Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 27 Medi 2017.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Ac a gaf fi ddweud, fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar brifysgolion—a gwn fod cyd-aelodau o’r pwyllgor yma—fy mod yn croesawu’r cyhoeddiad gan Gadeirydd Prifysgol Cymru, yr Athro Colin Riordan, pan ddywedodd y byddai’n rhaid i holl brifysgolion Cymru, erbyn diwedd mis Gorffennaf 2017, gytuno i god ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi? Ac aeth yn ei flaen i ddweud—a dyma’r gweithrediad ymarferol—fod aelodau Prifysgolion Cymru wedi ymrwymo i dalu cyflog byw’r Living Wage Foundation i bob aelod o staff a gyflogir yn uniongyrchol mewn addysg uwch erbyn 2018-19, ac i ddechrau’r broses o roi’r cyflog byw ar waith mewn perthynas â gweithgarwch allanol o fewn addysg uwch. A yw’n cytuno â mi y dylai pob un ohonom, fel Aelodau’r Cynulliad o bob plaid, ymfalchïo yn y rhan hon o’r difidend datganoli, pan fo’r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru yn gallu cyflymu newid blaengar mewn cyflogaeth?