<p>Bargen Dwf i Ganolbarth Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 27 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 1:39, 27 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fy mod wedi siarad, ddydd Gwener, yn un o gyfarfodydd is-adran wledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, lle yr anogais y cynghorau a oedd yn bresennol—Ceredigion, Powys, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd ac Ynys Môn—i gydweithio i ddatblygu bargen wledig ehangach, yn seiliedig ar le, a’u bod wedi cytuno i wneud hynny? O ran y posibilrwydd fod y strwythur economaidd newydd i sicrhau bod datblygu economaidd yn seiliedig ar hanfodion bargeinion dinesig, tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad â’i Ysgrifennydd dros yr economi i ystyried y posibilrwydd, yn nes ymlaen, pe bai bargen wledig yn cael ei datblygu, y gellir ystyried y strwythur newydd hwnnw fel grŵp newydd o fewn y strwythur economaidd newydd hwnnw.