– Senedd Cymru am 5:08 pm ar 27 Medi 2017.
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau’n gadael y Siambr, gwnewch hynny’n gyflym ac yn dawel. Felly, symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Joyce Watson i siarad am y pwnc y mae wedi’i ddewis. Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Byddaf yn siarad heddiw am lifogydd dŵr wyneb a pham, yn fyr, fod angen mwy o erddi a llai o batios. Edrychaf ymlaen at glywed gan fy nghyd-Aelod dros Ddwyrain Abertawe, Mike Hedges, a chan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Un o ragflaenwyr Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Davidson, pan oedd hi’n Weinidog yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, a lobïais yn gyntaf ar y pwnc penodol hwn, ac roedd hynny yn sgil y llifogydd dinistriol yn 2007 ac adolygiad Pitt a’u dilynodd.
Yn 2009, cymeradwyodd y Cynulliad fy nghynnig i gyflwyno Bil meinciau cefn, neu’r hyn a elwid ar y pryd yn orchymyn cymhwysedd deddfwriaethol, i ymdrin â llifogydd drwy ffrwyno’r defnydd o arwynebau caled o amgylch cartrefi pobl. Dyna oedd un o brif argymhellion adolygiad Pitt, o ystyried bod bron i 80 y cant o lifogydd yn cael eu hachosi gan lifogydd dŵr wyneb, nid gan afonydd yn gorlifo na moroedd yn cyrraedd y morlin. Ar y pryd, roedd Llywodraeth y DU yn cyflwyno ei deddfwriaeth ei hun—y Bil Rheoli Llifogydd a Dŵr—a oedd yn gorgyffwrdd gyda fy ngorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol, felly fe syrthiodd ar ymyl y ffordd, ond ni syrthiodd fy niddordeb ar ymyl y ffordd, na’r broblem chwaith.
Ychydig wythnosau’n ôl yn unig, fe wnaeth fflachlifoedd darfu unwaith eto ar gymunedau ar draws fy rhanbarth. Galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i 12 o ddigwyddiadau yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Cafwyd rhybuddion tywydd melyn ar gyfer rhannau uchaf ac isaf afon Teifi, yn ogystal ag afon Taf ac afon Cynon. Achosodd glaw trwm dros nos lifogydd mewn rhannau o Dalsarn, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Chei Newydd, a theithiodd penllanw llifogydd y Teifi i lawr yr afon rhwng Llanfair a Glan Teifi a chaewyd y rhyd ger ysgol Talgarth. Trodd caeau’n orlifdiroedd gan effeithio ar ferlod a da byw eraill. Cafwyd anhrefn traffig ar yr A486, yr A487, yr A475 yng Ngheredigion a’r B4333 rhwng Aberporth a Chastell Newydd Emlyn, yn ogystal â’r A485 yn Sir Gaerfyrddin a’r holl ffyrdd cefn o gwmpas Beulah. A chafwyd fflachlifoedd yng ngogledd sir Benfro o Landudoch ac Aber-cuch i Lanfyrnach.
Nid wyf yn hoffi bod yn broffwyd gwae, ond dim ond mis Medi yw hi. Cefais fy ysgogi i edrych eto ar y syniad o lwybr deddfwriaethol gan golofn a ddarllenais yn ddiweddar iawn yn ‘The Guardian’ gan Michele Hanson, o’r enw ‘Why it’s time to ban concrete in front gardens’. Ynddi, nododd sut yr oedd taith o Lundain i Sussex wedi newid yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, ac rwy’n dyfynnu ohoni. Mae’n dweud bod, y gerddi blaen gwyrdd hyfryd bron â bod wedi diflannu’n llwyr ac wedi cael eu troi’n fannau parcio.
Dywedodd ei bod yn olygfa y bydd llawer ohonom yma’n ei hadnabod yn ein cymunedau eu hunain, gyda mwy a mwy o batios ac ystafelloedd haul, a phalmantu ar gyfer gerddi a hefyd ar gyfer parcio. Mae bron i 5 miliwn o erddi blaen yn y DU bellach wedi’u palmantu’n llwyr ac mae mwy a mwy ohonynt yn diflannu bob blwyddyn.
A dweud y gwir, un o’r pethau cyntaf a wneuthum pan symudais i fy nhŷ 25 mlynedd yn ôl oedd palu’r rhodfa a phlannu gardd flaen gyda llwyni a blodau. Gwnaeth Michele Hanson yn union yr un fath. Mae hi’n dweud ei bod yn arfer bod â gardd flaen goncrid, heb unrhyw le i’r dŵr fynd, gan arwain at lifogydd pan fyddai’n bwrw glaw’n drwm.
Felly, fe balodd y cyfan a phlannu magnolia a hocys, a rhoddodd hynny ddiwedd ar y llifogydd. Felly, beth am wneud hyn yn orfodol, meddai,
Gwell cael wladwriaeth faldodus synhwyrol nag un sydd dan ddŵr catastroffig. Gallwch ei wneud eich hun, mae’n argymell, neu gael y cyngor i bicio draw gyda dril niwmatig a’i wneud ar eich rhan.
Nawr, nid wyf yn mynd lawn mor bell â hynny heddiw mewn gwirionedd yn yr hyn rwy’n ei gynnig, ond rwy’n credu bod ganddi bwynt. Effaith hyn—[Anghlywadwy.]—yw bod mwy o ddŵr glaw yn cyrraedd carthffosydd a draeniau, gan olchi llygryddion i’n cyrsiau dŵr. Siaradais yr wythnos diwethaf yn sesiwn holi’r Cynulliad am lygredd afon o ffermydd da byw sy’n cael eu gadael yn rhy aml heb eu cosbi, ac mae fflachlifoedd yn creu’r un broblem yn union. Ond caiff ei waethygu gan ein patrymau tywydd newidiol: y math o gawodydd trwm dwys iawn a brofwn, y gaeafau gwlypach a gawn, ac mae amcangyfrifon gwyddonwyr hinsawdd yn rhagweld mai cynyddu a wnaiff glaw eithafol dros y degawdau nesaf.
Felly, hoffwn gael y cyfle hwn i edrych eto ar fy ngorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol gwreiddiol, ac i edrych ar yr hyn sydd wedi newid ers 2009, a pham nad yw’r Cynulliad wedi edrych o’r newydd ar yr angen am ddeddfau llymach, ac a ddylai wneud hynny. Ac rwy’n meddwl mai’r newid mwyaf nodedig yn y blynyddoedd ers hynny yw’r rheoliadau sy’n berthnasol i waith adeiladu y gellir ei wneud heb ganiatâd cynllunio. Ym mis Medi 2013, daeth rheoliadau newydd i rym yng Nghymru yn cyfyngu ar y math o ddeunydd y gellir ei ddefnyddio i orchuddio tir o flaen eich tŷ os yw’n arwain at briffordd—ac mae priffyrdd yn cynnwys ffyrdd cyhoeddus, llwybrau troed, llwybrau ceffylau, a chilffyrdd—ond yn y bôn, roedd hynny’n ein gosod ar yr un lefel â Lloegr, lle roedd hyn wedi bod yn rheol ers nifer o flynyddoedd.
Felly yn awr, os ydych am osod neu ailosod wyneb caled o flaen eich tŷ, rhaid i chi ddefnyddio deunyddiau athraidd neu fân-dyllog sy’n caniatáu i ddŵr ymdreiddio, neu gyfeirio dŵr oddi ar wyneb caled fel concrid i fan athraidd neu fân-dyllog ar flaen y tŷ. Ond mae gennych hawl i ailosod neu atgyweirio hyd at 5 metr sgwâr o arwynebedd caled presennol heb y cyfyngiadau hyn, a buaswn yn awgrymu y byddai hynny, i’r rhan fwyaf o dai canol teras bach, yn golygu y bydd yr arwynebau concrid a chaled hynny’n bodoli am byth. Ond ni cheir unrhyw gyfyngiadau ar osod patios neu lwybrau concrid a mannau caled eraill yng nghefn eich tŷ—dim o gwbl.
Os ydym o ddifrif am wneud rhywbeth am hyn, rwy’n credu bod gwir angen inni ailystyried yr amryfusedd hwn, gan ei bod yn wir fod y rhan fwyaf o bobl â mwy o dir yng nghefn eu tai nag yn y blaen. Credaf y gallem, drwy reoleiddio neu gryfhau’r SDCau, neu ddraenio cynaliadwy, agweddau ar Strategaeth Ddŵr i Gymru 2015, neu drwy gynnig cymhellion i berchnogion—cymell yn hytrach na gorfodi. Ac rwy’n credu y byddai cefnogaeth ymhlith y cyhoedd i gynigion gwyrddu gerddi. Edrychwch ar sut y mae pobl, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi dechrau cydnabod pwysigrwydd gerddi fel cynefinoedd ar gyfer peillio, adar, a bywyd gwyllt arall. Ar draws Prydain, gerddi domestig yw bron 20 y cant o ddefnydd tir trefol. Felly, dyna adnodd enfawr posibl ar gyfer darparu buddion amgylcheddol.
Ar y naill law, os ydym yn parhau i osod concrid dros fwy a mwy o’r lle hwnnw, rydym yn gwneud niwed amgylcheddol mawr—. Mae’n fater o genedlaethau’r dyfodol. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i edrych ar ôl ein darn o dir ein hunain, ond mae rôl i’r Llywodraeth hefyd. Ond mae’r Llywodraeth hon, a Llywodraethau Llafur Cymru olynol, wedi blaenoriaethu buddsoddiad ar gyfer atal llifogydd, gyda mwy na £240 miliwn ers 2012, a £47 miliwn pellach o gyllid Ewropeaidd. A diolch i’r arian hwnnw, mae mwy na 12,000 eiddo ledled Cymru yn fwy diogel, a diolch i’r cytundeb a ffurfiodd Llywodraeth Cymru bedair blynedd yn ôl gyda’r diwydiant yswiriant, cafodd 64,000 eiddo mewn perygl o lifogydd sicrwydd yswiriant am 20 mlynedd, gyda chap premiwm. Mae hynny’n cymharu’n ffafriol iawn â’r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr.
Yn gynharach eleni, ym mis Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru safonau anstatudol argymelledig ar gyfer draenio cynaliadwy i gynllunwyr, datblygwyr eiddo, awdurdodau lleol, ac eraill sydd â diddordeb, ac mae’n ystyried a ddylid gwneud y rhain yn orfodol, fel y nodir o dan Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2020. Ceir rhai prosiectau uchelgeisiol sydd eisoes yn lleihau dŵr wyneb, a byddwch wedi fy nghlywed sawl gwaith yn cyfeirio at brosiect RainScape yn Llanelli. Cafodd fuddsoddiad o £113 miliwn, ac mae’n enghraifft o gydweithio ardderchog rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, ac mae yna brosiectau eraill, megis Grangetown Werddach. Felly, rwy’n credu bod yr amser wedi dod i ni gydnabod bod angen edrych ar yr ardd gefn ac y gallwn greu cynefin a fydd yn ein cynnal ar gyfer y dyfodol.
Yn gyntaf oll, a gaf fi gytuno â phopeth a ddywedodd Joyce Watson a diolch iddi am ganiatáu munud i mi yn y ddadl hon, ond yn bwysicach, am godi’r mater hynod bwysig hwn? Rwyf am dynnu sylw at bwysigrwydd coed a llwyni. A gaf fi ddechrau gyda hanesyn byr? Roedd tŷ yn fy etholaeth nad oedd erioed wedi cael problem gyda dŵr, ond un flwyddyn, trodd y stepen flaen yn rhaeadr, ac rwy’n golygu hynny’n hollol llythrennol—dôi’r dŵr i lawr fel pe bai’n rhaeadr. Beth oedd wedi newid? Roedd coed a llwyni wedi cael eu tynnu o’r tu ôl i’r tŷ, felly, yr hyn a oedd gennych wedyn oedd y dŵr yn dod i lawr. Rwy’n credu bod angen inni blannu llawer mwy o goed a llwyni i amsugno dŵr cyn iddo ddechrau gwneud ei ffordd i lawr i fannau lle y mae’n creu problemau. Pan fyddwch yn codi llwyni ac yn codi coed, rydych yn arwain at y gwrthwyneb, sef bod y glaw’n troi’n fwd a byddwch yn cael mwd yn llithro i lawr. Rwy’n byw mewn etholaeth sy’n eithriadol o fryniog; rwy’n credu y byddai unrhyw un yn Abertawe yn dweud bod Abertawe yn eithriadol o fryniog mae’n debyg. Mae’n bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod gennym goed a llwyni yno. A wyf fi’n rhagrithiwr? Nac ydw, oherwydd os ewch i fy ngardd flaen, fe welwch wrych ac un goeden fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr, Cadeirydd. Hoffwn innau hefyd ddiolch i Joyce Watson am ddewis y pwnc hwn fel ei dadl fer yr wythnos hon. Rydym yn gwybod y gall fflachlifoedd gael effeithiau dinistriol ar fywydau’r rhai sy’n dioddef yn eu sgil a dyna pam ei fod yn faes blaenoriaeth ar gyfer y Llywodraeth hon. Adlewyrchir hyn yn ein hymrwymiad, yn ‘Symud Cymru Ymlaen’, i barhau i fuddsoddi mewn gwaith amddiffyn rhag llifogydd a rhoi camau pellach ar waith i reoli dŵr yn well yn ein hamgylchedd. Dengys ymchwil y bydd newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol yn peri i lefel y môr godi, stormydd mwy dwys, ac yn arwain hefyd at fwy o fflachlifoedd. Felly, mae angen inni barhau i weithio gyda’n gilydd i leihau’r risg hon, helpu cymunedau i addasu, ac i adeiladu ein gallu i’w gwrthsefyll.
Yn gynharach y mis hwn, gwelsom nifer o ddigwyddiadau llifogydd ynysig o ganlyniad i fflachlifoedd sydyn yn Sir Benfro a Cheredigion a Gwynedd. Rwy’n cydymdeimlo â’r bobl yr effeithiwyd arnynt ac a welodd eu cartrefi dan ddŵr. Felly, rydym yn parhau i gynorthwyo awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i adeiladu gallu i wrthsefyll digwyddiadau o’r fath. Yn ddiweddar, cyhoeddais gyllid refeniw ychwanegol o £1.2 miliwn i awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi gwaith ar gynnal archwiliadau o asedau a chynnal a chadw cyn y gaeaf, fel y gallwn sicrhau ein bod yn gwbl abl i wrthsefyll llifogydd. Mae’r gwaith rheoli risg llifogydd hanfodol hwn yn sicrhau bod asedau’n parhau i weithredu’n effeithiol mewn tywydd garw, ac rwy’n falch bod nifer y rhai a fanteisiodd arno wedi bod mor gadarnhaol.
Felly, mae gennym setliad cyfalaf pedair blynedd bellach, sy’n golygu, dros oes y Llywodraeth hon, y byddwn yn buddsoddi dros £144 miliwn o gyfalaf gydag awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i leihau’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. Ynghyd â’r rhaglen rheoli risg arfordirol, golyga hyn fuddsoddiad posibl o £256 miliwn drwy ein rhaglenni llifogydd. Y flwyddyn ariannol hon, cwblheir cynlluniau sylweddol yn Nhrebefered, Llanelwy, yr Aber Bach, a Phontarddulais a fydd yn lleihau’r perygl o lifogydd i dros 800 eiddo. Rwyf hefyd wedi ymrwymo £1 filiwn o gyllidebau llifogydd blynyddol i awdurdodau lleol yn gynharach eleni i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar raddfa fach. Rwy’n meddwl bod y grant wedi cael croeso mawr gan awdurdodau lleol, oherwydd eu bod yn cydnabod, er bod y cynlluniau mawr gwerth uchel yn hanfodol wrth gwrs—. Rwy’n credu bod gwaith llai yr un mor bwysig ar lefel leol, yn enwedig os ydym yn mynd i leihau’r perygl o fflachlifoedd.
Felly, mae parhau i allu gwrthsefyll llifogydd yn ymwneud nid yn unig â’n buddsoddiad mewn asedau, mae hefyd yn cynnwys y gwaith hanfodol y mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yn ei wneud gyda chymunedau i’w gwneud yn ymwybodol o’r risgiau y maent yn eu hwynebu a sut y gallant baratoi.
Gwnaeth Joyce Watson bwynt penodol am newidiadau a wnaed i hawliau datblygu a ganiateir i ganiatáu arwynebau mân-dyllog yn unig mewn gerddi blaen heb fod angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio. Gwyddom fod hyn wedi annog y defnydd o fathau o arwynebau sydd wedyn yn helpu i leihau dŵr ffo a lleihau perygl llifogydd i eiddo. Rydych yn hollol gywir: nid yw hynny’n berthnasol i gefn adeiladau. Nid yw ychwaith yn berthnasol i ochrau adeiladau. Felly, mae’n rhywbeth y buaswn yn sicr yn hapus iawn i edrych arno.
Mae Mike Hedges yn codi’r pwynt y dylem fod yn plannu mwy o goed. Ni allaf anghytuno â chi ar hynny, Mike, ac yn sicr, rwy’n credu ei bod yn drafodaeth rwy’n ei chael. Nid wyf yn credu ein bod yn plannu digon o goed. Rwyf wedi bod o flaen y pwyllgor rydych yn ei gadeirio, Mike, mewn perthynas â’r mater hwn. Mae arnom angen mwy o goed am nifer o resymau, ac mae hyn, yn amlwg, yn un ohonynt.
Rhan o’n dull o reoli risg llifogydd yng Nghymru yw’r gydnabyddiaeth o’r hyn y gall yr amgylchedd naturiol ei wneud i ddal dŵr yn ôl, lleihau dŵr ffo, a lleihau faint o ddŵr sy’n mynd i mewn i’n hafonydd pan fydd hi’n bwrw glaw. Felly, gall cynlluniau fel plannu coed, creu mannau storio, a gwell defnydd o ddraenio cynaliadwy, helpu i leihau’r perygl o fflachlifoedd, felly rydym yn annog mwy o reolaeth risg llifogydd naturiol drwy ein strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Yn ogystal, bydd yr Aelodau’n gwybod am fy mholisi adnoddau naturiol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac mae hwnnw, unwaith eto, yn amlinellu cyfleoedd i reoli llifogydd gan ddefnyddio technegau o’r fath. Fodd bynnag, yn anffodus, fe wyddom na allwn atal pob fflachlif, ond gallwn roi cynlluniau a phrosesau cynnal a chadw ar waith i leihau’r tebygolrwydd y byddant yn digwydd, a gweithio gyda natur i reoli dŵr yn fwy effeithiol, yn ein hamgylcheddau trefol a gwledig fel ei gilydd.
Diolch yn fawr. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.