10. 9. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei ‘Ymchwiliad i ddyfodol polisi rhanbarthol — beth nesaf i Gymru?’

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 27 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:09, 27 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bob Aelod sydd wedi cymryd rhan y prynhawn yma am eu cyfraniadau, ac i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am nodi ymateb y Llywodraeth i’n gwaith ychydig yn fanylach y prynhawn yma? Hoffwn fwrw ymlaen gyda chwpl o bwyntiau. Fel y nododd Suzy, un peth y soniwyd amdano wrthym oedd nad oedd yn drawsnewidiol, a dywedwyd hynny wrthym sawl gwaith, ond fel yr oeddech yn gywir i nodi, roeddent hefyd yn tynnu sylw at y ffaith efallai nad oedd y cyllid, o ran canran, yn ddigon mawr o bosibl i greu newid trawsnewidiol. Ond yr hyn yr oeddent hefyd yn ei ddweud oedd y gallai fod wedi golygu nad oedd pethau’n digwydd a allai fod wedi digwydd fel arall, yn yr ystyr y gallem fod wedi mynd tuag yn ôl o ganlyniad yn hytrach na sefyll yn llonydd, efallai. Felly, efallai nad yw’n drawsnewidiol, ond mae wedi golygu nad ydym wedi colli tir; roedd hwnnw’n bwynt pwysig yn fy marn i. Ond roeddech yn nodi hefyd ein bod yn dibynnu’n ormodol, efallai, ar bot ariannu’r UE weithiau yn ein mannau cyhoeddus a dylem fynd i’r afael â hyn, a dyma y soniwn amdano: rhagor o feddwl yn greadigol a mwy o gyfranogiad y sector.

Nododd Steffan y rhanbarthau NUTS 2 sydd yng Nghymru, ac rwy’n cytuno’n llwyr ag ef fod angen inni ddiffinio rhanbarthau. Un o’r cwestiynau a godwyd oedd: beth y mae rhanbarth yn ei olygu yng Nghymru? A ydym yn dal i siarad am y ddau ranbarth a oedd yn rhan o arian yr UE yn wreiddiol? Sut y mae rhannau eraill o Gymru yn rhan o hyn i gyd? Sut y gallai weithio’n well? Ac mae’n bwysig fod Llywodraeth Cymru o bosibl yn edrych ar y cwestiynau penodol hynny o ran beth yw’r rhanbarthau, ac efallai na fyddant yr un fath â’r cyfuniadau llywodraeth leol. Efallai eu bod yn wahanol o ganlyniad. Mae angen inni edrych ar y rhanbarth ar gyfer datblygu economaidd ar yr ochr honno i bethau a sut y gallwn gefnogi’r polisïau hynny—y polisïau rhanbarthol—ac yna ariannu’r anghenion sy’n anghenion lleol, efallai, ac fe fyddant yn wahanol. Mae hynny’n peri ychydig bach o bryder i mi o ran rhai o’r meini prawf a osodwch ar eu cyfer, gan y bydd y meini prawf yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd.

Ac oes, yn bendant mae angen i ni fod yn barod ar gyfer Brexit. Ond fe nodoch chi nifer o gwestiynau pwysig ar gyfer Ysgrifennydd y Cabinet. Mewn gwirionedd, pan fyddwch yn crafu o dan yr wyneb, rwy’n credu bod llawer mwy i’r peth na hynny, a chredaf fod hynny wedi dangos y cymhlethdodau sy’n codi a’r angen i adnewyddu polisïau rhanbarthol. Ond mae angen inni eu hadnewyddu’n gyflym. Ni allwn gymryd ein hamser tra bo’r broses hon ar y gweill. Rydym yn gwybod bod y cloc yn tician; clywsom hynny ddigon o weithiau gan bawb—gan Lywodraeth y DU, negodwyr yr UE. Mae angen inni symud ymlaen at bwynt lle y bydd gennym ryw safbwynt.

Amlygodd Eluned y ffaith bod strwythurau rhanbarthol yn bwysig, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig. Ni allwn anghofio hynny, ac mae’n bwysig ein bod yn mynd i’r afael â’r pethau hynny, ond roedd hi hefyd yn tynnu sylw at y ffaith ei bod yn ymddangos, unwaith eto, fod cysylltiadau rhynglywodraethol wedi torri. Roeddwn yn siomedig i glywed, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw Llywodraeth y DU wedi bod mewn trafodaethau gyda chi ynglŷn â’r gronfa ffyniant a rennir. Efallai ei fod yn adlewyrchu holl agwedd Llywodraeth y DU at Brexit, oherwydd bob tro y byddwn yn gofyn i chi am Gydbwyllgor y Gweinidogion a phopeth arall, mae’n ymddangos ein bod yn cael ymateb nad ydynt yn gwrando mewn gwirionedd. Rwy’n credu ei bod yn hen bryd i Lywodraeth y DU wrando ar y bobl, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, gan ein bod yn agosáu at yr ymyl yn gyflym iawn, ac oni bai ein bod yn cael atebion a phethau ar waith, rydym yn mynd i ddisgyn drosto’n boenus iawn. Felly, mae hynny’n destun pryder i mi.

Ar y cronfeydd amlflwydd, unwaith eto, mae wedi bod yn fuddiol iawn, nid yn unig ar gyfer rhai’r UE; mae wedi bod yn fuddiol i’r bobl sy’n rhedeg y rhaglenni am eu bod yn gwybod beth oedd yr amserlenni a’r cyllid a oedd ganddynt ar gyfer hynny. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet edrych—gan nad atebodd hyn heddiw—ar y cysyniad o gronfeydd amlflwydd mewn unrhyw bolisi rhanbarthol yn y dyfodol. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n cytuno’n llwyr â chi: mae arian, ymreolaeth, creadigrwydd yn bwysig iawn i ni allu cyflwyno polisi rhanbarthol sy’n addas i Gymru mewn gwirionedd, ac mae angen inni sicrhau bod hynny’n mynd rhagddo.

Mae’r adroddiad a’r ddadl heddiw yn dangos i ni fod llawer i’w drafod. Yn y ddadl, rydym yn wynebu dyfodol y tu allan i’r UE ac wrth gyflwyno’r adroddiad hwn, rydym yn gobeithio gwneud cyfraniad cychwynnol i’r ddadl hon. Mae’n mynd i fod yn ddadl barhaus am ein dyfodol economaidd ar ôl Brexit, ond mae’n rhaid inni sicrhau ei fod bob amser yn seiliedig ar dystiolaeth yn ogystal. Rydym yn edrych ymlaen at gyfraniadau pellach, ac rwy’n atgoffa pawb yn y Siambr y bydd hyn yn effeithio ar bob un ohonom—fy etholwyr ac etholwyr pawb ohonom, pa un a ydym yn ACau etholaeth neu’n ACau rhanbarthol; bydd y broses hon yn effeithio ar bawb. Mae angen i ni ddiogelu buddiannau pobl Cymru yn y blynyddoedd nesaf ac mae angen i ni sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni. Diolch.