Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 27 Medi 2017.
Wel, a gaf fi ddiolch i’r Aelod am hynny? Rwy’n cytuno’n llwyr ag ef fod y cod yn enghraifft o sut rydym wedi gallu defnyddio’r pwerau sydd ar gael inni er mwyn torri tir newydd, a sicrhau bod cyflogaeth foesegol yn ganolog i’r ffordd y caiff nwyddau a gwasanaethau eu caffael mewn cadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Nawr, dim ond ym mis Mawrth eleni y cymeradwywyd y cod yng nghyngor partneriaeth y gweithlu, felly roedd yn braf gweld Addysg Uwch Cymru yn mynd ati’n gynnar iawn i ymrwymo i gytuno i’r cod a’i ganlyniadau. Ers hynny, gwyddom y bydd yr holl heddluoedd yng Nghymru yn cytuno i’r cod. Mae gennym awdurdodau lleol yng Nghymru yn cytuno iddo, cymdeithasau tai, mae 20 o sefydliadau’r sector preifat a’r trydydd sector eisoes wedi cytuno iddo, ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cytuno i’r cod. Ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld y cod yn cael ei roi ar waith ar raddfa ehangach, gan wneud y gwaith rydym angen iddo ei wneud, ac i allu adrodd wedyn ar ei effaith mewn cadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru dros y misoedd i ddod.