd a gwyddom fod rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn edrych ar hynny’n genfigennus ac yn gweld hwn yn gyfle i rannu rhai o’r adnoddau a ddaeth i Gymru oherwydd bod ein hanghenion yn fwy. Mae’n bwysig iawn cofnodi eto, Dirprwy Lywydd, fod yr arian a gawn drwy’r Undeb Ewropeaidd—rwy’n gwybod bod pobl weithiau, mewn ffordd, yn ei hystyried yn set o reolau sglerotig a chymhleth, ond dyma’r unig arian a gawn lle y ceir set o reolau, lle mai’r rheswm yr ydym yn gymwys yw oherwydd bod meini prawf wedi’u gosod a’n bod yn elwa o’r peth, a lle y ceir anghydfod, mae yna set o reolau y gallwch droi ati i gael dyfarniad ar y pwyntiau hynny. Fel y gwelsom gyda bargen y DUP, nid yw fformiwla Barnett yn cynnwys yr un o’r nodweddion hanfodol hynny. A dyna pam, er fy mod yn deall y pwyntiau a nodwyd yn argymhelliad 4 yr adroddiad—ac mae’r Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion mewn egwyddor lle y maent yn dibynnu ar gamau gweithredu gan Lywodraeth y DU, ac yn gyfan gwbl lle y maent yn ein dwylo ni yn llwyr—dyna pam y gwnawn y pwynt yn ein sylwadau ar argymhelliad 4, er ein bod yn gwbl ymrwymedig i fformiwla cyllido sydd o ddifrif yn seiliedig ar anghenion yn y maes hwn, mae dull agored a thryloyw yr UE o ddyrannu cyllid wedi bod o fudd i ni, a’r ffordd symlaf o warantu buddiannau Cymru yn y maes hwn yw drwy gael cyllid llawn yn ei le yng nghyllideb sylfaenol Llywodraeth Cymru, gan gynyddu ein cyllideb graidd flynyddol yn barhaol ac yna’r ymreolaeth, yn y ffordd y nododd Steffan Lewis, i allu defnyddio’r arian hwnnw yn y ffordd a fydd yn gweithio orau yma yng Nghymru.
Daw hynny â mi felly at y trydydd pwynt y soniais amdano ar y cychwyn. Os yw’r arian gennym, ac os yw’r ymreolaeth gennym, yna mae angen i ni allu dangos bod gennym y gallu polisi a’r dychymyg polisi i allu dylunio polisi rhanbarthol a fydd yn addas ar gyfer y dyfodol.
Mae’r chweched argymhelliad yn adroddiad y pwyllgor yn ein hannog i ddatblygu gweledigaeth a diben o’r fath ar gyfer polisi rhanbarthol mewn ymgynghoriad â phartneriaid, ac mae hynny wedi bod yn rhan bwysig o’r ffordd y ceisiwn wneud hyn a pham fod ein papur polisi, a gynhyrchir yn yr hydref, yn dal i fod yn y camau olaf o’i greu, yn rhannol oherwydd ein bod eisiau gwneud yn siŵr y gallwn roi ystyriaeth lawn i adroddiad y pwyllgor ei hun a’r ddadl a gawn yma y prynhawn yma, ond hefyd oherwydd ein bod yn dymuno parhau i’w drafod yn ein grŵp cynghori ar Ewrop, gyda’n partneriaid yn y pwyllgor monitro rhaglenni y mae Julie Morgan yn ei gadeirio.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad. Tybed a allwch roi blas inni o bwy yw’r partneriaid hynny. Nid wyf yn disgwyl rhestr hir, ond un neu ddwy enghraifft efallai.
Wel, Suzy, roeddwn am ddweud—roeddwn ar fin dweud—ein bod yn awyddus iawn i’r ymdeimlad cryf o bartneriaeth, y credwn ei fod wedi bod yn gryfder o ran y modd y defnyddiwyd cyllid Ewropeaidd yng Nghymru hyd yn hyn, ein bod angen partneriaeth sy’n cyrraedd y tu hwnt i’r rhai sy’n gallu cymryd rhan yn fwyaf hawdd, sef y pwynt a wnaethoch yn gynharach yn eich cyfraniad, rwy’n credu. Mae angen inni wneud yn siŵr fod gennym bartneriaid o lywodraeth leol, o’r prifysgolion, o’r trydydd sector, o’r sector preifat, ond nid yn unig y bobl sy’n gallu cymryd rhan eisoes. Mae’n rhaid i ni allu symud y tu hwnt i hynny os ydym yn mynd i allu creu fframwaith polisi, fel y mae’r pwyllgor yn awgrymu yn ei argymhelliad 17, ar gyfer dyfodol polisi rhanbarthol yng Nghymru sy’n symleiddio, yn ymatebol, yn arloesi ac yn gallu cynnal y tensiwn rhwng buddsoddi mewn lleoedd—hynny yw, buddsoddiad mewn seilwaith—a buddsoddi mewn pobl, y cyfalaf dynol y mae nifer o gyfranwyr wedi ei bwysleisio yma y prynhawn yma. Wrth wneud hynny, rydym yn awyddus i allu pwyso ar syniadau yng Nghymru, ond y tu hwnt i Gymru hefyd, ac roedd hynny’n rhan bwysig o adroddiad y pwyllgor, gan ein hannog i fod yn arloesol ac i edrych ar fodelau y tu hwnt i’r Deyrnas Unedig er mwyn agor ystod ehangach o ddewisiadau.
Wrth wraidd hyn oll, Dirprwy Lywydd, wrth ymateb i gyfleoedd newydd, cyfleoedd sy’n adeiladu ar y cryfderau a grëwyd gennym yn ystod y cyfnod y gwnaethom elwa o gronfeydd Ewropeaidd, ond gan gydnabod mai nawr yw’r pwynt sy’n rhaid i ni allu edrych ymlaen at Gymru y tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd, i ddefnyddio’r arian a fydd gennym, i ddefnyddio’r pwerau at ein defnydd, ac yna i gymhwyso’r dychymyg polisi hwnnw i wneud yn siŵr fod gennym bolisi rhanbarthol a fydd yn gweithio ar gyfer pob rhan o Gymru.
Diolch. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, David Rees, i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bob Aelod sydd wedi cymryd rhan y prynhawn yma am eu cyfraniadau, ac i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am nodi ymateb y Llywodraeth i’n gwaith ychydig yn fanylach y prynhawn yma? Hoffwn fwrw ymlaen gyda chwpl o bwyntiau. Fel y nododd Suzy, un peth y soniwyd amdano wrthym oedd nad oedd yn drawsnewidiol, a dywedwyd hynny wrthym sawl gwaith, ond fel yr oeddech yn gywir i nodi, roeddent hefyd yn tynnu sylw at y ffaith efallai nad oedd y cyllid, o ran canran, yn ddigon mawr o bosibl i greu newid trawsnewidiol. Ond yr hyn yr oeddent hefyd yn ei ddweud oedd y gallai fod wedi golygu nad oedd pethau’n digwydd a allai fod wedi digwydd fel arall, yn yr ystyr y gallem fod wedi mynd tuag yn ôl o ganlyniad yn hytrach na sefyll yn llonydd, efallai. Felly, efallai nad yw’n drawsnewidiol, ond mae wedi golygu nad ydym wedi colli tir; roedd hwnnw’n bwynt pwysig yn fy marn i. Ond roeddech yn nodi hefyd ein bod yn dibynnu’n ormodol, efallai, ar bot ariannu’r UE weithiau yn ein mannau cyhoeddus a dylem fynd i’r afael â hyn, a dyma y soniwn amdano: rhagor o feddwl yn greadigol a mwy o gyfranogiad y sector.
Nododd Steffan y rhanbarthau NUTS 2 sydd yng Nghymru, ac rwy’n cytuno’n llwyr ag ef fod angen inni ddiffinio rhanbarthau. Un o’r cwestiynau a godwyd oedd: beth y mae rhanbarth yn ei olygu yng Nghymru? A ydym yn dal i siarad am y ddau ranbarth a oedd yn rhan o arian yr UE yn wreiddiol? Sut y mae rhannau eraill o Gymru yn rhan o hyn i gyd? Sut y gallai weithio’n well? Ac mae’n bwysig fod Llywodraeth Cymru o bosibl yn edrych ar y cwestiynau penodol hynny o ran beth yw’r rhanbarthau, ac efallai na fyddant yr un fath â’r cyfuniadau llywodraeth leol. Efallai eu bod yn wahanol o ganlyniad. Mae angen inni edrych ar y rhanbarth ar gyfer datblygu economaidd ar yr ochr honno i bethau a sut y gallwn gefnogi’r polisïau hynny—y polisïau rhanbarthol—ac yna ariannu’r anghenion sy’n anghenion lleol, efallai, ac fe fyddant yn wahanol. Mae hynny’n peri ychydig bach o bryder i mi o ran rhai o’r meini prawf a osodwch ar eu cyfer, gan y bydd y meini prawf yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd.
Ac oes, yn bendant mae angen i ni fod yn barod ar gyfer Brexit. Ond fe nodoch chi nifer o gwestiynau pwysig ar gyfer Ysgrifennydd y Cabinet. Mewn gwirionedd, pan fyddwch yn crafu o dan yr wyneb, rwy’n credu bod llawer mwy i’r peth na hynny, a chredaf fod hynny wedi dangos y cymhlethdodau sy’n codi a’r angen i adnewyddu polisïau rhanbarthol. Ond mae angen inni eu hadnewyddu’n gyflym. Ni allwn gymryd ein hamser tra bo’r broses hon ar y gweill. Rydym yn gwybod bod y cloc yn tician; clywsom hynny ddigon o weithiau gan bawb—gan Lywodraeth y DU, negodwyr yr UE. Mae angen inni symud ymlaen at bwynt lle y bydd gennym ryw safbwynt.
Amlygodd Eluned y ffaith bod strwythurau rhanbarthol yn bwysig, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig. Ni allwn anghofio hynny, ac mae’n bwysig ein bod yn mynd i’r afael â’r pethau hynny, ond roedd hi hefyd yn tynnu sylw at y ffaith ei bod yn ymddangos, unwaith eto, fod cysylltiadau rhynglywodraethol wedi torri. Roeddwn yn siomedig i glywed, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw Llywodraeth y DU wedi bod mewn trafodaethau gyda chi ynglŷn â’r gronfa ffyniant a rennir. Efallai ei fod yn adlewyrchu holl agwedd Llywodraeth y DU at Brexit, oherwydd bob tro y byddwn yn gofyn i chi am Gydbwyllgor y Gweinidogion a phopeth arall, mae’n ymddangos ein bod yn cael ymateb nad ydynt yn gwrando mewn gwirionedd. Rwy’n credu ei bod yn hen bryd i Lywodraeth y DU wrando ar y bobl, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, gan ein bod yn agosáu at yr ymyl yn gyflym iawn, ac oni bai ein bod yn cael atebion a phethau ar waith, rydym yn mynd i ddisgyn drosto’n boenus iawn. Felly, mae hynny’n destun pryder i mi.
Ar y cronfeydd amlflwydd, unwaith eto, mae wedi bod yn fuddiol iawn, nid yn unig ar gyfer rhai’r UE; mae wedi bod yn fuddiol i’r bobl sy’n rhedeg y rhaglenni am eu bod yn gwybod beth oedd yr amserlenni a’r cyllid a oedd ganddynt ar gyfer hynny. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet edrych—gan nad atebodd hyn heddiw—ar y cysyniad o gronfeydd amlflwydd mewn unrhyw bolisi rhanbarthol yn y dyfodol. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n cytuno’n llwyr â chi: mae arian, ymreolaeth, creadigrwydd yn bwysig iawn i ni allu cyflwyno polisi rhanbarthol sy’n addas i Gymru mewn gwirionedd, ac mae angen inni sicrhau bod hynny’n mynd rhagddo.
Mae’r adroddiad a’r ddadl heddiw yn dangos i ni fod llawer i’w drafod. Yn y ddadl, rydym yn wynebu dyfodol y tu allan i’r UE ac wrth gyflwyno’r adroddiad hwn, rydym yn gobeithio gwneud cyfraniad cychwynnol i’r ddadl hon. Mae’n mynd i fod yn ddadl barhaus am ein dyfodol economaidd ar ôl Brexit, ond mae’n rhaid inni sicrhau ei fod bob amser yn seiliedig ar dystiolaeth yn ogystal. Rydym yn edrych ymlaen at gyfraniadau pellach, ac rwy’n atgoffa pawb yn y Siambr y bydd hyn yn effeithio ar bob un ohonom—fy etholwyr ac etholwyr pawb ohonom, pa un a ydym yn ACau etholaeth neu’n ACau rhanbarthol; bydd y broses hon yn effeithio ar bawb. Mae angen i ni ddiogelu buddiannau pobl Cymru yn y blynyddoedd nesaf ac mae angen i ni sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.